Adroddiad blynyddol ar gynnydd tuag at weithredu argymhellion y Tasglu Data Cynhwysol
1. Cyflwyniad
Yr adroddiad hwn yw’r adolygiad diweddaraf a therfynol o gynnydd tuag at gyflawni ymrwymiadau’r Tasglu Data Cynhwysol (y Tasglu). Roedd trefniadau ar waith i fonitro ymrwymiadau’r Tasglu tan ddiwedd cyfnod Adolygiad o Wariant 2020-2025. Caiff gwerthusiad ôl-weithredol o’r hyn a oedd wedi gweithio’n dda a’r hyn nad oedd wedi gweithio cystal wrth weithredu argymhellion y Tasglu, o safbwynt amrywiaeth o randdeiliaid a oedd yn ymwneud fwyaf uniongyrchol â’r gwaith, ei gyflwyno fel Atodiad ar wahân, a chaiff y canfyddiadau allweddol eu crynhoi yn yr adroddiad hwn. Gan gydnabod y ffaith bod gwneud ein data a thystiolaeth yn fwy cynhwysol yn daith barhaus yn hytrach na chyrchfan, ein nod yw dysgu’r gwersi sy’n deillio o’r camau gweithredu cynnar a defnyddio’r rhain i ddatblygu camau pellach i wreiddio cynhwysiant yn ein gweithlu, ein data a’n dadansoddiadau yn y dyfodol.
Caiff yr adroddiad hwn ei rannu â Phwyllgor Cynghori ar Ddata Cynhwysol yr Ystadegydd Gwladol a’i gyhoeddi ochr yn ochr â’r holl bapurau sy’n ymwneud â’r Tasglu ar wefan Awdurdod Ystadegau’r DU (UKSA).
Ceir rhestr lawn o’r acronymau a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn yn Atodiad A.
2. Menter y Tasglu Data Cynhwysol
Mae ‘cynhwysol’ yn un o bedwar piler strategaeth Awdurdod Ystadegau’r DU, Statistics for the Public Good, sy’n cwmpasu’r cyfnod o 5 mlynedd rhwng 2020 a 2025. Mae’r strategaeth yn rhagweld y bydd cynhwysiant yn cwmpasu ein gweithlu a’n data, ein hystadegau a’n dadansoddiadau, gyda’r nod o sicrhau:
“…we reflect the experiences of everyone in our society so that everyone counts, and is counted, and no one is forgotten.”
Er mwyn deall yn well sut y gallem wneud ein data a’n tystiolaeth yn fwy cynhwysol, gwahoddodd yr Ystadegydd Gwladol (ar y pryd), Syr Ian Diamond, grŵp o arbenigwyr annibynnol i ffurfio’r Tasglu yn 2020. Gwnaethant ymchwilio, ymgynghori â rhanddeiliaid a myfyrio am ychydig llai na blwyddyn cyn cyflwyno eu hargymhellion yn ffurfiol i’r Ystadegydd Gwladol yn hydref 2021.
Creodd eu hadroddiad, Adroddiad argymhellion y Tasglu Data Cynhwysol: Gadael neb ar ôl – Sut y gallwn fod yn fwy cynhwysol yn ein data? (2021), lasbrint ar gyfer gwneud ein data a’n tystiolaeth yn fwy cynhwysol gan ganolbwyntio ar wyth Egwyddor Data Cynhwysol (gweler Tabl 1), gydag argymhellion penodol ar gyfer gweithredu o dan bob un.
Egwyddor Data Cynhwysol 1:
Creu amgylchedd o ymddiriedaeth a dibynadwyedd sy’n galluogi ac yn annog pawb i gyfrif a chael eu cyfrif yn nata a thystiolaeth y DU.
Egwyddor Data Cynhwysol 2:
Defnyddio dull system gyfan, gan weithio mewn partneriaeth ag eraill i wneud data a thystiolaeth y DU yn fwy cynhwysol.
Egwyddor Data Cynhwysol 3:
Sicrhau y caiff gwybodaeth am bob grŵp ei chofnodi mewn perthynas ag agweddau allweddol ar fywyd yn nata’r DU, ac adolygu arferion yn rheolaidd.
Egwyddor Data Cynhwysol 4:
Gwella seilwaith data’r DU fel bod modd dadgyfuno data a dadansoddi croestoriadau, a hynny mewn ffordd gadarn a dibynadwy, ar gyfer yr ystod lawn o grwpiau a phoblogaethau perthnasol, ac ar lefelau gwahanol o ddaearyddiaeth.
Egwyddor Data Cynhwysol 5:
Sicrhau bod y cysyniadau a gaiff eu mesur yn yr holl ddata a gesglir yn briodol ac yn eglur.
Egwyddor Data Cynhwysol 6:
Ehangu’r amrywiaeth o ddulliau a ddefnyddir fel mater o drefn a chreu dulliau newydd o ddeall profiadau holl boblogaeth y DU.
Egwyddor Data Cynhwysol 7:
Dylai safonau wedi’u cysoni ar gyfer grwpiau a phoblogaethau perthnasol gael eu hadolygu o leiaf bob pum mlynedd a’u diweddaru a’u hehangu lle bo angen, yn unol â newidiadau mewn normau cymdeithasol ac anghenion ymatebwyr a defnyddwyr.
Egwyddor Data Cynhwysol 8:
Sicrhau bod data a thystiolaeth y DU yr un mor hygyrch i bawb, gan ddiogelu manylion adnabod a chyfrinachedd y rhai sy’n rhannu eu data.
Yn dilyn yr adroddiad, cyhoeddwyd Ymateb gan yr Ystadegydd Gwladol i Adroddiad ac argymhellion y Tasglu Data Cynhwysol (2021) a Chynllun Gweithredu’r Tasglu Data Cynhwysol yn 2022 a wnaeth grynhoi rhaglen waith drawslywodraethol lefel uchel a oedd yn cynnwys 205 o ymrwymiadau ar gyfer gweithredu o dan yr 8 Egwyddor Data Cynhwysol, gyda’r nod cyfunol o greu newid sylweddol yng nghynwysoldeb data a thystiolaeth y DU. Ehangwyd hyn yn ddiweddarach i 339 o ymrwymiadau, a oedd yn adlewyrchu datblygiadau newydd ym maes data cynhwysol yn ystod y cyfnod hwn. Cafodd dau adroddiad cynnydd blynyddol eu cyhoeddi hefyd, un oedd yn edrych ar gynnydd yn erbyn y 205 o ymrwymiadau ac un arall oedd yn edrych ar gynnydd yn erbyn y 339 o ymrwymiadau: Ymgorffori Cynwysoldeb yn nata’r DU (2023) ac Ymrwymiadau’r Tasglu Data Cynhwysol: Adroddiad Cynnydd Blynyddol (2024).
3. Mesur cynnydd yng nghynwysoldeb data a thystiolaeth y DU
Galwodd y Tasglu Data Cynhwysol am ddull systemig o roi ei argymhellion ar waith, gan annog camau i weithio mewn ffordd gydgysylltiedig ar draws system ystadegol y DU. I’r perwyl hwnnw, wrth ddatblygu’r Cynllun Gweithredu, casglwyd gwybodaeth am ystod eang o brosiectau a oedd yn cael eu cynnal ar draws y llywodraeth ac yn ehangach. Mapiodd y Tasglu Data Cynhwysol y prosiectau unigol hyn yn erbyn yr Egwyddorion Data Cynhwysol er mwyn gallu nodi’n well ble roedd llawer o gynnydd yn cael ei wneud a ble roedd angen gwneud mwy. Y nod oedd nodi a rhannu gwybodaeth am weithgareddau anghydnaws posibl yn y system mewn ymgais i ysbrydoli gwaith mwy cydlynol a sicrhau mwy o fuddiannau cyfunol tuag at gynwysoldeb nag y gellid eu sicrhau drwy ymdrechion mwy ynysig.
Monitro cynnydd
Gan fod angen cydgysylltu gwybodaeth o lawer o feysydd llywodraeth a llawer o brosiectau unigol, sefydlwyd fframwaith mesur yn 2023 er mwyn monitro cynnydd yn erbyn pob Egwyddor Data Cynhwysol. Roedd hwn yn canolbwyntio ar y cyfnod o 2022 pan gyhoeddwyd y Cynllun Gweithredu hyd at wanwyn 2025, sef diwedd cyfnod yr Adolygiad o Wariant pan roedd disgwyl i lawer o brosiectau ymrwymiad cychwynnol y Tasglu ddod i ben. Y gobaith oedd y byddai’r fframwaith monitro yn hwyluso cyfathrebu ar draws Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth a chyrff llywodraethu a oedd yn gysylltiedig â gweithredu argymhellion y Tasglu, yn ogystal â’i gwneud yn bosibl i weithredu mewn ffordd fwy strategol a chymryd camau cywiro lle bo hynny’n bosibl. Roedd gwybodaeth reoli am gynnydd gan ddefnyddio’r fframwaith hwn yn cael ei chasglu a’i rhannu’n fewnol yn y SYG fel metrigau risg strategol a ddarparwyd bob dau fis, gyda chyrff cynghori annibynnol ac ar draws Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth, ac o fewn adroddiadau cynnydd a gyhoeddwyd bob blwyddyn.
Bob blwyddyn ers i’r fframwaith gael ei gyflwyno, gofynnwyd i ‘berchnogion ymrwymiadau’ enwebedig o adrannau llywodraeth y DU, y llywodraethau datganoledig a sefydliadau cymdeithas sifil gyflwyno diweddariad ar gynnydd y prosiect. Roedd diweddariadau chwarterol yn canolbwyntio ar ddetholiad o 43 o brosiectau y dynodwyd eu bod yn ‘ymrwymiadau allweddol’ am eu bod ymhlith y prosiectau y tybiwyd a fyddai fwyaf tebygol o helpu i wneud newid sylweddol o ran cynwysoldeb data a thystiolaeth y DU. Unwaith y flwyddyn, roeddem yn gofyn am ddiweddariadau ar gyfer pob un o 339 o ymrwymiadau’r Tasglu a dyma a wnaed ar gyfer ein diweddariad terfynol ar gynnydd. Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar y diweddariad ar gynnydd ar gyfer 2024/25.
Rhwng mis Tachwedd 2024 a mis Mawrth 2025, gofynnwyd i bob perchennog ymrwymiad asesu cynnydd mewn perthynas â phob ymrwymiad yn eu maes yn ystod y chwarter hwnnw, gan gynnwys:
- Statws yr ymrwymiad a’i gynnydd o gymharu â’r amserlen ddisgwyliedig
- Crynodeb o gynnydd y prosiect hyd yma
- Unrhyw ddiweddariad disgwyliedig ar yr amserlen ar gyfer cwblhau pob ymrwymiad.
Mae statws ymrwymiadau yn yr adroddiad hwn yn dilyn system goleuadau traffig fel a ganlyn:
- wedi’u cwblhau yn golygu bod y gwaith a nodwyd gan yr ymrwymiad wedi’i gyflawni
- gwyrdd yn golygu bod y gwaith ar y trywydd cywir i’w gyflawni yn ôl y bwriad
- melyn yn golygu bod oedi wrth gwblhau’r gwaith
- coch yn golygu bod oedi sylweddol wrth gwblhau’r gwaith neu ei fod wedi cael ei ohirio dros dro.
Gan mai dyma’r diweddariad terfynol ar gynnydd prosiectau ymrwymiad cychwynnol y Tasglu, cafodd taflwybr disgwyliedig prosiectau yr aseswyd eu bod yn goch neu’n felyn ei ystyried hefyd drwy gynnal arolwg ar-lein â pherchnogion ymrwymiadau, lle nad oedd y wybodaeth hon wedi cael ei darparu eisoes yn eu diweddariad terfynol. Mae canfyddiadau’r dadansoddiad hwn i’w gweld yn Beth wnaeth atal neu oedi ymdrechion i gyflawni ymrwymiadau’r Tasglu.
Back to top4. Cynnydd erbyn diwedd 2024/25
Cynnydd cyffredinol ar draws holl ymrwymiadau’r Tasglu
Rhwng cyfnodau monitro 2024 a 2025, mae cyfran y prosiectau a gwblhawyd wedi cynyddu o 43% i 55%. Dros yr un cyfnod, roedd cyfran y prosiectau sydd wedi profi oedi sylweddol neu sydd wedi cael eu gohirio dros dro wedi gostwng o 6% yn 2024 i 3% yn 2025. Ni luniwyd cymariaethau â ffigurau 2023 gan fod y ffigurau bryd hynny yn seiliedig ar 205 o ymrwymiadau. Mae’r ymrwymiadau ychwanegol a ychwanegwyd ar ôl adroddiad blynyddol 2023 yn golygu mai cyfanswm yr ymrwymiadau ar gyfer 2024 a 2025 oedd 339.
Fel rhan o’r asesiad terfynol o 339 o ymrwymiadau’r Tasglu, nodwyd bod 88% naill ai wedi’u cwblhau (55%) neu ar y trywydd cywir i’w cyflawni (33%). Nodwyd y bu oedi yn amserlen waith 8% o’r ymrwymiadau, ac aseswyd bod 3% arall wedi profi oedi sylweddol neu wedi cael eu gohirio’n dros dro.
Wrth asesu cynnydd, mae’n bwysig nodi bod gwneud system ystadegol y DU yn fwy cynhwysol yn genhadaeth barhaus, hirdymor, tra bod y canlyniadau a nodir yma yn seiliedig ar gerrig milltir ar gyfer prosiectau unigol a gyflawnwyd ar adeg benodol. Efallai mai’r taflwybr ehangach a’r ymdrechion parhaus ar draws y system sy’n dangos newid parhaus ac effeithiol. Efallai na fydd prosiectau unigol yn gwneud cynnydd llinol. Ar draws Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth, gall ailflaenoriaethu yn sgil newidiadau i bolisïau ac ad-drefnu adnoddau arwain at ohirio ac atal prosiectau neu ffrydiau gwaith penodol. Nid yw hyn yn awgrymu o reidrwydd bod gwaith yn y maes hwnnw wedi dod i ben yn llwyr neu na fydd yn ailddechrau yn ddiweddarach ac, yn wir, mae enghreifftiau o blith prosiectau ymrwymiad y Tasglu lle mae hyn wedi digwydd.
Cynnydd a gyflawnwyd gan brosiectau ‘ymrwymiad allweddol’
Ar draws y portffolio o 339 o ymrwymiadau’r Tasglu, nodwyd y gallai rhai ohonynt gael mwy o effaith ar gynwysoldeb data a thystiolaeth y DU. Cyfeiriwyd at y rhain fel ‘ymrwymiadau allweddol’, a nodwyd o blith yr ymrwymiadau gwreiddiol a gyhoeddwyd yng Nghynllun Gweithredu’r Tasglu (2022). Maent yn cynnwys y mentrau (llinynnau gwaith, prosiectau, rhaglenni) yr aseswyd y gallent helpu i wneud newid sylweddol i gynwysoldeb data ar draws system ystadegol y DU, yn seiliedig ar y meini prawf canlynol:
- cynaliadwy: yn debygol o barhau dros amser (hirhoedledd)
- uchelgeisiol: ehangder y fenter (rhaglenni gwaith vs prosiectau unigol)
- radical: gwaith unigryw/arloesol mewn perthynas â mater/grŵp allweddol
- amserol: rhaid cynnwys elfennau clir i’w cyflawni cyn diwedd mis Mawrth 2025
Gan ddefnyddio’r meini prawf hyn, cafodd 43 o ymrwymiadau allweddol eu nodi a’u monitro bob chwarter. Adeg yr asesiad terfynol, nodwyd bod 83% o’r ymrwymiadau allweddol hyn naill ai wedi’u cwblhau (53%) neu ar y trywydd cywir i’w cyflawni (30%, gwyrdd).
Nid oedd yr ymrwymiadau allweddol wedi’u rhannu’n gyfartal rhwng meysydd yr Egwyddorion Data Cynhwysol. Roedd y mwyafrif o’r ymrwymiadau allweddol yn perthyn i EDC3 (18 o ymrwymiadau) ac EDC4 (9 ymrwymiad) a dim ond 1 ymrwymiad allweddol yr un a oedd wedi’i gynnwys yn EDC7 ac EDC8.
Roedd EDC3 yn cynnwys ymrwymiadau a oedd yn canolbwyntio ar sicrhau bod gwybodaeth am bob grŵp yn cael ei chofnodi’n gadarn mewn perthynas ag agweddau allweddol ar fywyd yn nata’r DU ac adolygu arferion yn rheolaidd. Roedd ymrwymiadau EDC4 yn canolbwyntio ar wella seilwaith data’r DU fel bod modd dadgyfuno data a dadansoddi croestoriadau, a hynny mewn ffordd gadarn a dibynadwy, ar gyfer yr ystod lawn o grwpiau a phoblogaethau perthnasol, ac ar lefelau gwahanol o ddaearyddiaeth.
Cynnydd ar draws yr Egwyddorion Data Cynhwysol
Wrth fapio’r 339 o ymrwymiadau yn erbyn yr 8 Egwyddor Data Cynhwysol, gwelwyd bod mwy o weithgarwch yn digwydd mewn perthynas â rhai EDCau nag eraill, a bod camau cyflawni wedi bod yn fwy llwyddiannus mewn rhai meysydd nag eraill. Mae dadansoddiad o gynnydd wrth gyflawni ymrwymiadau ar gyfer pob EDC i’w weld yn Atodiad B.
Wrth edrych ar lwyddiant camau cyflawni mewn perthynas â’r prosiectau ym mhob un o’r Egwyddorion Data Cynhwysol, mae’r meysydd â’r cyfrannau uchaf o brosiectau wedi’u cwblhau neu ar y trywydd cywir i’w cyflawni yn canolbwyntio ar sicrhau bod y cysyniadau a gaiff eu mesur yn briodol ac yn eglur (EDC5 gyda 94% wedi’u cwblhau neu ar y trywydd cywir); ac ar sicrhau bod data a thystiolaeth y DU yr un mor hygyrch i bawb, gan ddiogelu manylion adnabod a chyfrinachedd y rhai sy’n rhannu eu data (EDC8 gyda 98% wedi’u cwblhau neu ar y trywydd cywir). Dangosir y canfyddiadau hyn yn Ffigur 5.
Mae’r meysydd sydd wedi bod fwyaf heriol o bosibl yn ymwneud â chreu amgylchedd o ymddiriedaeth a dibynadwyedd, gan annog pawb i gyfrif a chael eu cyfrif mewn data a thystiolaeth (EDC1 gyda 19% o brosiectau wedi’u hoedi neu’u gohirio dros dro); ac ehangu’r amrywiaeth o ddulliau a ddefnyddir a chreu dulliau newydd er mwyn deall profiadau holl boblogaeth y DU (EDC6 gydag 16% wedi’u hoedi). Dangosir y canfyddiadau hyn yn Ffigur 6.
Back to top5. Beth wnaeth atal neu oedi ymdrechion i gyflawni ymrwymiadau'r Tasglu?
Er mwyn deall yn well pam bod rhai o ymrwymiadau’r Tasglu wedi profi oedi neu wedi cael eu gohirio dros dro a’r cynlluniau a roddwyd ar waith er mwyn helpu i roi’r prosiectau ar y trywydd cywir unwaith eto, cynhaliwyd dadansoddiad arall yn canolbwyntio ar y rhai yr aseswyd eu bod yn felyn neu’n goch. Roedd y statws Coch/Melyn/Gwyrdd yn cael ei hunanasesu gan yr unigolyn a enwebwyd yn ‘berchennog’ yr ymrwymiad a oedd yn gyfrifol am adrodd i Dîm Monitro ac Adrodd Data Cynhwysol y SYG.
Dulliau ymchwil
Er mwyn meithrin dealltwriaeth well o’r ffactorau sy’n cyfrannu at oedi neu derfynu prosiectau, cynhaliwyd dadansoddiad thematig o’r 39 o brosiectau yr aseswyd eu bod yn felyn (28) neu’n goch (11) er mwyn nodi patrymau o fewn y rhesymau a roddwyd gan ddeiliaid ymrwymiadau dros statws prosiect melyn neu goch.
Er mwyn meithrin dealltwriaeth well o gynlluniau i oresgyn rhwystrau i gynnydd yn y dyfodol, cynhaliwyd dadansoddiad thematig o ddiweddariadau deiliaid ymrwymiadau, trafodaethau â pherchnogion ymrwymiadau a dadansoddiad o ymatebion arolwg mewn perthynas â’r 39 o ymrwymiadau yr aseswyd eu bod yn felyn neu’n goch.
Gweler Atodiad C i gael rhagor o wybodaeth am y dulliau ymchwil a ddefnyddiwyd.
Ffactorau sy’n cyfrannu at oedi neu derfynu prosiectau
Cyfyngiadau o ran adnoddau, ailflaenoriaethu a dibyniaethau oedd y ffactorau allweddol y nodwyd eu bod yn cyfrannu at oedi neu derfynu prosiectau, fel y crynhoir isod.
Cyfyngiadau o ran adnoddau
Nodwyd bod cyfyngiadau o ran adnoddau yn rhesymau pwysig i egluro pam bod prosiectau wedi profi oedi neu wedi gorfod dod i ben, gan arwain at asesiad melyn neu goch. Roedd hyn yn cynnwys:
- Cyfyngiadau ariannol a oedd yn golygu nad oes digon o adnoddau ar gael i wneud y gwaith ar hyn o bryd, er enghraifft, am fod cyllid wedi lleihau neu am fod y prosiect yn aros am gyllid, neu yn y gorffennol pan roedd diffyg cyllid wedi achosi oedi yn llinellau amser prosiectau.
- Cyfeiriwyd weithiau at gyfyngiadau o ran adnoddau eraill hefyd a oedd yn cynnwys swyddi gwag, ond ni roddwyd manylion yn aml iawn.
Newid blaenoriaethau
Roedd ailflaenoriaethu yn ffactor arall a oedd wedi arwain at oedi neu atal prosiectau, am fod adnoddau wedi gorfod cael eu hailddyrannu am fod blaenoriaethau wedi newid ac am fod angen yr adnoddau yn gynt rhywle arall. Mae hyn yn cynnwys ailflaenoriaethu sy’n gysylltiedig â newidiadau i gyfeiriad polisïau a blaenoriaethau gweinidogol a’r angen i osgoi dyblygu gwaith ar draws y llywodraeth. Gallai ailflaenoriaethu hefyd arwain at oedi i amserlenni gwreiddiol a allai ei gwneud yn anodd cyflawni’r prosiect fel y cynlluniwyd neu ohirio gwaith am gyfnod amhenodol.
Dibyniaethau
Dywedwyd hefyd fod dibyniaethau yn cyfrannu at statws melyn neu goch. Ymhlith yr enghreifftiau o ddibyniaethau a oedd wedi achosi oedi i brosiectau ymrwymiad y Tasglu roedd:
- oedi cyn cael data (gan gynnwys caniatâd i ddefnyddio setiau data ac aros i ddata gael eu trosglwyddo),
- oedi cyn cael cymeradwyaeth ffurfiol i waith fynd rhagddo,
- dibyniaeth ar raglenni gwaith eraill sydd wedi oedi
- penderfyniadau i gadarnhau cyfeiriad strategol
Yn yr achosion hyn, efallai bod y gallu a’r adnoddau ar gael i wneud y gwaith, ond mae dibyniaeth ar fewnbynnau o ran arall o’r system yn llesteirio cynnydd.
Goresgyn rhwystrau i gynnydd
Cynhaliwyd dadansoddiad hefyd i edrych ar gynlluniau i sicrhau bod ymrwymiadau’r Tasglu yr aseswyd eu bod yn goch neu’n felyn yn cael eu rhoi ar y trywydd cywir unwaith eto.
Mae disgwyl i fwyafrif prosiectau ymrwymiad y Tasglu sy’n profi oedi cymedrol neu sylweddol barhau y tu hwnt i flwyddyn ariannol 2024/25 (h.y., diwedd y cyfnod monitro). O’r 39 o brosiectau coch a melyn a gafodd eu cynnwys yn y dadansoddiad:
- mae disgwyl i 32 ohonynt barhau
- nid oes disgwyl i 4 ohonynt barhau
- mae ansicrwydd o hyd p’un a fydd 3 ohonynt yn parhau.
Mae cynlluniau ar waith i sicrhau bod mwyafrif y prosiectau melyn a choch yn cael eu rhoi ar y trywydd cywir unwaith eto. Ymhlith y rhai y mae disgwyl iddynt barhau, roedd y camau nesaf i symud prosiectau ymrwymiad y Tasglu o statws coch/melyn i statws gwyrdd neu wedi cwblhau yn cynnwys ffyrdd penodol o adolygu ac ail-lansio’r prosiectau yn ogystal â ffyrdd newydd o gyflawni’r gwaith, er enghraifft, mwy o gydweithio. Mae Ffigur 7 yn crynhoi canfyddiadau’r dadansoddiad thematig o ymatebion perchnogion ymrwymiadau:
Ffigur 7: Ffyrdd o roi prosiectau ymrwymiad y Tasglu ar y trywydd cywir unwaith eto
Adolygu, profi a dechrau o’r newydd gyda dulliau, casglu data neu ddadansoddi. Bydd hyn yn cynnwys:
- Profi dichonoldeb dulliau casglu data
- Adolygu dulliau arfaethedig i gyd-fynd â chanllawiau a gwneud argymhellion,
- Archwilio dulliau o fesur ansawdd, cynwysoldeb a chynrychiolaeth data gweinyddol at ddibenion ystadegol
- Treialu dulliau cysylltu data
- Dadansoddi data arolygon newydd
Mwy o feddwl strategol. Bydd hyn yn cynnwys:
- Adolygu canfyddiadau presennol i nodi meysydd â blaenoriaeth ar gyfer y strategaeth.
Bydd arferion cynwysoldeb a hygyrchedd yn cael eu hadolygu / gwella. Bydd hyn yn cynnwys:
- Cynnwys hygyrchedd a thryloywder mewn canllawiau a rheoliadau, yn ogystal â’r gwaith o ddylunio arolygon a gwefannau
- Gwella prosesau recriwtio i hyrwyddo cynwysoldeb
- Ymchwilio i gynwysoldeb fel rhan o raglenni gwaith mwy
Bydd dulliau mwy cydweithredol yn cael eu defnyddio. Bydd hyn yn cynnwys:
- Cydweithio ar draws y llywodraeth a rhwng gweinyddiaethau datganoledig i symud gwaith yn ei flaen
- Rhannu gwybodaeth, methodoleg a dulliau gweithredu, adolygu argaeledd asedau ymchwil, cysylltu setiau data a sefydlu grwpiau llywodraethu ar y cyd
Edrychodd y dadansoddiad thematig hefyd ar y rhesymau pam nad oedd disgwyl i rai prosiectau coch/melyn barhau y tu hwnt i’r cyfnod monitro. Efallai nad yw’n syndod gweld bod y rhain yn debyg i’r rhesymau cychwynnol a roddwyd dros asesu prosiectau yn goch neu’n felyn: h.y., diffyg adnoddau, ailflaenoriaethu, a dibyniaethau. Yr hyn sy’n llai clir yw pam mae ffordd ymlaen i oresgyn y materion hyn wedi cael ei nodi mewn llawer o achosion, ond nid pob un. Y sefydliadau sy’n berchen ar yr ymrwymiadau hyn sy’n gyfrifol am sicrhau eu bod yn cael eu rhoi ar y trywydd cywir unwaith eto.
Back to top6. Crynodeb o gynnydd
Mae Cynllun Gweithredu’r Tasglu a’r cyflawniadau cysylltiedig wedi dibynnu ar gyfraniadau cyfunol o bob rhan o’r system ystadegol, gan gynnwys amrywiaeth o adrannau llywodraeth y DU, y gweinyddiaethau datganoledig a sefydliadau eraill. Mae argymhellion y Tasglu wedi darparu fframwaith pwysig i nodi a deall ble mae cynnydd wedi cael ei wneud ym maes data cynhwysol ar draws y system a ble mae angen gwneud rhagor o waith. I lawer o sefydliadau, mae’r argymhellion wedi cael eu defnyddio hefyd i ddarparu’r momentwm parhaus a’r rhesymeg dros wneud eu data yn fwy cynhwysol.
Mae rhaglenni gwaith sy’n gysylltiedig ag ymrwymiadau’r Tasglu wedi gwneud data yn fwy cynhwysol o safbwynt casgliadau data gweinyddol a data arolygon ar gyfer grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn ystadegau’r DU. Er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban ac adrannau o Lywodraeth y DU fel yr Adran Addysg, yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Cyllid a Thollau EF, y Swyddfa Gartref a’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, yn ogystal â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), wedi gwneud cynnydd tuag at ymrwymiadau sydd wedi gwella data a gwybodaeth ar gyfer grwpiau amrywiol gan gynnwys plant a phobl ifanc, ffoaduriaid a’r rhai sy’n profi digartrefedd.
Mewn ymateb i argymhelliad y Tasglu i ehangu’r dulliau traddodiadol a ddefnyddir gennym i feithrin gwybodaeth newydd am grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ystadegol, mae gwaith ymchwil ansoddol arloesol wedi cael ei gynnal gydag ystod o grwpiau sy’n anweladwy i raddau helaeth mewn ystadegau cyhoeddedig, yn ôl y Tasglu. Mae hyn wedi arwain at waith ymchwil gyda’r grwpiau canlynol a chyhoeddiadau am eu bywydau: menywod sydd wedi goroesi cam-drin domestig, pobl ifanc sydd wedi’u dadleoli, cymunedau Sipsiwn a Theithwyr, plant a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau, oedolion anabl a gwaith parhaus gyda phobl sy’n nodi eu bod yn Roma. Mae’r rhaglen waith hon wedi arwain at gydweithio agos gydag adrannau yn Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig sy’n gyfrifol am bolisïau sy’n effeithio ar y grwpiau hyn, yn ogystal â darparwyr gwasanaethau ac, yn hollbwysig, aelodau o’r cymunedau hyn eu hunain. Mae hyn hefyd wedi arwain at ddulliau newydd o rannu data a thystiolaeth mewn ffordd fwy hygyrch â phobl ag anghenion ychwanegol, fel sgiliau Saesneg neu lythrennedd cyfyngedig, yn ogystal â nodi ffyrdd o wella canfyddiadau o ymddiriedaeth a dibynadwyedd ymhlith y cymunedau hyn ynghylch rhannu gwybodaeth am eu bywydau â sefydliadau’r llywodraeth.
Mae cynnydd diweddar wedi cynnwys data mwy manwl gyda gwelliannau i ddata ar lefel fwy lleol. Er enghraifft, cafodd gwasanaeth Archwilio Ystadegau Lleol (ELS) ei lansio ym mis Mawrth 2024 i ddarparu hygyrchedd drwy gyfuno ystod eang o ystadegau is-genedlaethol ar un platfform digidol hawdd ei ddefnyddio, sy’n ei gwneud yn haws i bobl ganfod, gweld, cymharu a lawrlwytho data am ardaloedd lleol ar draws themâu fel poblogaeth, yr economi, iechyd, addysg a boddhad â bywyd yn y Deyrnas Unedig. Yn ogystal, mae adnodd Llunio proffil ardal penodol, a gafodd ei ddiweddaru a’i ailddylunio ym mis Mawrth 2025, yn cynnwys setiau data nad ydynt yn rhan o’r cyfrifiad yn ogystal â data o Gyfrifiad 2021, sy’n galluogi pobl i lunio eu hardal eu hunain ar fap a chanfod data lleol perthnasol ar gyfer Cymru a Lloegr.
Gwnaed datblygiadau hefyd o ran cysondeb a chydlyniant mesurau adrodd, gan gynnwys gwaith parhaus i adolygu safonau sydd wedi’u cysoni, fel yr argymhellwyd gan y Tasglu. Cafodd diweddariad i gynllun gwaith Tîm Cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth ei gyhoeddi yn 2024, ac mae’r gwaith hwn yn parhau i fynd rhagddo a gwella, gan gydnabod pwysigrwydd profi ymhlith cymunedau penodol a’r boblogaeth yn gyffredinol, gan ddefnyddio dyluniadau sy’n canolbwyntio ar ymatebwyr i ddatblygu cwestiynau sy’n darparu data cydlynol a mesuradwy.
Er bod yr enghreifftiau hyn yn dangos bod llawer wedi cael ei gyflawni, nid yw’r daith barhaus tuag at ddata cynhwysol yn llinol. Mae cynlluniau wedi dod i ben o ganlyniad i ailflaenoriaethu neu wersi a ddysgwyd, sydd wedi ysbrydoli cyfeiriadau newydd. Er enghraifft, argymhelliad Awdurdod Ystadegau’r DU ar Ddyfodol Ystadegau am y Boblogaeth a Mudo ym mis Mehefin 2025 oedd comisiynu cyfrifiad gorfodol yn seiliedig ar holiadur yn 2031 – gan adeiladu ar lwyddiant a gwersi’r cyfrifiad diwethaf yn 2021 – ac ochr yn ochr â hyn, parhau i ddatblygu gwaith y SYG ar ystadegau am y boblogaeth a mudo yn seiliedig ar ddata gweinyddol er mwyn darparu amcangyfrifon amlach a mwy amserol. Bydd cyfrifiad yn 2031 yn cynnig cyfle newydd pwysig i gasglu ystadegau cynhwysol am y boblogaeth y gellir eu defnyddio i feincnodi arolygon ac ystadegau eraill, gan gynnwys data gweinyddol.
O ystyried cyfyngiadau o ran cyllid ac adnoddau, bydd llawer o adrannau a sefydliadau ym mhob rhan o’r system ystadegol yn wynebu dewisiadau anodd ac ailflaenoriaethu posibl yn y dyfodol. Yn y cyd-destun hwn, bydd yn bwysicach byth cydweithio ar draws y system i wreiddio egwyddorion cynhwysol fel rhan o fusnes fel arfer ac ymdrechu i sicrhau bod datblygiadau data newydd yn cael eu dylunio i fod yn gynhwysol yn y dyfodol.
Back to top7. Crynodeb gwerthuso
Cynhaliwyd gwerthusiad o brosesau hefyd i ganolbwyntio ar y ffordd y rhoddwyd menter y Tasglu ar waith er mwyn dysgu gwersi i’w defnyddio fel rhan o waith parhaus tuag at ddata cynhwysol. Fel rhan o’r gwaith hwn, defnyddiwyd cyfweliadau â rhanddeiliaid a oedd yn rhan o’r fenter a data o ystadegau monitro prosiectau ymrwymiad y Tasglu. Mae’r canfyddiadau, a gyhoeddir yn Atodiad, yn dangos bod menter y Tasglu wedi llwyddo i ysgogi ymwybyddiaeth, camau gweithredu a gwaith meddwl am ddata cynhwysol a’i bod wedi cael ei defnyddio’n llwyddiannus gan randdeiliaid i roi hwb i gynnydd.
Ar yr un pryd, teimlai rhanddeiliaid hefyd na lwyddwyd i gynnal momentwm cychwynnol y fenter drwy gydol y cyfnod monitro o dair blynedd. Cysylltwyd hyn ag ymdeimlad bod gohebiaeth a diweddariadau am y fenter wedi lleihau ac roedd rhai yn teimlo bod hyn yn awgrymu bod argymhellion y Tasglu yn dod yn llai amlwg a gweladwy dros amser. Roedd hyn yn ei dro wedi arwain at ganfyddiad mai cyfyngedig oedd effeithiolrwydd y fenter yn gyffredinol.
Teimlwyd hefyd nad oedd y trefniadau llywodraethu i gefnogi’r fenter yn meddu ar yr awdurdod i fandadu camau gweithredu neu gamau cywiro, ac nad oeddent ychwaith yn gysylltiedig ag unrhyw gyfrifoldeb uniongyrchol am gyflawni prosiectau ymrwymiad y Tasglu. Roedd hyn hefyd wedi cyfrannu at ymdeimlad o effaith ac effeithiolrwydd cyfyngedig.
Amlygodd y gwerthusiad ystod o wersi ac awgrymiadau pwysig ar gyfer atgyfnerthu’r broses weithredu a’r trefniadau llywodraethu i gefnogi hynny yn y dyfodol. Dangosodd yr adroddiad bod menter y Tasglu, er bod momentwm wedi lleihau ar ôl iddi gael ei lansio, wedi ennyn ymgysylltiad cadarnhaol ym mhob rhan o Wasanaeth Ystadegol y Llywodraeth, a’i bod wedi dylanwadu’n gryf ar y cyfeiriad teithio tuag at ddata cynhwysol mewn llawer o sefydliadau. Fel un o fentrau Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth, mae angen i’r Tasglu gael ei gefnogi a’i hyrwyddo o hyd. Yn ogystal, mae angen nodi a defnyddio ffyrdd realistig a phriodol o fesur effeithiau yn y dyfodol, yn ogystal â rhoi cymorth i adrannau barhau i ymgorffori nodau ac ymrwymiadau’r Tasglu yn eu cynlluniau gwaith. Mae’r daith tuag at ddata cynhwysol yn parhau ac mae gan Wasanaeth Ystadegol y Llywodraeth rôl bwysig i’w chwarae wrth ddal y system ystadegol i gyfrif am ei chynnydd yn y maes hwn.
Back to top