Sut y gallwn sicrhau y caiff pawb mewn cymdeithas eu cynrychioli mewn dadansoddiadau ac allbynnau data?

Un neges glir a ddaeth i’r amlwg yn ein gweithgareddau ymgynghori oedd pwysigrwydd cadernid data, o ran cynrychioldeb a dilysrwydd ystadegol. Hefyd, mae perthnasedd a manylder y data yn agweddau hanfodol y dylid eu hystyried yn ddigonol. I ddarparwyr gwasanaethau lleol, gallai hyn olygu cael data ar y boblogaeth leol y maent yn darparu gwasanaethau penodol ar ei chyfer. I ddefnyddwyr sy’n ymwneud ag eiriolaeth ranbarthol neu genedlaethol, gallai olygu cael data er mwyn deall materion sy’n effeithio ar faes cydraddoldeb neu grŵp penodol mewn ffordd sy’n golygu bod modd dadgyfuno yn ôl nodweddion sydd o ddiddordeb. Mae gallu archwilio sut mae nodweddion gwahanol yn croestorri i greu profiadau gwahanol i unigolion mewn cymdeithas yn hollbwysig er mwyn sicrhau nad ydym yn ‘gadael neb ar ôl’. Yn yr un modd, mae argaeledd data sy’n fanwl yn ddaearyddol yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod gan y rhai sy’n llunio polisïau ar lefel leol y dystiolaeth sydd ei hangen arnynt i wneud penderfyniadau. Mae hyn yn arbennig o berthnasol wrth ystyried data i lywio agenda ‘codi’r gwastad’ Llywodraeth y DU, ond mae hefyd yn hanfodol ar gyfer sefydliadau a gwasanaethau lleol penodol.

Nododd unigolion a grwpiau a gymerodd ran yn ein gweithgareddau ymgynghori amrywiaeth eang o faterion sy’n effeithio ar y ffordd y maent yn defnyddio data ac i ba raddau y mae ystadegau’n adlewyrchu profiadau pawb mewn cymdeithas. Ar y cyfan, roedd y cyfranogwyr yn cydnabod y gallai sefydliadau ac unigolion gael gafael ar lawer iawn o ddata ar rai pynciau, ond nid ar bob pwnc o bell ffordd. Fodd bynnag, roeddent yn teimlo bod problemau ynghlwm wrth geisio meithrin dealltwriaeth y gellir gweithredu arni o’r data sydd ar gael, oherwydd bylchau mewn data neu am fod data cyfun yn amharu ar werth a defnyddioldeb. Nodir isod y problemau y tynnwyd sylw atynt yn gyson yn y gwahanol ddigwyddiadau ymgynghori.

Back to top

Diffyg manylder mewn data i allu deall is-grwpiau penodol a chroestoriadedd nodweddion personol

“Er efallai y gallwn i ddweud mai’r cymunedau Asiaidd yn ein hardal leol yw X, Y neu Z, bydd hi’n anoddach wedyn i mi ddweud ‘Beth am y menywod Asiaidd yn unig?’ neu ‘Beth am fenywod Asiaidd sydd ag anabledd?’” Sefydliad Cymdeithas Sifil sy’n gweithio o blaid cydraddoldeb hiliol ac ethnig

Mae’r cyfranogwyr wedi ystyried yr her hon o ran i ba raddau y mae’r data’n addas i’r diben, yn cael eu cofnodi mewn fformatau safonedig ac yn cael eu cadw mewn cyflwr sy’n golygu eu bod yn ganfyddadwy, yn hygyrch ac y gellir eu defnyddio ar gyfer gwaith dadansoddi.

Drwy gydol yr ymarferion ymgynghori, pwysleisiai’r cyfranogwyr na ellir dadgyfuno data ar nodweddion allweddol a phwysigrwydd deall y ffordd y mae gwahanol nodweddion yn croestorri a dylanwad hyn ar ganlyniadau amrywiol. Er enghraifft, dywedodd y sefydliadau a gymerodd ran yn ein gweithgareddau ymgysylltu nad yw’n ddigon gweld data o ddiddordeb wedi’u dadgyfuno fesul grŵp ethnig a bod angen nodweddion eraill, megis grŵp ethnig yn ôl oedran, neu grŵp ethnig yn ôl rhyw.

Teimlai’r cyfranogwyr fod yr arfer bresennol o gyfuno nodweddion personol mewn categorïau ehangach megis oedran, ethnigrwydd, ffydd, neu gyfeiriadedd rhywiol yn amharu’n ddifrifol ar gynwysoldeb ystadegau a hefyd y gallai gamliwio problemau ac anghenion cymunedau llai a chymunedau sydd wedi’u hymyleiddio’n fwy. Nododd y sefydliadau cymdeithas sifil a gymerodd ran yn y gwaith ymchwil hwn, fod diffyg manylder, hyd yn oed yn y data yr ystyrir eu bod o’r safon uchaf, megis y cyfrifiad, yn golygu na allent feithrin dealltwriaeth gynhwysol o grwpiau ar draws yr ystod o nodweddion personol. Roeddent yn teimlo bod hyn nid yn unig yn effeithio ar eu gwasanaethau, ond hefyd ar effeithiolrwydd gwasanaethau cyhoeddus a pholisi cyhoeddus ac, yn y pen draw, ar ganlyniadau pobl mewn bywyd.

Soniodd sefydliadau cymdeithas sifil a’r sefydliadau hynny a gymerodd ran yn ein hymgynghoriad ar-lein am eu hymdrechion i fynd i’r afael â’r diffyg manylder, drwy ddatblygu ffynonellau eraill o ddata i lenwi’r bylchau. Ymhlith y rhain roedd:

  • dibynnu ar ymchwil ansoddol
  • defnyddio data gweinyddol a gasglwyd gan wasanaethau lleol
  • cynnal eu harolygon eu hunain gyda defnyddwyr gwasanaethau
  • ceisio cael gafael ar ddata drwy wneud ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth
  • defnyddio data wedi’u cyhoeddi i allosod data ar lefel genedlaethol mewn cyd-destun lleol

Teimlid y gallai’r broses hon arwain at wallau a thuedd, a chydnabuwyd bod hynny’n effeithio ar ansawdd a chywirdeb y wybodaeth sydd ar gael. Hefyd, cydnabuwyd bod dulliau o’r fath yn rhoi baich trwm ar sefydliadau ac unigolion sydd fel arfer â sgiliau ac adnoddau cyfyngedig i gasglu, coladu a/neu ddadansoddi data.

Meysydd eraill y nodwyd eu bod yn peri pryder penodol oedd diffyg data ar grwpiau ar y cyrion a grwpiau lleiafrifol neu achosion lle y gall y nodwedd berthnasol fod yn un dros dro ond sy’n arwain at effaith hirdymor. Dywedodd y sefydliadau cymdeithas sifil fod data’n arbennig o brin o’r canlynol:

  • grwpiau a ddiffiniwyd yn fwy diweddar neu na chânt eu deall cystal (er enghraifft, y rhai a gaiff eu disgrifio fel pobl niwroamrywiol, yn enwedig menywod niwrowahanol)
  • y rhai a gaiff eu disgrifio fel “anodd eu cyrraedd” (er enghraifft grwpiau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, cyn-garcharorion, ceiswyr lloches, dynion ifanc Affricanaidd Caribïaidd)
  • aelodau o rai mathau o sefydliadau cymunedol, er enghraifft carchardai
  • grwpiau y caiff data arnynt eu casglu mewn modd ansafonedig (gan olygu eu bod yn ddrud i’w coladu a’u cyhoeddi)
  • y rhai sydd â nodweddion neu amgylchiadau dros dro, sy’n ei gwneud yn anodd nodi croestoriadedd â chanlyniadau o ddiddordeb (er enghraifft, nifer y bobl feichiog mewn gwaith)
  • grwpiau y canfyddir nad oes llawer o ddiddordeb gwleidyddol mewn cyhoeddi data arnynt (er enghraifft, niferoedd ceiswyr lloches, carcharorion byrdymor neu fenywaidd neu bobl ddigartref)

Teimlid hefyd na all data ystadegol ar eu pen eu hunain gynnig dealltwriaeth gynhwysfawr o brofiad go iawn. O ystyried cymhlethdod, helaethrwydd a chroestoriadedd materion sy’n effeithio ar fywydau pobl, roedd y rhai a gymerodd ran yn y gweithgareddau ymgynghori yn gyson eu barn ei bod yn hollbwysig gwneud gwaith dadansoddi ansoddol yn ogystal â chynhyrchu ystadegau. Tynnwyd sylw at hyn fel ffordd o feithrin dealltwriaeth lawnach a manylach o brofiadau go iawn unigolion, a theimlai’r cyfranogwyr y gellid meithrin mwy o gynwysoldeb drwy ddatblygu darlun mwy cyfannol o gymunedau drwy ddefnyddio cyfuniad o ddadansoddiadau ansoddol a meintiol. Hefyd, nodwyd bod llawer o wasanaethau, oherwydd diffyg allbynnau amserol, yn dibynnu ar waith ymchwil ansoddol a data mwy anecdotaidd er mwyn deall anghenion ac amgylchiadau grwpiau a phoblogaethau perthnasol. Mae sefydliadau cymdeithas sifil yn rhoi gwerth ar wybodaeth o’r fath, ond cydnabyddir eu bod yn ddata llai cadarn ar gyfer cynllunio gwasanaethau o ran amcangyfrif lefelau absoliwt yr angen am wasanaethau.

Hefyd, dywedodd rhai o’r sefydliadau a’r unigolion a gymerodd ran yn y gweithgareddau ymgynghori y gallai’r diffyg cysylltiadau rhwng setiau data gweinyddol presennol fod yn gyfystyr â cholli cyfle i ddeall grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn well. Roedd rhai o’r farn bod hyn yn deillio o’r ffaith nad oes dynodydd unigryw cyffredin (megis rhif GIG) er mwyn gallu cymharu unigolion a chartrefi rhwng setiau data gwahanol, a “meddylfryd seilo” o fewn polisïau a gwasanaethau’r llywodraeth. Mewn rhai achosion, teimlid bod hyn yn cael ei waethygu gan ddeddfwriaeth wan neu ddiffyg deddfwriaeth, a dywedodd rhai sefydliadau nad oedd y fframwaith ar gyfer rhannu data personol, a gyflwynwyd o dan Ddeddf yr Economi Ddigidol, yn ddigon eglur er mwyn galluogi llif data i mewn i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), er enghraifft. O ystyried yr adnoddau a’r sgiliau a geir o fewn SYG, cafwyd galwad i SYG chwarae rhan fwy blaenllaw yn y gwaith o goladu a chysylltu data mewn ffordd ystyrlon sy’n cydymffurfio â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Rhaid cydnabod, fodd bynnag, fod rhai’n gwrthwynebu’r syniad o gysylltu data am eu bod yn ofni y gallai data gael eu camddefnyddio i niweidio grwpiau penodol.

Back to top

Diffyg adnoddau a/neu sgiliau i ddod o hyd i ddata a'u dadansoddi

“Yr hyn a welwn ni, ar y cyfan, yw bod y data’n bodoli, ond bod angen adnoddau o fewn y sefydliad i allu treulio amser, a defnyddio arbenigedd mewn gwyddor data, i gyfuno’r data hynny’n fodelau data penodol y byddai eu hangen arnom er mwyn gallu eu defnyddio wedyn.” Sefydliad cymdeithas sifil sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc

Roedd neilltuo adnoddau ar gyfer ymchwil a’r sgiliau sydd eu hangen i gaffael a dadansoddi data yn fater cyffredin a godwyd yn y gweithgareddau ymgynghori gwahanol, yn enwedig gan sefydliadau cymdeithas sifil, unigolion o grwpiau a phoblogaethau perthnasol, a chyfranogwyr o lywodraeth leol. Roedd sefydliadau ac unigolion sydd â mwy o brofiad o weithio gyda data yn cydnabod y tensiwn rhwng y dyhead i gael gafael ar ddata manylach a goblygiadau hyn i ddefnyddwyr data. Er enghraifft, nid oes gan y rhan fwyaf o sefydliadau cymdeithas sifil, na llawer o awdurdodau lleol llai, ddigon o gyllideb i allu cyflogi pobl sydd â’r sgiliau dadansoddi data sydd eu hangen arnynt ac, felly, ni allant fanteisio ar sgiliau ymchwilio yn fewnol. Am y rheswm hwn, byddai’n well ganddynt gael data crynodol wedi’u rhannu yn ôl demograffeg gymdeithasol a nodweddion personol allweddol ar lefel ddigon manwl. Mae hyn yn arbennig o wir i’r rhai sy’n gweithio’n fwy uniongyrchol gyda defnyddwyr gwasanaethau. Roedd y cyfranogwyr yn awyddus i ddata gael eu darparu er mwyn galluogi defnyddwyr i archwilio’r croestoriad rhwng nodweddion personol, fel bod modd rhannu’r data’n is-grwpiau llai (er enghraifft, dangos gwahaniaethau crefyddol o fewn grwpiau ethnig, dadansoddiadau o oedran a rhyw ar gyfer gwahanol grwpiau ethnig, a chyfeiriadedd rhywiol yn ôl statws anabledd).

Back to top

Diffyg allbynnau addas a hygyrch

“Nid yw’n dda i ddim dweud ‘Mae pobl BME fel hyn,’ neu beth bynnag. Mae hynny’n gwbl ddiwerth. [Mae angen i chi] fod wedi eu rhannu mewn ffordd ystyrlon y gall pobl allu uniaethu â hi… i lawr i lefel mor fanwl â phosibl, fel y gallwch ddweud, ‘Os gwnawn ni hyn, bydd yn cael effaith gadarnhaol ar y gymuned hon.’ Yn hytrach na dweud, ‘Os gwnawn ni hyn, gallai effeithio ar y grŵp anferth hwn o bobl sydd â bywydau gwahanol iawn.’” Sefydliad cymdeithas sifil sy’n gweithio o blaid cydraddoldeb hiliol ac ethnig

“Rwy’n credu weithiau y gall fod yn her gwybod pa wybodaeth sydd gan y llywodraeth. Yn enwedig pan fyddwn yn gwneud ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth neu’n gofyn cwestiynau seneddol, er enghraifft, gallai’r data gael eu rhyddhau heb ddangos beth yn union sydd gan y llywodraeth mewn gwirionedd, na beth yw cwmpas y dystiolaeth sydd ar gael, y gallem ei defnyddio, os yw hynny’n gwneud synnwyr. Rwy’n credu nad ydym bob amser yn gwybod beth sy’n cael ei gasglu.” Sefydliad cymdeithas sifil sy’n gweithio gydag unigolion sy’n feichiog neu ar gyfnod mamolaeth

Mewn perthynas ag adrodd ar ddata cydraddoldeb, un o’r prif bwyntiau a bwysleisiwyd gan unigolion, grwpiau a sefydliadau a gymerodd ran yn ein gweithgareddau ymgynghori yw ei bod yn anodd i grwpiau a phoblogaethau perthnasol uniaethu ag allbynnau data oherwydd y categoreiddio eang a’r diffyg manylder, fel y nodwyd yn yr adrannau blaenorol. Cyfeiriwyd hefyd at y ffaith nad oes digon o ddata hygyrch ar gael yn hawdd ar gyfer gwaith dadansoddi. Er enghraifft, dywedwyd ei bod yn cymryd llawer o amser i drawsnewid data wedi’u cyflwyno mewn tablau data traddodiadol i fformat haws ei ddefnyddio ar gyfer gwaith dadansoddi. Er bod rhai sefydliadau yn chwilio am ddata crai sydd ar gael ar gyfer eu gwaith dadansoddi eu hunain, roedd angen i eraill gael data a oedd eisoes wedi’u dadansoddi mewn ffyrdd arbennig i ddiwallu eu hanghenion. Er enghraifft, dywedodd sefydliadau a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad ar-lein eu bod wedi’i chael hi’n anodd archwilio data nad oeddent eisoes wedi’u dadansoddi ac y bu’n rhaid iddynt lawrlwytho a dadansoddi data crai. Roedd sefydliadau cymdeithas sifil cenedlaethol mwy, yn enwedig y rhai â chylch gwaith eiriolaeth, yn tueddu i feddu ar ddealltwriaeth dda o’r data allweddol sydd ar gael ar gyfer y grwpiau roeddent yn gweithio gyda nhw, ond dywedodd sefydliadau cymdeithas sifil llai o faint a mwy lleol eu bod yn fwy ansicr ynghylch pa ddata yn union oedd ar gael ac o ble a gan ba sefydliad.

“Rydym yn edrych arnynt ac mae’n gallu bod yn eithaf anodd eu dehongli weithiau. Problemau sydd wedi cael eu crybwyll yn barod, fel bod rhaid darllen llwythi o nodiadau esboniadol a, hyd yn oed wedyn, efallai na fyddant yn esbonio pethau’n llawn. Maent yn dechnegol iawn.” Sefydliad cymdeithas sifil sy’n gweithio gyda phobl hŷn

Nodwyd bod defnyddio iaith syml er mwyn helpu i ddehongli ystadegau a rhoi sicrwydd y caiff y ffigurau eu cynhyrchu gan “ffynonellau dibynadwy” yn elfennau allweddol wrth gael gafael ar wybodaeth a bod â hyder ynddi. Er mwyn bod yn gynhwysol, pwysleisiodd y cyfranogwyr y dylai ffeithiau a ffigurau fod ar gael mewn amrywiaeth o fformatau er mwyn i gynulleidfaoedd amrywiol allu eu defnyddio. Teimlid bod lledaenu canfyddiadau mewn fformat ar-lein yn unig, boed ar ffurf tablau data, erthyglau ar-lein neu fwletinau ystadegol, yn atal pobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol rhag cael gafael arnynt, er y gall y data ymwneud â nhw ac, yn lle hynny, fod rhaid iddynt ddibynnu ar drydydd partïon, fel y cyfryngau, i ledaenu canfyddiadau drwy ddulliau mwy traddodiadol.

Back to top
Download PDF version (1.04 MB)