Cyflwyniad 

Pam y cafodd y Tasglu Data Cynhwysol ei sefydlu?

Flwyddyn yn ôl, galwodd yr Ystadegydd Gwladol dasglu annibynnol ynghyd i argymell y ffyrdd gorau o wneud newid sylweddol o ran cynwysoldeb data a thystiolaeth y DU. Cyn hynny, cyhoeddwyd Statistics for the Public Good, sef gweledigaeth strategol Awdurdod Ystadegau’r DU sydd â’r nod o sicrhau bod pawb yn y DU yn cyfrif ac yn cael eu cyfrif, a bod neb yn cael ei adael ar ôl.

Ymhlith aelodau’r Tasglu, a gadeiriwyd gan y Fonesig Moira Gibb, roedd grŵp amrywiol o uwch-academyddion ac arweinwyr cymdeithas sifil ag amrywiaeth eang o arbenigedd ym meysydd cydraddoldebau, methodolegau, daearyddiaeth a moeseg data.

Back to top

Beth oedd ein nod?

Gofynnwyd i ni ystyried pedwar cwestiwn pwysig, a’r atebion i’r cwestiynau hynny yw’r sail ar gyfer ein hargymhellion i’r Ystadegydd Gwladol:

  • sut y gallwn wneud ein dull o gasglu data a thystiolaeth, eu dadansoddi ac adrodd arnynt yn fwy cynhwysol?
  • sut y gallwn ddefnyddio’r data sydd eisoes ar gael, megis data gweinyddol, data’r cyfrifiad a data arolygon, yn y ffordd fwyaf effeithiol er mwyn deall cydraddoldebau a chynhwysiant?
  • beth yw’r bylchau allweddol mewn data sy’n ein hatal rhag deall cydraddoldebau a chynhwysiant, a sut y gallwn gau’r bylchau hynny?
  • sut y gallwn adeiladu ar ein profiadau ein hunain a phrofiadau pobl eraill er mwyn gwella ein dull gweithredu mewn perthynas â chydraddoldebau a chynhwysiant yn y dyfodol?
Back to top

Beth wnaethom ni?

Dros gyfnod o 9 mis, rhoesom raglen uchelgeisiol o weithgareddau ymgysylltu ar waith er mwyn gwrando a dysgu. Roedd hyn yn cynnwys sgyrsiau â phobl a all gael eu gwahodd i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil a rhannu eu data ag ymchwilwyr, a phobl sy’n casglu neu’n defnyddio data a thystiolaeth. Clywsom gan bobl o bedair gwlad y DU drwy amrywiaeth o weithgareddau ymgynghori a gynhaliwyd rhwng mis Ionawr a mis Mai 2021, gan gynnwys:

  • ymgynghoriad agored 12 wythnos ar-lein ar Citizen Space
  • saith trafodaeth bord gron a chwe chyfweliad manwl â chynrychiolwyr llywodraeth ganolog a llywodraeth leol, a llywodraethau’r gwledydd datganoledig
  • pedair trafodaeth bord gron a dau gyfweliad manwl ag academyddion a chynrychiolwyr cymdeithasau dysgedig
  • trafodaethau â mwy nag 80 o arweinwyr cymdeithas sifil sy’n gweithio mewn 15 o feysydd sy’n gysylltiedig â chydraddoldeb
  • trafodaethau â mwy na 90 o aelodau o’r cyhoedd sydd â phrofiad uniongyrchol o faterion yn ymwneud â chydraddoldeb

Deuai’r cyfranogwyr o amrywiaeth o gefndiroedd a chawsant eu dewis yn seiliedig ar y gwaith sy’n cael ei wneud ym maes cydraddoldebau ar hyn o bryd. Cafodd digwyddiadau ymgynghori eu cynnal ar-lein, am iddynt gael eu cynnal yn ystod y pandemig pan oedd cyfarfodydd wyneb yn wyneb wedi’u cyfyngu. Er mwyn sicrhau ein bod yn clywed gan bobl nad oedd mor hawdd iddynt ddefnyddio’r rhyngrwyd, gwnaethom hefyd gynnal ymgynghoriad papur drwy’r post â phobl sy’n wynebu risg o allgáu digidol. Cawsom ein gwahodd gan grwpiau a sefydliadau eraill i ddigwyddiadau roeddent yn eu trefnu er mwyn cyfrannu eu safbwyntiau at yr ymgynghoriad. Ymhlith y rhain roedd:

  • trafodaeth bord gron a drefnwyd gan bobl sy’n ystyried eu hunain yn Sikhiaid
  • trafodaeth bord gron a drefnwyd gan bobl sy’n ystyried eu hunain yn Fwslimiaid
  • digwyddiad a drefnwyd gan y Sefydliad Data Agored
  • digwyddiad a drefnwyd gan y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu

Yn ystod ein cyfarfodydd misol, gwnaethom ystyried papurau a chyflwyniadau ar amrywiaeth eang o bynciau sy’n gysylltiedig â data a thystiolaeth gynhwysol. Gwnaethom gomisiynu rhai ohonynt ein hunain, ar bynciau roeddem yn teimlo ei bod yn bwysig i ni ddysgu mwy amdanynt, a chafodd eraill eu cyfrannu gan bobl a oedd am dynnu ein sylw at eu gwaith.

Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a rannodd eu safbwyntiau a’u profiadau â ni ac rydym wedi ceisio gwneud cyfiawnder â’r toreth o wybodaeth a gasglwyd yn ein hargymhellion ar gyfer y ffordd ymlaen. I unrhyw rai a hoffai edrych yn fanylach ar ganfyddiadau pob un o’r gweithgareddau ymgynghori, maent wedi cael eu cyhoeddi ar wahân ac maent ar gael i’w gweld ar-lein. Mae dolenni i bob adroddiad i’w gweld yn yr adran ‘Tystiolaeth ategol’.

Mae’r adroddiad hwn hefyd ar gael yn Saesneg. Mae fersiwn gryno o’r adroddiad hwn ar gael yn Gymraeg, yn Saesneg ac mewn fformat hawdd ei ddeall. Mae fersiynau hawdd eu deall o’r adroddiad cryno ar gael yn Gymraeg, yn Saesneg ac mewn Pwyleg, Rwmaneg, Pwnjabeg, Cantoneg, Arabeg a Ffarsi. Os bydd angen fformat arall arnoch, rhowch wybod i ni yn equalities@ons.gov.uk neu ffoniwch 0800 298 5313.

Back to top

Ein hadroddiad a'n hargymhellion

Rydym wedi ystyried yr holl dystiolaeth a gasglwyd yn ofalus wrth lunio ein hargymhellion ac mae’r adroddiad hwn yn crynhoi llawer o’r prif faterion a godwyd gan bobl. Drwy gydol y gweithgareddau ymgynghori, ac yn yr holl dystiolaeth a gasglwyd yn ystod ein cyfarfodydd, daeth yn amlwg y bydd angen gwneud y canlynol er mwyn sicrhau’r newid sylweddol sy’n angenrheidiol er mwyn cael data mwy cynhwysol:

  • meithrin diwylliant cryf o ymddiriedaeth a dibynadwyedd, gan gydnabod yr angen i sicrhau bod gan bobl sy’n rhannu eu data, a’r rhai sy’n defnyddio data er budd y cyhoedd, hyder yn y ffordd y caiff data eu casglu
  • dull system gyfan ac ymrwymiad gwirioneddol i fod yn fwy cynhwysol o ran yr hyn a gaiff ei fesur a sut, a phwy yr ymgysylltir â nhw, sicrhau bod data a thystiolaeth ar gael yn ehangach, a gwella cywirdeb y wybodaeth a gaiff ei llunio er mwyn adlewyrchu bywydau pobl yn well
  • eglurder ynglŷn â’r hyn y mae bod yn gynhwysol yn ei olygu yn ymarferol, er mwyn sicrhau bod data a thystiolaeth yn adlewyrchu ein cymdeithas, nawr ac wrth iddi ddatblygu, a hynny mewn ffordd gynhwysfawr a dibynadwy

Ceisiodd y Tasglu fod mor gynhwysol â phosibl wrth ystyried anghenion ledled pedair gwlad y DU. Mae pedwar fframwaith deddfwriaethol gwahanol ar waith ledled y DU ac rydym wedi cadw hyn mewn cof wrth gyfeirio at boblogaethau a grwpiau buddiant mewn perthynas â data a thystiolaeth ar gydraddoldebau a chynhwysiant. Mae’r Tasglu wedi canolbwyntio ar amrywiaeth eang o boblogaethau a grwpiau a all wynebu mwy o risg o anfantais, gwahaniaethu neu ymyleiddio, yn gyffredinol ac yn ein darlun ystadegol o’r DU. Mae hyn wedi cynnwys:

  • pobl sydd â nodweddion gwarchodedig yn unol â’r Ddeddf Cydraddoldeb (2010) sy’n gymwys yng Nghymru, Lloegr a’r Alban
  • grwpiau sydd wedi’u henwi yn y Nodau Datblygu Cynaliadwy am ei bod yn arbennig o bwysig eu dadgyfuno er mwyn sicrhau nad ydym yn gadael neb ar ôl
  • pobl eraill nad ydynt yn rhan o’r fframweithiau hyn yn benodol, ond y gwyddom eu bod heb gynrychiolaeth ddigonol yn ystadegau a thystiolaeth y DU, megis preswylwyr rhai mathau o sefydliadau cymunedol, poblogaethau cartrefi nad ydynt yn rhai preifat yn fwy cyffredinol, a mudwyr heb eu dogfennu

Drwy ein hadroddiad a’n hargymhellion, rydym wedi defnyddio ‘grwpiau a phoblogaethau perthnasol’ i gyfeirio at grwpiau cymdeithasol a phoblogaethau cyfranogwyr y mae ein hargymhellion yn canolbwyntio’n benodol arnynt mewn perthynas â chasglu data, eu cofnodi ac adrodd arnynt mewn ffordd fwy cynhwysol. Mae hyn yn cynnwys grwpiau â nodweddion gwarchodedig (yng Nghymru, Lloegr a’r Alban) a’r grwpiau hynny sydd ar goll yn llwyr o’r data neu’r grwpiau y mae’r data arnynt yn brin neu o ansawdd gwael.

Cyfeiriwn hefyd at ‘grwpiau wedi’u hiliaethu’, neu bobl yr ystyrir eu bod yn rhannu nodweddion y tybir eu bod yn seiliedig ar ‘hil’ gyffredin. Mae’r term ‘wedi’u hiliaethu’ yn tynnu sylw at natur gymdeithasol y dybiaeth hon, yn hytrach na’i bod yn seiliedig ar fioleg.

Back to top
Download PDF version (1.04 MB)