Ein hargymhellion: sut y gallwn fod yn fwy cynhwysol yn ein data?
1. Creu amgylchedd o ymddiriedaeth a dibynadwyedd sy'n galluogi ac yn annog pawb i gyfrif a chael eu cyfrif yn nata a thystiolaeth y DU.
- Mae ymddiriedaeth yn hollbwysig er mwyn casglu a defnyddio data ac er mwyn i ystadegau fod yn gynhwysol. Bydd pobl yn fodlon rhoi eu gwybodaeth bersonol pan fyddant yn credu (1) bod eu data’n bwysig ac y cânt eu defnyddio i wella bywydau pobl a phan fyddant wedi’u hargyhoeddi bod y cynhyrchwr data (2) yn ddibynadwy, (3) yn ymatebol, (4) yn agored ac yn gynhwysol, (5) bod ganddo hygrededd a’i fod (6) yn deg. Er mwyn hybu ymddiriedaeth a dibynadwyedd yn y broses o ddarparu a defnyddio data, dylai cynhyrchwyr data lunio contract cymdeithasol â’r rhai sy’n rhoi eu data (yr ymatebwyr). Dylai’r contract hwn gynnwys:
-
- esboniad clir o’r rhesymau dros gasglu’r data a sut y caiff y data eu defnyddio
- cyfrinachedd ac anhysbysedd yr ymatebwyr, a gaiff eu gwybodaeth ei rhannu â thrydydd partïon ac, os felly, am ba reswm, ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y gallai’r ymatebwyr gael eu gwneud yn hysbys
- rhoi adborth amserol a hygyrch i’r ymatebwyr, yn rhad ac am ddim
- ymgysylltu â grwpiau a phoblogaethau perthnasol drwy gydol y broses casglu data gyfan, gan geisio eu cyngor a’u cymorth ar gyfer gwaith cysyniadoli a chynllunio, casglu data, dadansoddi a dosbarthu
- dylai budd y cyhoedd gael blaenoriaeth dros fuddiannau sefydliadol, gwleidyddol neu bersonol ar bob cam o’r gwaith o gynhyrchu, rheoli a lledaenu ystadegau swyddogol
Bydd hyn yn helpu i fynd i’r afael â’r materion pwysicaf i’r rhai sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau casglu data, er mwyn sicrhau bod manteision amlwg a bod y risgiau a’r costau i’r cyfranogwyr wedi cael eu lleihau cymaint â phosibl.
-
- Dylai cynhyrchwyr data gydweithio â’i gilydd i gynnal gweithgareddau ymgysylltu hirdymor gyda grwpiau a phoblogaethau perthnasol er mwyn sicrhau deialog agored a meithrin dibynadwyedd. Gellid cyflawni hyn drwy allgymorth, meithrin ac adnabod gwybodaeth ar lefel leol, adrodd ar gostau a manteision cymryd rhan mewn gweithgareddau casglu data, a dysgu o weithgareddau casglu data blaenorol er mwyn mynd i’r afael â’r costau a’r rhwystrau rhag cymryd rhan, megis cyfrifiadau 2021/22 [gweler hefyd argymhelliad 1.4].
- Dylai cynhyrchwyr data hwyluso ymddiriedaeth ymhlith darpar gyfranogwyr a dangos eu dibynadwyedd eu hunain drwy gynyddu amrywiaeth ymhlith eu staff, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud yn uniongyrchol â gwaith casglu data gan y cyhoedd, a thrwy sicrhau y caiff cyfranogwyr eu trin â’r un parch.
- Dylai cynhyrchwyr data wneud gwaith ymchwil priodol i ganfod y rhwystrau ymarferol rhag cymryd rhan a rhoi’r arferion gorau ar waith wrth gasglu data, gan gynnwys ystyriaethau moesegol, er mwyn gwneud y dulliau a ddefnyddir yn fwy cynhwysol. Gallai hyn olygu rhoi mynediad i’r rhyngrwyd er mwyn mynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n wynebu pobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol, a darparu cyfieithwyr i’r rhai nad ydynt yn rhugl yn y Saesneg.
- Dylai cynhyrchwyr data sicrhau bod offerynnau casglu data yn hygyrch i bawb, gan gydnabod gwahaniaethau o ran iaith, llythrennedd a hygyrchedd cymharol gwahanol ddulliau a fformatau. Er enghraifft, defnyddio arolygon aml-ddull fel arfer safonol a gwneud addasiadau ychwanegol er mwyn galluogi oedolion a phlant ag amrywiaeth o anableddau i gymryd rhan, yn ogystal â phobl sy’n cael eu hallgáu mewn ffyrdd eraill, gan gynnwys allgáu digidol.
- Dylai cynhyrchwyr data osgoi defnyddio ymatebion gan ddirprwyon a sicrhau mai’r dull diofyn yw hunanadrodd ar nodweddion personol, gan gynnwys casglu gwybodaeth yn uniongyrchol gan blant lle bo hynny’n briodol.
- Dylid ymchwilio i’r rhwystrau ymarferol sy’n atal pobl rhag cael gafael ar ddata sy’n deillio o waith o’r fath a’u defnyddio, yn ogystal â ffyrdd o ennyn hyder yn y data hyn.
2. Defnyddio dull system gyfan, gan weithio mewn partneriaeth ag eraill i wneud data a thystiolaeth y DU yn fwy cynhwysol.
- Dylai SYG sefydlu trefn ac amserlen glir ar gyfer monitro ac adolygu argymhellion y Tasglu, gan roi gwybod i ba raddau y maent wedi cael eu rhoi ar waith ac amlinellu strategaethau er mwyn sicrhau y cânt eu rhoi ar waith yn y dyfodol.
- Dylai cynhyrchwyr data sefydlu fforwm defnyddwyr parhaus er mwyn ymgorffori gwaith y Tasglu mewn ffrydiau gwaith arferol.
- Dylai cynhyrchwyr data ymgysylltu’n barhaus ag academyddion, grwpiau defnyddwyr ac eraill y tu allan i’r llywodraeth sydd â phrofiad o faterion allweddol yn ymwneud â chydraddoldebau sy’n berthnasol i’r DU, er mwyn rhannu gwybodaeth a dulliau mesur.
- Dylai SYG gynnal adolygiad systematig o’r ffordd y mae swyddfeydd ystadegau gwladol eraill yn casglu data ar anghydraddoldebau, yn eu dadansoddi ac yn adrodd arnynt. Dylai gydweithio â gwledydd eraill sydd ag arferion addawol er mwyn rhannu gwybodaeth a dulliau mesur ac adrodd.
- Dylai cynhyrchwyr data ystyried ariannu gweithgareddau casglu data ar y cyd ym mhob rhan o seilwaith data’r DU, er mwyn sicrhau y caiff y costau sy’n gysylltiedig â mynd i’r afael a bylchau mewn data a chynrychiolaeth annigonol eu rhannu a’u bod yn gynaliadwy, ac y caiff syniadau costeffeithiol eu datblygu.
- Dylai SYG chwarae rhan flaenllaw mewn mentrau rhyngwladol i wneud ystadegau’n fwy cynhwysol, gan gynnwys, ymhlith eraill, Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau a diwygio Canllawiau ac Egwyddorion Is-Adran Ystadegau’r Cenhedloedd Unedig (UNSD) ar gyfer Datblygu Ystadegau ar Anabledd. Er mwyn bwrw ymlaen â hyn, dylai SYG geisio sefydlu Grŵp Dinas y Cenhedloedd Unedig ar Ystadegau Cynhwysol.
- Dylai SYG a chynhyrchwyr data eraill rannu, gwerthuso a chyhoeddi arferion effeithiol ac arloesol er mwyn hwyluso dysgu ehangach.
3. Sicrhau y caiff gwybodaeth am bob grŵp ei chofnodi mewn perthynas ag agweddau allweddol ar fywyd yn nata'r DU, ac adolygu arferion yn rheolaidd.
- Dylai’r Pwyllgor Rhyngweinyddiaethol a Grŵp Strategol Cyfrifiad ac Ystadegau Poblogaeth y DU sefydlu trefn arolygu reolaidd er mwyn gweld pwy sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ystadegau neu arferion casglu data’r DU, ac arwain gwaith i fynd i’r afael â hyn. Byddai hyn yn eu galluogi i ymateb i newidiadau mewn cwmpas, ochr yn ochr â newidiadau mewn cyfansoddiad cymdeithasol, categorïau cymdeithasol a dealltwriaeth gymdeithasol.
- Y blaenoriaethau penodol ar hyn o bryd yw pobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol neu’n ieithyddol, plant a rhieni anabl, dioddefwyr trais gan bartner a thrais domestig, yn enwedig dioddefwyr sy’n fudwyr, yn bobl hŷn ac yn bobl ifanc dan oed, menywod yn ystod beichiogrwydd a mamolaeth, plant mewn tlodi bwyd, preswylwyr sefydliadau cymunedol megis carchardai, Canolfannau Symud Mewnfudwyr, hostelau a chartrefi gofal, pobl ‘ddigartref gudd’, a grwpiau bach megis cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, grwpiau o gastau a llwythau Asiaidd ac Affricanaidd cofrestredig sydd, ar hyn o bryd, yn anweledig i raddau helaeth mewn ystadegau a gyhoeddir.
- Dylai cynhyrchwyr data gynnal adolygiad i weld pa mor gynrychiadol yw arolygon a setiau data gweinyddol allweddol (drwy feincnodi yn erbyn cyfrifiadau 2021/22 y DU i ddechrau) a gweithredu’n gyflym er mwyn mynd i’r afael â’r materion a nodir, yn enwedig y rhai sy’n gysylltiedig â phoblogaethau heb gynrychiolaeth ddigonol yn hanesyddol (er enghraifft dynion du ifanc) neu grwpiau sydd wedi’u hymyleiddio’n fwy (er enghraifft plant), gan gynnwys y rhai a nodwyd yn argymhelliad 3.1.1, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt.
- Dylai adolygiad o’r fath sicrhau bod arolygon a setiau data allweddol yn defnyddio mesurau cyson [gweler hefyd egwyddor 5 ar briodoldeb ac eglurder ynghylch y cysyniadau ac egwyddor 7 ar safonau wedi’u cysoni], ac nad yw anghysondebau’n camliwio’r cymaroldeb.
- Dylai cynhyrchwyr data ystyried sut i wella’r ffordd y caiff data gweinyddol eu casglu ar nodweddion a warchodir gan y gyfraith mewn deddfwriaeth cydraddoldeb yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, ar y cyd â defnyddwyr ac adrannau perthnasol yn y llywodraeth.Ymhlith yr enghreifftiau mae crefydd a chred, ailbennu rhywedd (hunaniaeth o ran rhywedd), priodas a phartneriaeth sifil, mamolaeth a beichiogrwydd, nodweddion perthnasol eraill megis cefndir economaidd-gymdeithasol a statws mudwr. Hefyd, dylid parhau i gofnodi gwybodaeth am nodweddion a gesglir yn rheolaidd (ac a warchodir gan y gyfraith yng Nghymru, Lloegr a’r Alban) megis rhyw, grŵp ethnig a statws anabledd, a hynny mewn modd cynhwysfawr a phriodol.
- Dylid casglu gwybodaeth am ryw, oedran a grŵp ethnig fel mater o drefn ac adrodd arni ym mhob math o ddata gweinyddol a data prosesau o fewn gwasanaethau, gan gynnwys ystadegau a gesglir mewn lleoliadau iechyd a gofal, gan yr heddlu ac mewn llysoedd a charchardai. Dylid adolygu ansawdd y data hyn yn rheolaidd er mwyn casglu gwybodaeth sy’n adlewyrchu’r rhai a ddaw i gysylltiad â’r lleoliadau hyn yn well.
- Lle y bo’n anymarferol neu’n amhriodol casglu gwybodaeth am nodweddion a warchodir gan y gyfraith yng Nghymru, Lloegr a’r Alban mewn data gweinyddol, neu lle nad yw’n data o’r fath yn rhoi digon o wybodaeth am brofiadau grwpiau a phoblogaethau, dylai cynhyrchwyr data ystyried cynnal arolygon ar raddfa fawr er mwyn ychwanegu at eu dealltwriaeth o’r materion hyn.
- Er enghraifft, mae’n debygol y bydd angen data atodol er mwyn casglu gwybodaeth well am gyfeiriadedd rhywiol, yn enwedig ymhlith pobl nad ydynt o oedran gweithio a’r tu hwnt i gyplau sy’n cyd-fyw. Hefyd, mae angen data ar lesiant seicolegol ar draws y sbectrwm oedran a rhyw, yn enwedig mewn perthynas ag iechyd meddwl dynion hŷn, merched a menywod ifanc.
- Dylai cynhyrchwyr data weithio mewn partneriaeth er mwyn sicrhau bod ffynonellau data gweinyddol y DU yn adlewyrchu nodweddion perthnasol mor briodol â phosibl [gweler hefyd egwyddor 5 ar briodoldeb ac eglurder ynghylch y cysyniadau ac egwyddor 7 ar safonau wedi’u cysoni]. Mae hyn yn cynnwys gweithio i gysylltu amrywiol setiau data gweinyddol, a data arolwg lle y bo’n briodol [gweler hefyd egwyddor 6 ar y dulliau a ddefnyddir] er mwyn sicrhau cwmpas. Bydd hyn yn atgyfnerthu’r potensial i ddata gweinyddol (wedi’u cysylltu) lenwi’r bylchau mewn perthynas â nodweddion perthnasol, a lle y maent yn croestorri yng ngwahanol wledydd y DU a rhyngddynt. Byddai hyn hefyd yn gwella dealltwriaeth o grwpiau perthnasol a’u profiadau dros amser ac mewn gwahanol leoliadau.
- Dylai cynhyrchwyr data werthuso cwmpas grwpiau poblogaethau nad ydynt yn rhan o gartrefi preifat yn nata’r DU a chymryd y camau angenrheidiol i fynd i’r afael â’r rhai sydd ar goll o’r data presennol. Yn benodol, dylent sicrhau y caiff preswylwyr sy’n aros am gyfnodau hwy mewn cartrefi gofal, ysbytai a charchardai, a’r trosiant o bobl rhwng cartrefi preifat a phreswylfeydd eraill (neu ddim preswylfa), eu hadlewyrchu.
- Dylai cynhyrchwyr data gydnabod anghenion data amrywiol gwahanol ddefnyddwyr yn y broses o gasglu data ar boblogaethau a grwpiau penodol a’r croestoriad rhwng nodweddion poblogaethau a grwpiau, a rhoi dulliau ar waith i sicrhau bod gweithgareddau casglu data ac adrodd arnynt yn diwallu anghenion amrywiaeth o ddefnyddwyr ac ymatebwyr.
4 Gwella seilwaith data'r DU fel bod modd dadgyfuno data a dadansoddi croestoriadau, a hynny mewn ffordd gadarn a dibynadwy, ar gyfer yr ystod lawn o grwpiau a phoblogaethau perthnasol, ac ar lefelau gwahanol o ddaearyddiaeth.
- Dylai cynhyrchwyr data sicrhau bod data’n ddigon manwl er mwyn gallu eu dadgyfuno mewn ffordd ystyrlon. Dylent osgoi defnyddio metagategorïau a all guddio heterogenedd rhwng grwpiau ac o fewn grwpiau ac nad yw pobl yn uniaethu â nhw o bosibl (er enghraifft, Gwyn, BAME, LGBTQ+).
- Dylai SYG a Swyddfa’r Cabinet fynd ati i hyrwyddo dull croestoriadol o archwilio a chyflwyno data ar anghydraddoldebau ledled y DU. Dylid osgoi dadansoddiadau camarweiniol o un nodwedd, a dylai dadansoddiadau ‘tebyg at ei debyg’ sy’n rheoli, er enghraifft, ar gyfer oedran, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, hiliaethu, cefndir a safle economaidd-gymdeithasol1 a lle, fod ar gael yn hawdd.
- Dylai SYG, Cofnodion Cenedlaethol yr Alban ac Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ymgymryd â dadansoddiadau croestoriadol manwl o gyfrifiadau 2021/22 er mwyn meithrin dealltwriaeth fanwl o natur anfantais. Er mwyn cynnwys cefndir economaidd-gymdeithasol wrth ddadansoddi croestoriadedd, dylai’r gwaith dadansoddi hefyd ddefnyddio ffynonellau awdurdodol eraill megis yr Arolwg o’r Llafurlu/yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, gan na chafodd mesur pwysig cefndir economaidd-gymdeithasol ei gynnwys yng nghyfrifiadau 2021/22.
- Dylai cynhyrchwyr yr adnoddau ar-lein sydd eisoes ar gael fabwysiadu dulliau croestoriadol, fel bod modd dadansoddi nodweddion gwahanol gyda’i gilydd (megis ethnigrwydd a chrefydd) er mwyn gwella dealltwriaeth o anghydraddoldebau.
- Dylai cynhyrchwyr data ddefnyddio dull gorsamplu wedi’i dargedu ar gyfer grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol er mwyn mynd i’r afael â bylchau penodol mewn gwybodaeth sy’n deillio o feintiau sampl bach a hwyluso dadansoddiadau croestoriadol.
- Rhaid i SYG sicrhau bod argymhellion 2023 ar gyfer system ystadegau cymdeithasol y dyfodol yn cynnig ateb parhaol i ddiwallu’r ystod lawn o anghenion data ar gynwysoldeb sydd wedi’u cynnwys yn yr argymhellion, gan gynnwys ar gyfer y grwpiau hynny a nodir fel blaenoriaethau yn 3.1.1.
5. Sicrhau bod y cysyniadau a gaiff eu mesur yn yr holl ddata a gesglir yn briodol ac yn eglur.
- Dylai cynhyrchwyr data adolygu sylfeini cysyniadol eu mesurau ar gyfer poblogaethau a grwpiau perthnasol, gan sicrhau bod y mesurau a ddefnyddir yn adlewyrchu’r safonau a’r ddeddfwriaeth gyfredol yn gywir. Dylai cynhyrchwyr data sicrhau bod mesurau’n gysyniadol gadarn ac nad ydynt yn ymgorffori datganiadau y gellid tybio eu bod yn ddirmygus, yn amhriodol neu’n gamarweiniol.
- Fel blaenoriaeth, dylai SYG newid ei mesurau anabledd yn rhai sydd wedi’u seilio’n fwy cadarn ar fframweithiau cysyniadol model bioseicogymdeithasol Dosbarthu Gweithrediad, Anabledd ac Iechyd (ICF) a Dosbarthu Gweithrediad, Anabledd ac Iechyd Plant a Phobl Ifanc (ICF-CY) Sefydliad Iechyd y Byd.
- Dylai SYG newid ei mesurau ethnigrwydd a chrefydd fel eu bod yn cyfateb yn well i’r ddealltwriaeth gysyniadol gyfredol, yn adlewyrchu amrywiaeth y boblogaeth ac yn hawdd eu hadnabod ac yn ystyrlon i bobl o grwpiau ethnig a chrefyddol penodol.
- Dylid ystyried pa mor gadarn yw’r mesurau i gasglu gwybodaeth am brofiad poblogaethau a grwpiau. Er enghraifft, er mwyn mesur tlodi yn fwy effeithiol, dylai SYG adolygu dulliau cyfrif cyfwerthedd a gwella amcangyfrifon o dlodi incwm a thlodi tanwydd ymhlith pobl ag anableddau a grwpiau eraill yr effeithir arnynt.
- Mewn cydweithrediad â’r Gweinyddiaethau Datganoledig, dylai SYG ddatblygu (a gwerthuso) cyfres o fesurau cefndir economaidd-gymdeithasol sy’n addas ar gyfer casglu gwybodaeth mewn setiau data gweinyddol ar arolygon. Ar y lleiaf, dylai hyn gynnwys mesurau o alwedigaethau rhieni ac addysg rhieni a bod yn ddigon manwl i gasglu gwybodaeth am amrywiaeth o ddosbarthiadau galwedigaethol a lefelau addysgol, heb fod yn feichus i ymatebwyr.
- Dylai cynhyrchwyr data sicrhau bod cynllun arolygon a holiaduron yn seiliedig ar ddealltwriaeth gysyniadol glir o’r wybodaeth sydd ei hangen, gan ddilyn arferion gorau er mwyn troi’r ddealltwriaeth gysyniadol hon yn brosesau casglu data priodol a hygyrch [gweler hefyd argymhelliad 1.5 o dan egwyddor 1 ar ymddiriedaeth a dibynadwyedd].
- Dylai cynhyrchwyr data a dadansoddwyr sicrhau bod yr iaith a ddefnyddir wrth gasglu gwybodaeth am bob nodwedd, ac adnodd arni, yn glir. Er enghraifft, dylid gwahaniaethu’n glir rhwng cysyniadau fel rhyw, rhywedd a hunaniaeth o ran rhywedd; neu hunaniaeth ethnig a chefndir ethnig. Byddai hyn yn helpu i osgoi amwysedd a dryswch ymhlith ymatebwyr a defnyddwyr data, sy’n gallu tanseilio ansawdd data a gwaith dadansoddi, yn ogystal â chred yn nilysrwydd a dibynadwyedd data.
- Wrth rannu data neu adrodd arnynt, dylai cynhyrchwyr data fod yn dryloyw ynglŷn â’r ffordd y cafodd y data eu casglu (er enghraifft, y cwestiynau a’r dulliau ymateb, gan gynnwys eglurder ynghylch y defnydd o ymatebion gan ddirprwyon). Dylent gyhoeddi metadata cynhwysfawr ochr yn ochr â’u data, sy’n hygyrch i ymatebwyr a defnyddwyr data er mwyn iddynt allu asesu ansawdd ac addasrwydd data.
6. Ehangu'r amrywiaeth o ddulliau a ddefnyddir fel mater o drefn a chreu dulliau newydd o ddeall profiadau holl boblogaeth y DU.
- Dylai cynhyrchwyr data ystyried cyfleoedd i ddefnyddio dulliau mwy amrywiol, arloesol a hyblyg o gasglu a chyfuno data, lle y bydd hynny’n arbennig o werthfawr er mwyn deall profiadau grwpiau a phoblogaethau perthnasol a/neu allu cynnwys lleisiau grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol neu sydd ar goll o ffynonellau data ar hyn o bryd – megis mudwyr heb eu dogfennu, pobl ag anableddau, pobl ‘ddigartref gudd’, a phlant. Bydd dulliau o’r fath hefyd yn berthnasol er mwyn casglu data mwy cynhwysfawr am nodweddion a phrofiadau’r grwpiau blaenoriaeth hynny a nodir ym mhwyntiau 3.1.1 a 3.2.
- Dylid ystyried amrywiaeth ehangach o ddulliau o gasglu gwybodaeth am y profiadau dros dro hynny na chânt eu cofnodi’n dda gan amlaf – ond y gall fod yn bwysig eu cynnwys. Ymhlith y rhain mae beichiogrwydd, cyfnodau yn yr ysbyty, gwaharddiadau o’r ysgol, cyfnodau y bydd plant yn eu treulio’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol, cysgu ‘o soffa i soffa’, a chyfnodau yn y carchar neu ar remánd. Mae hyn hefyd yn cynnwys profiadau sensitif neu brofiadau na cheir llawer o wybodaeth amdanynt ar gyfer rhai grwpiau, er enghraifft trais gan bartner a mathau eraill o drais domestig, yn enwedig yn achos menywod hŷn.
- Ymhlith y dulliau na chânt eu defnyddio ddigon ar hyn o bryd a fyddai’n cynnig gwybodaeth ychwanegol werthfawr mae: dulliau ethnograffig er mwyn deall profiadau go iawn, arbrofion yn y maes er mwyn deall mwy am wahaniaethu, astudiaethau cymharol ledled y DU er mwyn ystyried ‘beth sy’n gweithio’ wrth hyrwyddo dulliau casglu data cynhwysol, cysylltu data gweinyddol â data arolygon neu ffynonellau gweinyddol eraill, a defnyddio dulliau casglu data hydredol a data panel yn well a’u cyfoethogi.
- Er enghraifft, ar gyfer yr arolygon hynny sy’n casglu gwybodaeth am blant ar hyn o bryd, dylai cynhyrchwyr data ystyried pa wybodaeth y gellir ei chasglu’n uniongyrchol gan y plant eu hunain, gan ddefnyddio offerynnau priodol a dulliau amrywiol o gasglu data (er enghraifft, lluniau a dyddiaduron), gan ddilyn arferion gorau o ran casglu data a dulliau moesegol ac, ar yr un pryd, gydnabod yr amser/baich ychwanegol a allai fod yn gysylltiedig â hynny a’r anghenion preifatrwydd er mwyn i blant allu cymryd rhan. Hefyd, dylai data gael eu casglu er mwyn adlewyrchu plant sydd wedi’u hymyleiddio’n fwy (er enghraifft, plant anabl, plant carcharorion, plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr, plant sy’n derbyn gofal, ffoaduriaid a mudwyr sydd ar eu pen eu hunain) fel blaenoriaeth.
- Ym mhob datblygiad arloesol fel y rhai a nodir, rhaid rhoi sylw digonol i faterion yn ymwneud â chydsyniad, ymddiriedaeth a dibynadwyedd [gweler hefyd egwyddor 1 ar ymddiriedaeth] a risgiau sy’n gysylltiedig â datgelu.
- Er enghraifft, mewn perthynas â chysylltu data, sicrhau bod tystiolaeth bod ansawdd a chywirdeb y data a gaiff eu cysylltu, a’r broses gysylltu, yn briodol a bod mesurau diogelu wedi cael eu rhoi ar waith er mwyn diogelu preifatrwydd, cyfrinachedd ac anhysbysedd yr ymatebwyr, yn unol â’r canllawiau cyfredol megis Rhaglen Adolygu Systemig Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau Awdurdod Ystadegau’r DU ar Gysylltu Data ar gyfer Ystadegau Gwell. Mae cyfathrebu’n agored ynglŷn â’r defnydd o ddata a mesurau diogelu yn hanfodol hefyd. Dylai trefniadau cysylltu data a diogelu data ddilyn arferion gorau a chael eu cyfiawnhau mewn perthynas â phryderon ynglŷn â budd y cyhoedd, a hynny heb ddefnyddio mesurau diogelu fel ffordd o gyfyngu ar wybodaeth am boblogaethau sydd o ddiddordeb neu waith dadansoddi arnynt [gweler hefyd egwyddor 3 ar gasglu gwybodaeth gadarn am grwpiau].
7. Dylai safonau wedi'u cysoni ar gyfer grwpiau a phoblogaethau perthnasol gael eu hadolygu o leiaf bob pum mlynedd a'u diweddaru a'u hehangu lle bo angen, yn unol â newidiadau mewn normau cymdeithasol ac anghenion ymatebwyr a defnyddwyr.
- Dylai cynhyrchwyr data ymchwilio i ofynion defnyddwyr ac ymatebwyr a dilyn safonau a chanllawiau ar arferion gorau gan wledydd eraill a chyrff rhyngwladol perthnasol er mwyn sicrhau bod safonau wedi’u cysoni yn parhau i fod yn briodol ac yn berthnasol.
- Dylai cynhyrchwyr data ymchwilio i anghenion defnyddwyr ac ymatebwyr mewn perthynas â data ar grwpiau o ddiddordeb a rhoi canllawiau ar sut i gasglu’r data hyn drwy wahanol ddulliau, gan adolygu dulliau’n gyson er mwyn sicrhau eu bod yn berthnasol. Wedyn, dylid defnyddio’r wybodaeth hon i ddiweddaru’r safonau wedi’u cysoni sydd eisoes ar waith.
- Dylai SYG ac eraill yn y llywodraeth a’r gwledydd datganoledig gydweithio â’i gilydd i wella’r cysondeb a chymaroldeb setiau data ledled y DU, rhwng rhanbarthau a thros amser. Dylent sicrhau bod y data sylfaenol yn ddigon manwl ym mhob rhan o’r DU er mwyn osgoi sefyllfaoedd lle mae’r unig gysoni sy’n bosibl yn golygu metagategorïau anfoddhaol sy’n seiliedig ar nodwedd gyffredin, megis ‘gwyn’ a ‘heb fod yn wyn’. Mae hyn yn arbennig o bwysig gan fod profiadau pobl o gategorïau deuaidd o’r fath yn aml yn ddifrïol am eu bod yn cymryd mai bod yn wyn yw’r norm, yn hytrach na chydnabod amrywiaeth [gweler hefyd argymhelliad 4.1 o dan egwyddor 4 ar seilwaith data’r DU].
- Dylai cynhyrchwyr data ddefnyddio safonau wedi’u cysoni wrth gasglu data, neu systemau ar lefel fanylach sy’n gydnaws â safonau wedi’u cysoni, er mwyn gwella cymaroldeb a defnyddio’r data sydd eisoes ar gael yn well.
8. Sicrhau bod data a thystiolaeth y DU yr un mor hygyrch i bawb, gan ddiogelu manylion adnabod a chyfrinachedd y rhai sy'n rhannu eu data.
- Dylai SYG weithio gydag eraill i greu cronfa ddata ‘siop un stop’ ganolog o ddata a dadansoddiadau ar gydraddoldebau ar gyfer y DU gyfan sy’n hygyrch ac y gellir pori drwyddi.
- Dylai cynhyrchwyr data sicrhau bod data gweinyddol yn hygyrch i amrywiaeth eang o ddefnyddwyr, gan gynnwys pobl nad ydynt yn arbenigwyr. Dylai hyn gynnwys allbynnau a data ‘crai’ nad ydynt yn datgelu pwy yw’r bobl dan sylw fel bod modd cyflawni dadansoddiadau amgen. Yn benodol, mae angen i ddata a gesglir ar breswylwyr sefydliadau cymunedol, megis carchardai a chartrefi gofal, fod ar gael er mwyn gwella gwasanaethau a thryloywder.
- Dylai cynhyrchwyr data ddatblygu adnoddau ar-lein ychwanegol a hawdd eu defnyddio er mwyn i bobl nad ydynt yn arbenigwyr archwilio setiau data sydd eisoes yn bodoli. Ni ddylai defnyddwyr gael eu cyfyngu, fel y gwneir mewn rhai adnoddau ar-lein sydd eisoes ar gael, i dablau parod a roddir ymlaen llaw gan y darparwr data. Yn hytrach, dylent allu archwilio’r data fel y gallant ddiwallu eu hanghenion, yn amodol ar fesurau diogelu awtomatig rhag datgelu, fel yn achos Statistics Finland, er enghraifft. O ran egwyddor ‘dwyochredd cyffredinol’, lle y bydd aelodau o’r cyhoedd wedi rhoi eu data’n wirfoddol fel ymatebwyr, ni ddylai darparwyr data godi tâl ar aelodau eraill o’r cyhoedd y mae angen iddynt gael gafael ar y data.
- Dylai cynhyrchwyr data ystyried iaith, llythrennedd, fformat a dealltwriaeth wrth gyflwyno gwaith dadansoddi a thystiolaeth, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd 2018, a llunio gwefannau ac allbynnau hygyrch ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol, gan gynnwys pobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol.
- Lle bo data gweinyddol perthnasol eisoes yn bodoli sy’n cyfoethogi’r ddealltwriaeth o gynhwysiant/allgáu, dylai fod yn ofynnol i’r adrannau cyfrifol eu cyhoeddi. Dylai cynhyrchwyr data, cyn belled ag y bo modd, fabwysiadu model data agored er mwyn helpu i sicrhau bod data ar gael am ddim ac yn hawdd eu defnyddio i bawb.