Beth yw'r bylchau allweddol mewn data?
Ym mhob rhan o seilwaith data’r DU, mae cryn dipyn o ddata’n bodoli er mwyn archwilio profiadau a chanlyniadau amrywiaeth o grwpiau o bobl sydd â gwahanol nodweddion. Fel newidyn demograffig craidd, caiff data ar ryw eu casglu yn y rhan fwyaf o ddata gweinyddol a data arolygon. Mae’r DU yn casglu data ar anabledd, yn adrodd arnynt ac yn gwneud cryn dipyn o waith dadansoddi arnynt. At hynny, o gymharu â’r rhan fwyaf o wledydd eraill Ewrop, mae gan y DU ddata cyfoethog ar ethnigrwydd sy’n seiliedig ar waith ymgynghori a threialu manwl. Mae data ar grŵp ethnig ar gael o lawer o ffynonellau data swyddogol, gan gynnwys data gweinyddol, arolygon a chyfrifiadau’r DU, ond mae ansawdd a manylder y data’n amrywio o un ffynhonnell i’r llall. Mae gan y DU hefyd ddata da ar grefydd o’r cyfrifiadau a rhai o arolygon y llywodraeth, ond cwestiwn gwirfoddol yw’r un ar grefydd ac felly ni chaiff ei ateb gan bob ymatebydd. Hefyd, nid yw’r opsiynau ymateb wedi’u cysoni ar gyfer crefydd ac ethnigrwydd ar y lefel fanylaf yr un fath ar gyfer pob un o wledydd y DU.
Serch hynny, drwy ein gweithgareddau ymgynghori, nodwyd nifer o feysydd lle y ceir bylchau allweddol mewn data ym marn y cyfranogwyr. Dywedodd 70% o’r sefydliadau a 61% o’r ymatebwyr i’r ymgynghoriad ar-lein fod bylchau mewn data wedi effeithio ar eu gallu i ateb y cwestiynau sydd bwysicaf iddynt. Yn fras, gellir rhannu’r bylchau allweddol hyn mewn data yn grwpiau neu nodweddion sydd ar goll yn llwyr o’r data, yn rhai lle nad oes digon o ddata ar gael neu’n rhai lle nad yw’r data’n ddigon manwl neu o ansawdd digon da i ddiwallu anghenion defnyddwyr.
Back to topGrwpiau neu nodweddion sydd ar goll o'r data
Ym mhob un o’r gweithgareddau ymgynghori, cafodd nifer o grwpiau eu nodi fwy nag unwaith fel rhai nad oes gwybodaeth ddemograffig sylfaenol ar gael ar eu cyfer, hyd yn oed. Ymhlith y rhain roedd pobl drawsryweddol, pobl anneuaidd a phobl â rhywedd amrywiol, poblogaethau nad ydynt yn rhan o gartrefi (er enghraifft, aelodau o sefydliadau preswyl fel cartrefi gofal neu garchardai, a phobl ddigartref, yn enwedig pobl nad ydynt yn defnyddio unrhyw wasanaethau i bobl sy’n cysgu allan) a grwpiau y tybir yn aml ei bod yn ‘anodd eu cyrraedd’ (er enghraifft, grwpiau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, cyn-garcharorion, ceiswyr lloches, dioddefwyr trais domestig a mudwyr heb eu dogfennu neu ddioddefwyr masnachu pobl). Mae rhai o’r grwpiau hyn yn cynnwys y bobl fwyaf agored i niwed a difreintiedig yn y DU, sy’n golygu bod diffyg data sy’n adlewyrchu eu bywydau a’u profiadau yn arbennig o allweddol.
Mae plant yn grŵp arall y nododd llawer o bobl ei fod ar goll o’r data. Lle mae gennym ddata ar eu cyfer, caiff y data hyn yn aml eu casglu oddi wrth bobl heblaw’r plant eu hunain ac felly mae’n bosibl na chaiff lleisiau’r plant eu hunain eu clywed. Mae Sefydliad Nuffield wedi nodi nifer o fylchau allweddol yn y data ar blant. Mae hyn yn cynnwys diffyg gwybodaeth am bob agwedd ar fywyd i blant sy’n derbyn gofal, yn ogystal â chynrychiolaeth annigonol i blant sydd wedi cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso yn ystod eu plentyndod cynnar a diffyg gwybodaeth am eu canlyniadau. Hefyd, nododd adroddiad gan Ysgol Economeg Llundain fod diffyg data i ddeall tlodi plant ac anfantais amlddimensiynol ymhlith plant, gan dynnu sylw at ofalwyr ifanc, plant mudol, plant sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a phlant sydd mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso yn benodol fel grwpiau sydd ‘ar goll’ neu’n ‘anweledig’ yn y data sydd ar gael. Tynnodd y cyfranogwyr yn ein gweithgareddau ymgynghori sylw at y grwpiau hyn hefyd.
Disgrifiodd amrywiol gyfranogwyr o’r llywodraeth fylchau mewn dealltwriaeth o’r boblogaeth sydd wedi’i hallgáu’n ddigidol, y rhesymau pam y gall pobl wynebu risg o allgáu digidol ac o dan ba amgylchiadau, ac i ba raddau na chânt eu cynrychioli yn y drefn casglu data arferol. Teimlai’r cyfranogwyr ei bod yn debygol bod hyn wedi gwaethygu yn sgil mesurau a roddwyd ar waith mewn ymateb i’r coronafeirws (COVID-19), er enghraifft gan fod llawer o arolygon bellach yn cael eu haddasu ar gyfer llwyfannau ar-lein, gan arwain at gostau i’r cyfranogwyr o bosibl, a chyfyngu ar eu gallu i gymryd rhan.
Er y bydd llawer o newidynnau a mathau o ddata a allai fod yn ddefnyddiol er mwyn deall anghydraddoldebau ym mhob rhan o’r boblogaeth, nododd y cyfranogwyr yn ein gweithgareddau ymgynghori ddau newidyn allweddol sydd â pherthnasedd i bolisïau a pherthnasedd esboniadol. Y cyntaf oedd data ar incwm, sef data na chânt eu casglu’n aml ochr yn ochr â gwybodaeth am nodweddion personol. Nodwyd bod y data hyn yn fwlch allweddol yn nata’r cyfrifiad ac yr ystyrir eu bod yn hanfodol er mwyn deall anfantais. Yr ail oedd cefndir economaidd-gymdeithasol, sef newidyn pwysig er mwyn deall pynciau fel anghydraddoldebau addysgol, er na chaiff ei gynnwys yn aml yn nata’r llywodraeth nac yn y cyfrifiadau; yn aml, dim ond ar ffurf bras amcanion y bydd ar gael, megis y mesur deuaidd o gymhwysedd i gael Prydau Ysgol am Ddim yn nata gweinyddol yr Adran Addysg. Awgrymodd y cyfranogwyr y dylai’r newidynnau hyn gael eu cynnwys yn fwy rheolaidd mewn data a gaiff eu casglu, ochr yn ochr â nodweddion personol.
Back to topGrwpiau nad oes digon o ddata ar gael ar eu cyfer
Hyd yn oed yn achos grwpiau a gaiff eu cynnwys i ryw raddau yn y seilwaith data, ceir bylchau yn y wybodaeth a gaiff ei chasglu. Er y caiff data ar gyfeiriadedd rhywiol eu casglu mewn sawl ffynhonnell data yn y DU, ceir prinder gwybodaeth am wahanol brofiadau a chanlyniadau pobl o ran eu cyfeiriadedd rhywiol. Hefyd, er bod beichiogrwydd a mamolaeth yn nodweddion gwarchodedig o dan ddeddfwriaeth cydraddoldebau ym Mhrydain Fawr, dim ond gwybodaeth rannol sydd ar gael am anghydraddoldebau o ran beichiogrwydd a chanlyniadau beichiogrwydd. Er enghraifft, dim ond am fod sefydliad elusennol wedi casglu data dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf y bu modd adnabod gwahaniaethau wedi’u hiliaethu mewn canlyniadau mamolaeth. Cafodd bylchau yn y data ar grefydd eu nodi gan academyddion a chyfranogwyr o gymdeithasau dysgedig ac ymatebwyr i’r ymgynghoriad ar-lein. Yn benodol, dywedodd nifer o’r cyfranogwyr na chaiff data ar grefydd eu casglu’n aml mewn arolygon a, phan gânt eu casglu, nad adroddir arnynt fel mater o drefn, neu y cânt eu cyfuno’n aml â chredoau ac arferion, a all guddio anghydraddoldebau.
Hefyd, mewn sawl gweithgaredd ymgynghori, cyfeiriodd y cyfranogwyr at ddiffyg data ar nodweddion personol perthnasol mewn ffynonellau data gweinyddol er mwyn helpu i ddeall materion yn ymwneud ag anghydraddoldebau. Hyd y gwyddom ni, nid yw’r llywodraeth yn casglu data o gwbl ar weithredu cast yn y DU er gwaethaf tystiolaeth ansoddol ar wahaniaethu ar sail cast.
Back to topGrwpiau nad yw'r data arnynt o ansawdd digon da
Hyd yn oed lle y caiff grwpiau perthnasol eu cynnwys mewn data arolygon neu ddata gweinyddol, ceir risgiau bod ansawdd y data hyn yn wael. Yn gyntaf, fel y nodwyd yn adran 2.1, mae’n bosibl na chaiff gwybodaeth am nodweddion plant ei chasglu’n uniongyrchol gan y plant eu hunain ond, yn hytrach, y caiff ei darparu gan eu rhieni, eu gofalwyr, eu hathrawon neu rywrai eraill sy’n gyfrifol am blant. Gall hynny hefyd fod yn wir am breswylwyr cartrefi sy’n absennol dros dro, er enghraifft mewn sefydliad cymunedol. Gall gwybodaeth a gaiff ei rhoi gan ddirprwyon fod yn anghywir. Yn achos data gweinyddol, mae’n aml yn aneglur ai’r unigolyn dan sylw a roddodd y data ai peidio.
Yn ail, gall fod problemau os bydd eitemau sy’n berthnasol i gynhwysiant ar goll o’r data. Er enghraifft, mae cwestiynau’r cyfrifiad ar grefydd yn wirfoddol ac felly bydd ganddynt lefelau ymateb is na chwestiynau gorfodol. Hefyd, ymddengys fod lefelau peidio ag ymateb yn gymharol uchel ymhlith grwpiau ethnig mewn rhai ffynonellau data gweinyddol. Mae gwefan Ethnicity Facts and Figures y llywodraeth yn dangos nad oedd data ar grŵp ethnig ar gael ar gyfer rhai mathau o ddata gweinyddol mewn mwy nag 20 y cant o achosion. Gall hyn arwain at duedd yn y data ond, heb wybod pwy nad yw’r wybodaeth hon ar gael ar eu cyfer, nid oes modd canfod cyfeiriad unrhyw duedd.
Yn drydydd, gall gwybodaeth o ffynonellau data a gasglwyd yn flaenorol (er enghraifft mewn astudiaeth banel neu pan gaiff data o wahanol ffynonellau eu cysylltu) fynd yn anghywir dros amser am mai prin yw’r nodweddion sy’n aros yr un peth yn barhaol. Gall nodweddion newid wrth i grwpiau fynegi ei bod yn well ganddynt gael eu dosbarthu mewn categorïau penodol neu am fod categorïau gwahanol yn addas at ddibenion gwahanol. Er enghraifft, bydd yn briodol defnyddio categorïau ‘Du’ neu ‘Asiaidd’ mewn rhai achosion ond, yn aml, bydd angen termau manylach. Hefyd, gall llawer o nodweddion pwysig, megis statws o ran anabledd (er enghraifft, o ganlyniad i strôc neu ddamwain) neu safle economaidd-gymdeithasol (o ganlyniad i ddileu swydd) newid yn annisgwyl.
Gall pob un o’r tair problem hyn arwain at fwy o ‘sŵn’ yn y data, gan arwain at ddarlun mwy niwlog neu at duedd, a all greu darlun camarweiniol. Gallai ansawdd data israddol a chynrychiolaeth annigonol i boblogaethau neu grwpiau penodol o fewn data arwain at amrywiaeth o effeithiau, gan gynnwys gwahaniaethu, camliwio, llai o gyfleoedd mewn bywyd, niwed cudd a marwolaeth, hyd yn oed, i bobl dan amgylchiadau bregus iawn. Felly, mae mynd i’r afael â’r bylchau hyn yn flaenoriaeth.
Back to top