Pa mor gynhwysol yw dulliau presennol y DU o gasglu data?

Mae data yn hanfodol er mwyn deall anghenion ac amgylchiadau grwpiau gwahanol o bobl, am eu bod yn fodd i droi gwybodaeth yn ddealltwriaeth graff a all fod yn sail ar gyfer gweithredu. Dim drwy gasglu data cyflawn a phriodol y bydd modd cyflawni hyn, er mwyn sicrhau bod pawb yn cyfrif ac yn cael eu cyfrif, a bod neb yn cael ei adael ar ôl. Yn ein gweithgareddau ymgynghori, nodwyd amrywiaeth o broblemau y mae angen eu datrys er mwyn i ni allu cyflawni hyn.

Back to top

Mynd i'r afael â chyfranogiad mewn gweithgareddau casglu data

Dangosodd gwaith ymchwil a wnaed gyda sefydliadau cymdeithas sifil ac unigolion o grwpiau a phoblogaethau perthnasol fod amrywiaeth eang o ffactorau ymarferol, diwylliannol ac emosiynol sy’n effeithio ar barodrwydd, gallu a chyfle pobl i roi eu gwybodaeth bersonol a chymryd rhan mewn ymarferion ymchwil ffurfiol. Yn fras, gellir rhannu’r rhain yn broblemau sy’n ymwneud ag ymddiriedaeth a dibynadwyedd, parodrwydd i gymryd rhan a hygyrchedd gweithgareddau casglu data. Fodd bynnag, nid yw’r pryderon a’r problemau hyn yn annibynnol ar ei gilydd, ac mae’n bosibl i gyfuniad o’r ffactorau hyn effeithio ar allu pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau casglu data.

Cyfeiriwyd at ymddiriedaeth ym mhob un o’n gweithgareddau ymgynghori fel rhwystr rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau casglu data. Roedd hyn yn cynnwys canfyddiad ymhlith sawl cyfranogwr bod ymdeimlad cyffredinol o ddiffyg ymddiriedaeth yn y llywodraeth, a hefyd yn ystadegau’r llywodraeth, yn enwedig ymhlith grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol (yn benodol, nodwyd bod hyn yn effeithio ar bobl o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, grwpiau ethnig lleiafrifol eraill a mudwyr wedi’u dogfennu a heb eu dogfennu), ond nid ymhlith y grwpiau hyn yn unig. Disgrifiodd y cyfranogwyr sut y gallai hyn olygu na chaiff rhai grwpiau eu cynrychioli’n ddigonol neu eu bod yn anweledig i bob pwrpas, gan arwain yn y pen draw at benderfyniadau polisi na fyddant yn adlewyrchu’r poblogaethau hyn yn ddigonol ac a fydd yn lleihau eu hymddiriedaeth ymhellach.

Nododd y cyfranogwyr rywfaint o ansicrwydd a phryder ymhlith grwpiau a phoblogaethau perthnasol ynglŷn â sut y bydd y llywodraeth yn defnyddio eu data o bosibl. Soniodd llawer ohonynt am bryderon y gallai cymryd rhan mewn gweithgareddau casglu data neu ddefnyddio rhai gwasanaethau penodol arwain at driniaeth anghyfartal, gwahaniaethu, neu waethygu eu sefyllfa. Disgrifiwyd hyn gan grwpiau sy’n rhan o’r gwaith o gasglu data, unigolion o grwpiau a phoblogaethau perthnasol a sefydliadau cymdeithas sifil. Dywedodd unigolion eu bod yn teimlo na allent roi gwybod i’r heddlu am droseddau treisgar am eu bod yn credu y byddent mewn perygl o gael eu cadw yn y ddalfa ar ôl i’w statws mewnfudo gael ei ddatgelu. Roedd yr ymatebwyr i’r ymgynghoriad ar-lein o’r farn mai cyfrifoldeb y rhai sy’n casglu data yw cyrraedd yr aelodau hynny o gymdeithas a rhoi tawelwch meddwl iddynt, er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel a bod anghenion y grwpiau hyn yn cael eu deall a’u hadlewyrchu.

Hefyd yn ein gweithgareddau ymgynghori, tynnwyd sylw at rwystrau ychwanegol rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgynghori a all effeithio ar eu parodrwydd i gymryd rhan. Ymhlith y rhain roedd:

    • methu ag uniaethu â’r opsiynau sydd wedi’u cynnwys yn yr adnoddau casglu data, a theimlo nad ydynt yn cael eu cynnwys oherwydd defnydd amhriodol o eirfa (er enghraifft, dim cyfle i unigolion nodi eu bod yn bobl drawsryweddol, yn bobl anneuaidd neu’n bobl â rhywedd amrywiol, bod ganddynt genedligrwydd deuol na’u bod yn perthyn i gategorïau amlethnig).

  • “Rwy’n hoffi dweud ‘Rwy’n dod o [gefndir] Affricanaidd Caribïaidd, mae fy mam o Ghana ac mae fy nhad o Barbados’, ond does dim ffurflen lle y galla’ i ddweud hynny. Wedyn rwy’n teimlo fel fy mod yn cael fy ngwrthod.” Unigolyn

  • blinder yn sgil gormod o ymchwil (er enghraifft, pobl â phroblemau iechyd meddwl a grwpiau ethnig difreintiedig ac wedi’u hiliaethu)
  • pwysau o gyfeiriadau gwahanol yn eu bywydau beunyddiol (er enghraifft, ymdopi ag anabledd corfforol, cyfuno gwaith am dâl â gwaith di-dâl)
  • fawr ddim budd personol na chymunedol, os o gwbl, o gymryd rhan, yn enwedig lle nad oedd gweithgareddau ymgynghori blaenorol wedi arwain at weithredu neu lle nad oedd canlyniadau diriaethol i’w gweld ar ôl cymryd rhan.

Yn yr un modd, nododd academyddion a chyfranogwyr o gymdeithasau dysgedig na fyddai rhai pobl am gymryd rhan mewn gweithgareddau casglu data o bosibl. Mae hyn yn arwain at ‘duedd goroesedd’ sy’n golygu bod ymchwilwyr yn canolbwyntio eu hymdrechion ar grwpiau sydd eisoes wedi cymryd rhan ac yn anwybyddu’r rhai heb gynrychiolaeth ddigonol, er nad problem i grwpiau agored i niwed na grwpiau ar y cyrion yn unig yw hon.

Hyd yn oed lle nad oes problemau o ran ymddiriedaeth na dibynadwyedd a bod yr unigolyn yn fodlon cymryd rhan, gwelsom y gall pobl gael eu hatal rhag gwneud hynny o hyd oherwydd diffyg hygyrchedd ymarferion casglu data. Yn gyntaf, gall offerynnau casglu data ar-lein allgáu pobl y mae’n anodd neu’n amhosibl iddynt ddefnyddio dyfeisiau digidol neu bobl nad yw’r sgiliau digidol angenrheidiol ganddynt. Dywedodd cyfranogwyr o’r llywodraeth fod allgáu digidol yn adlewyrchu bylchau mewn technoleg a sgiliau, a chostau sy’n gysylltiedig â chymryd rhan. Nodwyd bod diffyg argaeledd Wi-Fi, a’r costau yr eir iddynt wrth gymryd rhan dros y ffôn, yn rhwystro grwpiau a gaiff eu hallgáu’n ddigidol a’r rhai sy’n wynebu caledi ariannol rhag cymryd rhan. Cododd sefydliadau a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad ar-lein bryderon ynglŷn â symud o ddulliau wyneb yn wyneb i arolygon ar-lein yn ystod y pandemig, ac y gall is-grwpiau penodol gael eu hallgáu o ganlyniad i hynny. Cododd yr ymatebwyr i’r ymgynghoriad papur bryderon ynglŷn â’r cynnydd yn nifer yr arolygon a gaiff eu cynnal ar-lein ac ymwybyddiaeth o oblygiadau eu diffyg sgiliau eu hunain. Pwysleisiodd yr ymatebwyr bod rhaid i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau gydnabod yr anawsterau sy’n gysylltiedig ag allgáu digidol ac ymateb iddynt er mwyn osgoi rhagor o arferion sy’n allgáu pobl.

Yn ail, mae’n bosibl nad yw dulliau’n ystyried anghenion gwahanol grwpiau poblogaeth o ran iaith, llythrennedd neu ddealltwriaeth. Er enghraifft, pwysleisiodd cyfranogwyr o’r llywodraeth fod pobl hŷn, pobl anabl a phobl na allant gymryd rhan oherwydd rhwystrau sy’n gysylltiedig ag iaith neu gyfieithu yn wynebu mwy o risg o gael eu hallgáu o waith ymchwil. Hefyd, cododd y rhai a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad ar-lein bryderon bod unigolion y tybir na allant roi cydsyniad ar sail gwybodaeth yn aml yn cael eu hallgáu o arolygon, megis pobl hŷn neu bobl heb alluedd meddyliol.

Yn drydydd, roedd hunaniaeth bersonol a nodweddion y rhai sy’n gyfrifol am ddylunio a chwblhau’r gwaith casglu a dadansoddi data yn bryder i rai grwpiau. Roedd canfyddiad o ddiffyg amrywiaeth o fewn sefydliadau casglu data ac roeddent yn teimlo y byddai gwell cynrychiolaeth i grwpiau a phoblogaethau perthnasol yn y gymuned ymchwil yn sicrhau gwell dealltwriaeth o wahanol ddiwylliannau, yn mynd i’r afael â rhwystrau rhag cymryd rhan ac yn lleihau’r risg o lethu cyfranogwyr drwy ddyblygu gwaith ymchwil.

Back to top

Sicrhau bod y data a gesglir yn diwallu anghenion ymatebwyr a defnyddwyr

Daeth yr angen i gasglwyr data gynnig categorïau ystyrlon y gall ymatebwyr eu hadnabod a’u defnyddio i ddisgrifio eu hunain a’u hamgylchiadau i’r amlwg yn gyson o’n gweithgareddau ymgynghori. Credai pobl fod y labeli a ddefnyddir i gasglu gwybodaeth am nodweddion unigolion wrth gasglu data yn hollbwysig er mwyn galluogi pobl i ddewis categorïau mewn arolygon ac ar ffurflenni sy’n adlewyrchu eu nodweddion a’u hamgylchiadau personol a sicrhau bod y data’n helpu i feithrin dealltwriaeth gywir ac y gellir cymryd camau gweithredu mewn ymateb i hynny. Credai pobl fod cyfyngu ar y ffordd y caiff data eu cyflwyno o dan labeli a allai homogeneiddio grwpiau amrywiol ac unigryw yn hynod broblemus a chamarweiniol, ac y gallai fod yn sarhaus hefyd. Os mai gwerth data yw galluogi pobl i gael eu deall yn well, a’u cynrychioli mewn gwasanaethau a pholisïau, rhaid i’r data gynrychioli amgylchiadau a hunaniaethau pobl yn gywir. Mewn data arolygon yn benodol, mae nifer yr ymatebwyr sy’n dewis categori grŵp ‘arall’ neu ‘ethnig’ wedi cynyddu, gan gyfyngu ar y gallu i ddeall hunaniaeth unigolyn yn effeithiol.

Teimlai sefydliadau cymdeithas sifil ac unigolion o grwpiau a phoblogaethau perthnasol fod cwestiynau’n aml yn hen ffasiwn. Nodwyd hyn yn benodol mewn perthynas â chwestiynau a diffiniadau ynglŷn ag ethnigrwydd, a all gyfuno hil, ethnigrwydd a chenedligrwydd a chynnig categorïau eang sy’n cwmpasu amrywiaeth o grwpiau ethnig a tharddiadau cenedlaethol. Nodwyd hyn hefyd mewn cwestiynau am anabledd sy’n seiliedig ar gysyniadau hen ffasiwn a diffygiol nad ydynt yn cyfleu profiadau unigolion yn ddigonol (gan gynnwys anghenion, rhwystrau strwythurol a wynebir a phrofiadau o oresgyn rhwystrau, neu amrywiaeth anableddau, er enghraifft). Galwodd y sefydliadau a’r unigolion a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad ar-lein yn benodol am i weithgareddau casglu data ar anabledd newid o ganolbwyntio ar y model meddygol, sy’n ystyried namau neu wahaniaethau unigolyn, a chanolbwyntio ar y model cymdeithasol o anabledd, sy’n ystyried anghenion a safbwyntiau’r unigolyn ac sy’n gweld cymdeithas fel ffactor sylweddol sy’n cyfrannu at analluogrwydd. Gallai hyn wella’r ffordd yr eir i’r afael â’r rhwystrau sefydliadol a strwythurol sy’n cyfyngu ar allu pobl i gymryd rhan mewn cymdeithas.

Back to top

Sicrhau bod y data a gesglir o ansawdd digonol i gyfrif pawb mewn cymdeithas a monitro eu canlyniadau yn gywir

Nododd y rhai a gymerodd ran yn ein gweithgareddau ymgynghori amrywiaeth o broblemau ansawdd mewn perthynas â chasglu data, yn enwedig o ran heriau cysyniadol a diffyg cysondeb a chydlyniant.

Pwysleisiwyd bod angen cysoni’r data a gesglir ar nodweddion personol er mwyn adlewyrchu nodweddion ac amgylchiadau grwpiau lleiafrifol yn holl ddata gweinyddol a data arolygon cenedlaethol y DU. Hefyd, tynnodd y cyfranogwyr sylw at yr angen i’r diffiniadau, y categorïau a’r mathau o gwestiynau a ddefnyddir i gasglu data ar nodweddion personol fod yn fwy cynhwysol. Teimlai pobl fod diffyg cysondeb yn amharu ar y gallu i ddadgyfuno yn ogystal â chymharu data rhwng gwledydd gwahanol y DU. Dywedodd y rhai a gymerodd ran yn y gweithgareddau ymgynghori fod diffiniadau, dosbarthiadau ac opsiynau ymateb lluosog ar gyfer ethnigrwydd, anabledd, rhyw a rhywedd yn peri problemau cysyniadol arbennig o heriol. Pwysleisiodd sefydliadau cymdeithas sifil fod y diffyg cysondeb yn y data gweinyddol a gesglir oddi wrth wasanaethau cyhoeddus (er enghraifft ysgolion, heddluoedd, gwasanaethau iechyd) wedi arwain at ddarlun anghyson o is-grwpiau penodol (yn arbennig mewn perthynas â ffydd ac ethnigrwydd) a diffyg cysondeb rhwng data “swyddogol” a’r data a gesglir gan sefydliadau cymdeithas sifil ar lawr gwlad. Soniodd y cyfranogwyr o’r llywodraeth a’r ymatebwyr ar-lein fod categorïau Cyfrifiad 2001 ar gyfer ethnigrwydd yn dal i gael eu defnyddio’n eang wrth gasglu data, er y cydnabyddir nad yw hyn bob amser yn adlewyrchu amrywiaeth ethnig y boblogaeth ar hyn o bryd yn ddigonol.

Tynnwyd sylw at y diffyg cysondeb yn y defnydd o ddiffiniadau o anabledd ledled y DU, sy’n arwain at gofnodi gwybodaeth am anabledd mewn ffyrdd gwahanol. Cyfeiriwyd at anghysondebau rhwng diffiniadau o’r term ‘difreintiedig’ hefyd fel problem sylweddol i ddadansoddwyr, a oedd yn arbennig o broblemus wrth geisio cyflawni dadansoddiadau ar gyfer ardaloedd lleol penodol.

Soniwyd am y problemau sy’n codi o ganlyniad i feintiau sampl bach mewn arolygon o gartrefi ym mhob un o’n gweithgareddau ymgynghori, bron. Mae’r rhain yn arwain at ddiffyg manylder yn y data, sy’n tanseilio dealltwriaeth o is-grwpiau penodol o’r boblogaeth, boed fesul sector, ardal ddaearyddol neu nodwedd, a gall hyn olygu bod grwpiau cyfan yn anweledig mewn data. Yn aml, er mwyn cael gwybodaeth ar lefel leol am boblogaethau neu nodweddion grwpiau penodol, rhaid cyfuno grwpiau llai yn gategorïau mwy. Mae’n bosibl na fydd y categorïau mwy hyn yn adlewyrchu poblogaethau sydd o ddiddordeb yn ddigonol ac na fydd unigolion yn gallu uniaethu â chyfuniadau mwy; dywedwyd y gallai parhau i ddefnyddio’r categori eang ‘BAME’ (Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol) ymyleiddio a dieithrio grwpiau a phoblogaethau perthnasol.

Nododd y cyfranogwyr fod meintiau sampl bach hefyd yn amharu ar ein gallu i gyflawni dadansoddiadau croestoriadol. Er enghraifft, er y gall gwybodaeth am ddosbarthiadau oedran a rhyw fod ar gael ar gyfer ardaloedd daearyddol bach, bydd meintiau sampl bach yn atal rhywun rhag dadansoddi profiad menywod mudol hŷn mewn ardaloedd penodol. Awgrymodd yr ymatebwyr i’r ymgynghoriad ar-lein y gellid goresgyn y problemau sy’n gysylltiedig â meintiau sampl mewn arolygon o gartrefi drwy ddefnyddio dulliau ansoddol ar gyfer poblogaethau penodol, gan nodi bod i ddulliau meintiol gyfyngiadau o ran deall profiadau go iawn grwpiau gwahanol o bobl.

Codwyd amlder casglu data fel mater pwysig hefyd. Cydnabuwyd bod cyfrifiadau’r DU yn ffynhonnell werthfawr o ddata cynhwysol, sy’n cynnig cipolwg na all ffynonellau data eraill mo’i gynnig, ond mae’r bwlch o 10 mlynedd rhwng cyfrifiadau’n golygu bod y data sy’n deillio ohonynt yn aml wedi dyddio ers sawl blwyddyn. Gall y data cyd-destunol a ddarperir gan y cyfrifiad ar nodweddion ardaloedd lleol helpu i ddeall y profiad o anfantais, ond byddant yn fwy gwerthfawr pan gânt eu hategu gan y Mynegeion Amddifadedd Lluosog ar gyfer ardaloedd bach. Fodd bynnag, caiff y Mynegeion Amddifadedd Lluosog eu llunio ar gyfer gwledydd y DU ar wahân a’u diweddaru ar adegau gwahanol, felly ni allant gynnig dealltwriaeth wedi’i chysoni o amddifadedd ardaloedd lleol ledled y DU. Hefyd, ceir rhwystredigaeth na chaiff dadansoddiadau manwl o feysydd allweddol sy’n ymwneud â chydraddoldeb (megis cyfeiriadedd rhywiol) a ariennir drwy arian cyhoeddus eu cynnal yn aml nac yn seiliedig ar fwriad strategol hirdymor, yn ôl pob golwg.

Yn olaf, codwyd pryder gan academyddion a chyfranogwyr o gymdeithasau dysgedig mewn perthynas â defnyddio data sydd eisoes ar gael fel data dysgu mewn algorithmau dysgu peirianyddol. Bydd unrhyw dueddiadau yn y data hynny, er enghraifft os byddant yn camgynrychioli rhannau penodol o’r boblogaeth, yn arwain at ragfynegiadau sy’n anghynrychiadol neu sydd â thuedd. Dywedwyd y gallai hyn olygu y bydd tuedd yn parhau wrth wneud penderfyniadau yn y dyfodol.

Back to top
Download PDF version (1.04 MB)