Beth yw'r enghreifftiau o arferion da a beth yw'r amodau sy'n galluogi cynwysoldeb i ffynnu?
Un o’r cwestiynau a ystyriwyd gan y Tasglu oedd sut y gallwn ddysgu o brofiadau yma yn y DU ac yn ehangach er mwyn gwella ein dull gweithredu mewn perthynas â chydraddoldebau a chynhwysiant yn y dyfodol. Yn yr adran hon, byddwn yn tynnu sylw at enghreifftiau o arferion addawol sydd wedi cael eu rhannu â ni gan gyfranogwyr yn yr ymgynghoriadau, neu’r hyn rydym yn ymwybodol ohono drwy ein profiad ein hunain. Gobeithiwn y byddant o gymorth er mwyn dangos rhai ffyrdd posibl o roi ein hargymhellion ar waith.
Back to topMeithrin ymddiriedaeth drwy ymgysylltu
Un neges bwysig a glywsom gan gyfranogwyr yn ein hymgyngoriadau oedd bod angen system y gellir ymddiried ynddi, sy’n helpu pob grŵp mewn cymdeithas i ddeall y manteision a’r risgiau sy’n gysylltiedig â rhannu data.
Yn y DU, caiff ystadegau’r llywodraeth eu cynhyrchu’n seiliedig ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau sy’n ei gwneud yn ofynnol i gynhyrchwyr ystadegau ystyried ‘hawliau’ pobl y caiff eu data eu casglu, gan newid y pwyslais o’r data i’r unigolion sy’n rhoi eu gwybodaeth. Ochr yn ochr â’r Cod Ymarfer, mae rheoleiddiwr ystadegau’r DU, sef y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, wedi cyhoeddi canllawiau ar ennyn hyder yn y ffordd y caiff data eu trin a’u defnyddio. Mae’r canllawiau hyn yn annog cynhyrchwyr i ystyried hawliau’r bobl sy’n rhoi eu data er budd y cyhoedd, a hynny mewn modd rhagweithiol. Mae’n hollbwysig parchu’r hawliau hyn er mwyn diogelu a grymuso dinasyddion yn ystod y broses hon.
Ceir nifer o adnoddau arferion da y gall cynhyrchwyr ystadegau eu defnyddio hefyd. Er enghraifft, mae Canfas Moeseg Data’r Sefydliad Data Agored yn distyllu’r cwestiynau moesegol allweddol y dylai ymchwilwyr eu hystyried, a hynny mewn ffordd weledol.
Back to topAteb y cwestiynau cywir
Er mwyn creu system ystadegol gynhwysol, tynnodd y cyfranogwyr mewn trafodaethau bord gron sylw at bwysigrwydd sylfeini cadarn. Nodwyd arferion da o ran y ffordd y mae dadansoddwyr yn y llywodraeth yn gweld eu hunain, gan ddeall mai eu prif rôl yw cydweithio ag eraill i bennu ac ateb cwestiynau sy’n bwysig i gymdeithas, yn hytrach na chynhyrchu data a thystiolaeth. Mae’r gwahaniaeth yn gynnil ond yn bwysig. O’r sylfeini hyn, mae’n haws gofyn i ni’n hunain a oes pobl neu brofiadau ar goll o’r ffordd y caiff y cwestiynau hynny eu hateb.
O edrych y tu hwnt i’r DU, cafodd y syniad y bydd ystadegau ar eu mwyaf gwerthfawr pan fyddant yn ateb cwestiynau cymdeithas ei ategu mewn adolygiad o fesur allgáu cymdeithasol gan Statistics Canada a Sefydliad Cenedlaethol Ystadegau a Daearyddiaeth Mecsico. Tynnodd yr ymchwilwyr sylw at y ffaith ei bod yn bwysig deall y prif gwestiynau cymdeithasol a chwestiynau polisi wrth ddatblygu dangosyddion allgáu cymdeithasol, a mynd i’r afael â nhw, o’r cychwyn cyntaf.
Back to topYmgysylltu â phob cymuned
Mae’r broses helaeth o ymgysylltu â chymunedau sydd wrth wraidd y gwaith o gynnal y cyfrifiadau ledled y DU yn enghraifft arall o arferion da. Caiff pobl eu hannog i gymryd rhan drwy greu rhwydweithiau o sefydliadau, arweinwyr cymunedol ac elusennau sy’n hwyluso cysylltiadau uniongyrchol â grwpiau a phoblogaethau perthnasol. Hefyd, ymgysylltir yn uniongyrchol ag aelodau o’r cyhoedd er mwyn sicrhau y ceir darlun cytbwys o bryderon ac anghenion. Mae meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth ynghylch yr hyn sy’n bwysig i bobl wedi helpu ymchwilwyr i gyfathrebu’n fwy effeithiol ynglŷn â phwysigrwydd y data a ddarperir ganddynt. Mae gweithio gydag arbenigwyr yn y gymuned a all roi cyngor ar y dulliau gorau o gyfathrebu â grwpiau lleol a’r iaith a fyddai fwyaf effeithiol hefyd yn bwysig iawn.
“Nid drwy weiddi mae meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth. Mae angen cydnabod y gymuned” Sefydliad cymdeithas sifil sy’n cefnogi’r gymuned Tsieineaidd
Mae Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth hefyd wedi cyhoeddi Strategaeth Ymgysylltu â Defnyddwyr newydd er mwyn rhoi canllawiau ymarferol ar ymgysylltu â defnyddwyr. Mae’r strategaeth yn pwysleisio’r canlynol: “we don’t need a few people thinking about inclusivity (or user engagement) perfectly, we just need lots of people trying their best to do it well and working together to make it happen as part of business as usual”.
Back to topPartneriaethau
Bydd partneriaethau’n gweithio’n effeithiol pan fyddant yn dod ag amrywiaeth o bobl ynghyd. Gall hyn ein herio i feddwl yn wahanol a phennu disgwyliadau uwch. Mae swyddfa ystadegau gwladol Colombia wedi sefydlu grŵp amlddisgyblaethol er mwyn helpu i brif ffrydio dull gweithredu croestoriadol. Ymhlith yr aelodau mae ystadegwyr, economegwyr, seicolegydd, anthropolegydd a chynghorwyr eraill. Mae’r grŵp hwn wedi dechrau llunio canllawiau ar ddadgyfuno data ac wedi treialu cwestiynau er mwyn mesur amrywiaeth o ran cyfeiriadedd rhywiol a rhywedd mewn arolygon.
Back to topCynwysoldeb mewn gweithgareddau casglu data arferol
Wrth gynnal arolygon, y ffrâm samplu safonol yw cartrefi. Fodd bynnag, mae’r un mor bwysig ystyried poblogaethau nad ydynt yn rhan o gartrefi, megis preswylwyr sefydliadau cymunedol (er enghraifft cartrefi gofal, carchardai), cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a phobl ddigartref. Daw un enghraifft o ddulliau cymharol o fynd i’r afael â’r materion hyn o Awstralia. Yma, gwneir ymdrech i gynnwys preswylwyr nad ydynt yn rhan o gartrefi drwy ddefnyddio sampl o restr o anheddau nad ydynt yn gartrefi, fel gwestai a motelau. Yn yr un modd, mae’r hyn sy’n cyfateb i’r Arolwg o’r Llafurlu yn UDA (y ‘Current Population Survey’) hefyd yn ceisio cynnwys preswylwyr nad ydynt yn rhan o gartrefi; mae’r ffrâm samplu haenedig yn cynnwys haen ‘anheddau grwpiau’ sy’n cynnwys yr unedau preswyl hynny lle mae preswylwyr yn rhannu cyfleusterau neu’n cael gofal ffurfiol.
Back to topDatblygu dulliau newydd o gasglu data mewn ffordd gynhwysol
Cafodd ymdrechion Statistics Canada i fod yn gynhwysol ac yn amserol wrth roi cipolwg ar brofiadau yn ystod y pandemig sylw mewn fforwm polisi cyhoeddus a oedd yn edrych ar arloesedd ac arweinyddiaeth yn ystod y pandemig. Dangoswyd sut yr aeth Statistics Canada a Siambr Fasnach Canada ati i gydweithio i lunio’r Canadian Survey on Business Conditions. Y dull casglu data a ddefnyddiwyd oedd cyfrannu torfol, gan ddefnyddio e-bost i annog pobl i ateb arolwg ar-lein. Lansiwyd yr arolwg o fewn diwrnodau ar ôl i’r economi gau er mwyn casglu data “amser real” ar effaith y pandemig. Rhoddodd Statistics Canada ffocws arbennig ar y ffordd roedd busnesau a arweinir gan bobl o gefndiroedd lleiafrifol yn ymdopi, gan ofyn i berchenogion busnesau nodi canrannau’r bobl yn eu busnesau yn ôl hil, ethnigrwydd, rhyw, a ydynt yn bobl frodorol ac a ydynt yn ystyried eu hunain yn bobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol, drawsryweddol, gwiar a/neu ddeuysbrydol. Dywedodd Patrick Gill o Siambr Fasnach Canada:
“Mae effaith y dirwasgiad hwn yn cael ei deimlo mewn ffyrdd gwahanol gan grwpiau demograffig gwahanol i’r dirwasgiad diwethaf ac nid oedd y ffyrdd traddodiadol o ofyn cwestiynau yn cyfleu hynny.”
“Yn hytrach na threulio llawer o amser yn creu ei harolwg ei hun, symudodd yn gyflymach drwy ddefnyddio methodoleg cyfrannu torfol i ledaenu’r arolwg a gweithio gyda’r gymuned fusnes i lunio’r cwestiynau pwysicaf.”
Gwnaeth Statistics Canada hefyd ymgysylltu â phobl anabl ar gyfer arolwg cyfrannu torfol ar y ffordd roedd pobl ag anableddau’n ymdopi yn ystod y pandemig. Gweithiodd gyda sefydliadau gan gynnwys Children First a Vanier Institute of the Family er mwyn deall profiadau o fagu plant yn ystod y pandemig. Bydd Statistics Canada yn llunio egwyddorion ar gyfer ffyrdd priodol o ddefnyddio data a gesglir drwy gyfrannu torfol er mwyn rhannu arferion addawol ag eraill.
Yn y DU, cynhaliodd Swyddfa Cydraddoldebau’r Llywodraeth yr Arolwg LGBT cenedlaethol yn 2017 er mwyn casglu gwybodaeth am brofiadau pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsryweddol yn y DU. Roedd yr ymateb i’r arolwg yn fwy nag a welwyd erioed o’r blaen, a chymerodd fwy na 108,000 o bobl ran. Roedd hyn yn fodd i feithrin dealltwriaeth graff o brofiadau’r grwpiau hyn ym meysydd diogelwch, iechyd, addysg a chyflogaeth.
Back to topDefnyddio'r data sydd eisoes ar gael yn y ffordd orau er mwyn bod yn fwy cynhwysol
Un enghraifft dda o ddefnyddio data gweinyddol a chysylltu data er mwyn bod yn fwy cynhwysol yw prosiect health and homelessness in Scotland Llywodraeth yr Alban. Aeth y prosiect hwn ati i gysylltu data awdurdodau lleol ar ddigartrefedd â data’r GIG ar dderbyniadau i’r ysbyty, ymweliadau gan gleifion allanol, presgripsiynau a chamddefnyddio cyffuriau, yn ogystal â gwybodaeth am farwolaethau o Gofnodion Cenedlaethol yr Alban er mwyn archwilio’r gydberthynas rhwng digartrefedd ac iechyd yn yr Alban. Roedd yn cynnwys tryloywder mewn perthynas â’r broses asesu risg, a olygai fod gan bobl sy’n rhannu ac yn defnyddio’r data fwy o ymddiriedaeth yn Llywodraeth yr Alban. Cyhoeddwyd yr asesiad o’r effaith ar breifatrwydd data ochr yn ochr â’r prif adroddiad dadansoddi, gan gynnwys y cais gwreiddiol am y data, sut y byddent o fudd i’r cyhoedd, manylion cymeradwyaeth y cais a sut y gallai eraill gael gafael ar y data. Y dull hwn yw’r arfer safonol ar gyfer pob un o gyhoeddiadau Llywodraeth yr Alban sy’n seiliedig ar gysylltu data erbyn hyn.
Enghraifft arall o ddefnyddio data sydd eisoes ar gael er mwyn cael gwybodaeth fwy cynhwysol yw dadansoddiad SYG o farwolaethau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19) yn ôl grŵp ethnig, Cymru a Lloegr. Ni chaiff ethnigrwydd ei gofnodi ar dystysgrifau marwolaeth ac, felly, er mwyn ymgymryd â’r dadansoddiad hwn, cafodd marwolaethau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19) eu cysylltu â Chyfrifiad 2011 yng Nghymru a Lloegr. Galluogodd hyn SYG i gynhyrchu ystadegau ar farwolaethau o ganlyniad i COVID-19 yn ôl grŵp ethnig, gan ddatgelu pa grwpiau ethnig oedd yn wynebu mwy o risg o farw o COVID-19, a helpu i adnabod grwpiau y mae’r clefyd hwn wedi cael effaith anghymesur arnynt. Mae data wedi’u cysylltu hefyd wedi cael eu defnyddio i archwilio Marwolaethau sy’n gysylltiedig â COVID-19 yn ôl grŵp ethnig yn Lloegr.
Back to topLledaenu gwybodaeth a chyfathrebu mewn ffordd gynhwysol
“Rwy’n siŵr bod pob un ohonom wedi bod i gyfarfodydd diddiwedd lle byddwn ni’n rhoi ein barn a bydd y gwasanaeth rydym yn ei helpu’n dweud, ‘Diolch yn fawr.’ A dyna’r tro olaf i chi glywed am y peth, a bydd yr hyn y gwnaethom ei argymell yn cael ei anwybyddu gan amlaf.” Sefydliad cymdeithas sifil sy’n gweithio gydag unigolion trawsryweddol, unigolion anneuaidd ac unigolion â rhywedd amrywiol
Gellir gwella ymddiriedaeth a thryloywder drwy roi adborth mwy effeithiol. Nodwyd bod arferion da o ran cyfleu sut y caiff data eu defnyddio neu pam na chafodd awgrymiadau eu rhoi ar waith yn ffordd dda o annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil, a’i wneud yn fwy cynhwysol.
“Maen nhw’n gwneud hyn yn dda iawn yn Essex [Understanding Society, Prifysgol Essex] oherwydd maen nhw’n anfon cylchlythyr atoch chi tua dwywaith y flwyddyn yn dweud beth maen nhw wedi’i wneud â’r data. Ac rydych chi’n meddwl eich bod chi’n cyfrannu, ac maen nhw’n gwneud pethau rhyfeddol â’r data o ran edrych ar y boblogaeth, a bydd hynny’n bwydo i mewn – mae’n academaidd iawn, fel y gallwch chi ddychmygu os mai Prifysgol Essex sy’n gwneud hyn – a bydd hynny’n bwydo i mewn i bob math o bolisïau gan y llywodraeth. Wedyn byddwch chi’n teimlo fel eich bod chi’n cyfrannu at y penderfyniadau polisi hyn, dim ond drwy lenwi arolwg unwaith y flwyddyn ar-lein.” Unigolyn
Mae hyn yn dangos pwysigrwydd cyfathrebu’n effeithiol â darpar gyfranogwyr gwaith ymchwil, drwy ddangos sut y caiff cyfrinachedd eu data ei barchu a rhoi adborth ar y ffordd y cafodd eu data eu defnyddio.
Mae ap olrhain symptomau COVID-19 ZOE, a grëwyd ar y cyd gan academyddion yn cynnwys rhai o King’s College, Llundain, yn enghraifft arall o wella lefelau ymgysylltu drwy roi adborth i’r cyfranogwyr. Mae defnyddwyr ap ZOE yn rhoi gwybod yn rheolaidd am eu hiechyd a’u symptomau a ph’un a ydynt wedi cael prawf positif am y feirws ai peidio. Rhoddir diweddariadau a rhybuddion i’r cyfranogwyr sy’n dangos iddynt sut mae eu data’n llywio’r dystiolaeth ddiweddaraf mewn perthynas â’r coronafeirws. Mae’r ap olrhain yn helpu i gasglu gwybodaeth amser real am raddfa achosion o COVID-19 a sut mae’n effeithio ar wahanol grwpiau demograffig, a chaiff y wybodaeth ei rhannu â’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol hefyd.
Back to top