Tystiolaeth ategol
Ymgysylltodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ag amrywiaeth o gynulleidfaoedd ar ran y Tasglu Data Cynhwysol er mwyn deall sut y gall data a thystiolaeth fod yn fwy cynhwysol, a’r gofynion penodol ar gyfer hyn. Roedd hyn yn cynnwys arferion casglu data, sut y caiff data eu defnyddio, sut y caiff tystiolaeth ei chyflwyno, a ble y ceir bylchau mewn data neu dystiolaeth y gellid eu llenwi er mwyn bod yn fwy cynhwysol. Ystyriodd y Tasglu yr holl dystiolaeth a gasglwyd wrth wneud ei argymhellion terfynol.
Gwnaeth y Ganolfan Cydraddoldebau a Chynhwysiant o fewn SYG arwain sawl pecyn ymchwil ar gyfer y Tasglu, eu dylunio a’u rhoi ar waith. Y nod oedd ymgysylltu ag aelodau o’r cyhoedd, grwpiau cydraddoldeb, academyddion, sefydliadau cymdeithas sifil, melinau trafod, y gweinyddiaethau datganoledig ac adrannau llywodraeth ganolog ynghylch cynwysoldeb mewn data.
Ddechrau mis Ionawr 2021, lansiodd SYG ymgynghoriad ar-lein agored er mwyn ceisio barn ar ba mor gynhwysol yw data a thystiolaeth y DU, gan gynnwys meysydd i’w gwella ac enghreifftiau o arferion da. Cafodd yr ymgynghoriad ar-lein ei hyrwyddo’n eang ymhlith rhanddeiliaid mewnol ac allanol, yn ogystal ag aelodau o’r cyhoedd. Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 26 Mawrth 2021.
Hefyd, cynhaliodd SYG drafodaethau bord gron a chyfweliadau manwl â chynrychiolwyr y gweinyddiaethau datganoledig, awdurdodau lleol, llywodraeth ganolog, academyddion a chymdeithasau dysgedig. Cynhaliwyd y grwpiau a’r cyfweliadau hyn rhwng mis Ionawr 2021 a mis Ebrill 2021.
Hefyd, comisiynodd y Tasglu gwmni Basis Research i gynnal grwpiau ffocws a chyfweliadau manwl â sefydliadau cymdeithas sifil ac aelodau o’r cyhoedd sydd wedi cael profiad o amrywiaeth o faterion yn ymwneud â chydraddoldeb. Gwnaed y gwaith ymchwil hwn rhwng mis Chwefror 2021 a mis Ebrill 2021.
Cynhaliwyd ymgynghoriad papur hefyd fel cyfle arall i gasglu barn y cyhoedd, yn enwedig y grwpiau hynny sy’n wynebu’r risg fwyaf o gael eu hallgáu’n ddigidol. Roedd yn bwysig casglu barn y grwpiau hyn er mwyn i’r ymgynghoriad ei hun fod yn gynhwysol, yn enwedig yn sgil y defnydd eang o ddulliau casglu data ar-lein ers dechrau’r pandemig. Gwnaed y gwaith ymchwil hwn ym mis Ebrill 2021.
Hefyd, sefydlwyd blwch negeseuon swyddogol yn benodol er mwyn i bartïon â diddordeb ohebu â’r Tasglu. Logiwyd pob neges e-bost ac atodiad, gan gynnwys ymatebion i’r Ymgynghoriad Ar-lein ar Ddata Cynhwysol, ac adroddiadau a mentrau a oedd yn mynd rhagddynt mewn perthynas â chynwysoldeb data a thystiolaeth. Cawsant eu hanfon ymlaen at aelodau o’r Tasglu a’u hystyried wrth ddrafftio’r adroddiad argymhellion. Cafodd ymatebion i’r Ymgynghoriad Ar-lein ar Ddata Cynhwysol a anfonwyd drwy e-bost erbyn y dyddiad cau (26 Mawrth 2021) eu cynnwys yn y dadansoddiadau a’r adroddiadau, ochr yn ochr â’r ymatebion a gyflwynwyd ar-lein drwy Citizen Space.
Back to top