Gweithredol
Dyfarnu grantiau, benthyciadau a chontractau
Pan fyddwn yn cyhoeddi gwahoddiadau i dendro am gontract, byddwn yn nodi yn y gwahoddiad y gellir cyflwyno tendrau yn Gymraeg, ac na chaiff tendr a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na thendr a gyflwynir yn Saesneg.
Byddwn yn sicrhau na chaiff tendr am gontract a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na thendr a gyflwynir yn Saesneg (gan gynnwys, ymhlith materion eraill, mewn perthynas â’r dyddiad cau ar gyfer derbyn tendrau, ac mewn perthynas â’r amserlen ar gyfer rhoi gwybod i’r sawl sy’n tendro am benderfyniadau).
Pan fyddwn yn rhoi gwybod i’r sawl sy’n tendro am benderfyniad ynghylch tendr, byddwn yn gwneud hynny yn Gymraeg os cafodd y tendr ei gyflwyno yn Gymraeg.
Pan fyddwn yn gwahodd ceisiadau am grant neu fenthyciad, byddwn yn nodi yn y gwahoddiad y gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ac na chaiff unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Byddwn yn sicrhau na chaiff cais am grant neu fenthyciad a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg (gan gynnwys, ymhlith materion eraill, mewn perthynas â’r dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau, ac mewn perthynas â’r amserlen ar gyfer rhoi gwybod i ymgeiswyr am benderfyniadau).
Pan fyddwn yn rhoi gwybod i ymgeisydd am benderfyniad ynghylch cais am grant neu fenthyciad, byddwn yn gwneud hynny yn Gymraeg os cafodd y cais ei gyflwyno yn Gymraeg.
Gwasanaethau TG
Caiff meddalwedd gyfrifiadurol i wirio sillafu a gramadeg yn Gymraeg ei darparu i bob aelod o staff drwy ddarparu meddalwedd fel Cysgliad i bob maes busnes, a’r gallu i ddefnyddio rhaglenni Microsoft Office drwy gyfrwng y Gymraeg.
Lle bo’n bosibl, byddwn yn addasu ein systemau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu presennol er mwyn sicrhau y gallant ein galluogi i ddarparu gwybodaeth a gwasanaethau yn Gymraeg a gweithredu yn unol â’r cynllun hwn.
Y fewnrwyd a chyfathrebu mewnol
Mae rhyngwyneb mewnrwyd yr adran yn Saesneg gan ein bod yn sefydliad sy’n gweithio ledled y DU. Fodd bynnag, dylai cynnwys yn ymwneud â’r Gymraeg ar y fewnrwyd gael ei gynhyrchu’n ddwyieithog i staff yng Nghymru lle y bo’n berthnasol. Pan gaiff testun Cymraeg ei ddefnyddio ar y fewnrwyd, bydd yn gwbl weithredol ac ni chaiff ei drin yn llai ffafriol na’r testun Saesneg cyfatebol. Ein harfer safonol yw y bydd y testun Cymraeg yn dod gyntaf, ac yna’r fersiwn Saesneg.
Bydd Tîm y Gymraeg Awdurdod Ystadegau’r DU yn cynnal tudalen ddynodedig sy’n darparu gwasanaethau a deunydd ategol i hyrwyddo’r Gymraeg a helpu staff i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. Caiff y dudalen hon ei diweddaru’n rheolaidd.
Derbyn ymwelwyr i swyddfeydd a safleoedd yng Nghymru
Byddwn yn sicrhau bod deunyddiau a gaiff eu harddangos yn ein derbynfeydd yng Nghymru yn gwbl ddwyieithog.
Byddwn yn sicrhau bod staff y dderbynfa sy’n gallu darparu gwasanaeth Cymraeg yn gwisgo bathodyn Iaith Gwaith i ddangos hynny.
Staffio
Mae angen i bob un o’n gweithleoedd sydd â chyswllt â’r cyhoedd yng Nghymru allu cael gafael ar ddigon o siaradwyr Cymraeg â’r sgiliau priodol i alluogi’r gweithleoedd hynny i ddarparu gwasanaeth llawn yn Gymraeg. Os bydd y gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol neu’n ddymunol ar gyfer swydd, caiff hyn ei nodi yn y disgrifiad swydd a’r hysbyseb ar gyfer y swydd.
Anogir staff i ddysgu Cymraeg neu i wellau eu gallu i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.
Byddwn yn nodi ac yn asesu’r meysydd lle mae sgiliau Cymraeg yn angenrheidiol.
Byddwn yn cynnal archwiliadau blynyddol i ganfod nifer, lefel gallu a lleoliad y staff sy’n gallu siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg (gan gynnwys staff sy’n dysgu Cymraeg).
Caiff canlyniadau’r ddau ymarfer hyn eu cymharu i nodi meysydd busnes lle mae prinder staff sy’n siarad Cymraeg.
Byddwn yn ymateb i unrhyw brinder drwy ein gweithgareddau recriwtio a hyfforddiant.
Byddwn yn ystyried y posibilrwydd o drosglwyddo staff sy’n gallu siarad Cymraeg i lenwi’r swyddi hynny lle mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol neu’n ddymunol.
Ar gyfer ein swyddfeydd y tu allan i Gymru, byddwn yn gofyn am wybodaeth am sgiliau Cymraeg ymgeiswyr am swyddi a staff presennol.
Recriwtio
Os ystyrir bod angen sgiliau Cymraeg ar gyfer swyddi gwag, caiff hyn ei nodi’n glir yn hysbysebion a gofynion y swydd..
Caiff swyddi lle mae angen sgiliau Cymraeg eu nodi mewn ffordd hawdd, effeithiol a chywir. Bydd Tîm y Gymraeg Awdurdod Ystadegau’r DU yn helpu’r Tîm Recriwtio i greu fframwaith i helpu rheolwyr i gynllunio eu timau a phenderfynu a oes angen staff arnynt sydd â sgiliau Cymraeg penodol, a pha mor hyfedr y dylai’r sgiliau hynny fod.
Darperir pecynnau gwybodaeth a ffurflenni cais yn Gymraeg ac yn Saesneg ar gyfer pob un o’n swyddi lle yr ystyrir bod sgiliau Cymraeg yn angenrheidiol.
Gall sgiliau Cymraeg amrywio o lefel gwrteisi, lle gall deiliad y swydd ynganu enwau Cymraeg ac adnabod cyfarchion sylfaenol, i’r rheini sy’n hyfedr iawn.
Byddwn yn sicrhau bod staff sy’n siarad Cymraeg yn bresennol mewn unrhyw ffeiriau recriwtio y byddwn yn cymryd rhan ynddynt yng Nghymru.
Cyrsiau a gaiff eu cynnig i staff
Anogir ein staff yng Nghymru i ddysgu neu wella eu gallu i siarad Cymraeg a byddwn yn cefnogi’r rhai sy’n dymuno gwneud hynny. Rhoddir blaenoriaeth i’r rheini sydd â chyswllt sylweddol a rheolaidd â’r cyhoedd, neu sy’n delio â siaradwyr Cymraeg yn rheolaidd fel rhan o’u gwaith.
Byddwn yn ariannu’r hyfforddiant hwn ac yn caniatáu i staff fynychu cyrsiau yn ystod oriau gwaith.
Ar gyfer ein swyddfeydd y tu allan i Gymru, byddwn yn cefnogi ac yn ariannu hyfforddiant i staff sydd â chyswllt sylweddol a rheolaidd â’r cyhoedd yng Nghymru fel rhan o’u dyletswyddau ac sy’n dymuno dysgu Cymraeg neu wella eu Cymraeg.
Byddwn yn datblygu gallu ein staff sy’n siarad Cymraeg i weithredu yn Gymraeg drwy roi hyfforddiant galwedigaethol yn Gymraeg.
Ystyried effeithiau penderfyniadau polisi'r adran ar y Gymraeg
Bydd Tîm y Gymraeg Awdurdod Ystadegau’r DU yn sicrhau bod pob maes busnes yn ymwybodol o’r gofynion o ran y Gymraeg a nodir yn y cynllun hwn mewn perthynas â gwneud penderfyniadau polisi mewnol a fydd yn berthnasol i’n gwaith yng Nghymru a’r defnydd o’r Gymraeg yn y sefydliad.
Back to top