Egwyddor Data Cynhwysol 7
Dylai safonau wedi’u cysoni ar gyfer grwpiau a phoblogaethau perthnasol gael eu hadolygu o leiaf bob pum mlynedd a’u diweddaru a’u hehangu lle bo angen, yn unol â newidiadau mewn normau cymdeithasol ac anghenion ymatebwyr a defnyddwyr.
Ein dull
Bydd SYG yn ymgynghori â rhanddeiliaid, arbenigwyr data, defnyddwyr a phobl â phrofiad go iawn ar gyfer adolygiad cychwynnol a pharhaus o safonau er mwyn sicrhau ein bod yn cadw i fyny â’r newid mewn cymdeithas.
Bydd SYG yn cyhoeddi Cynllun Cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth ar ddechrau 2022, gan nodi’r cynlluniau a’r amserlenni ar gyfer adolygu a diweddaru safonau wedi’u cysoni a chanllawiau Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth ar gyfer casglu data ar nodweddion cydraddoldeb (gweler Egwyddor Data Cynhwysol 5).
Bydd Cynllun Cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth yn nodi pa mor aml y dylid adolygu safonau wedi’u cysoni a chanllawiau fel bod prosesau casglu data yn cadw i fyny â’r newid mewn cymdeithas. Caiff systemau llywodraethu newydd ar gyfer goruchwylio’r gwaith cysoni ar draws Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraethu eu creu. Bydd SYG yn cyflawni rôl gynnull er mwyn nodi mentrau perthnasol yn system ystadegol y DU a hwyluso’r gwaith o rannu gwybodaeth ac arfer orau.
Bydd SYG yn parhau i gydweithio ar draws llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig drwy’r Pwyllgor Rhyngweinyddu a Phwyllgor Dadansoddi a Gwerthuso Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth i hwyluso’r gwaith o gynhyrchu ystadegau cydlynol ar draws system ystadegol y DU. Mae’r Concordat ar Ystadegau a ddiweddarwyd yn ddiweddar yn nodi’r fframwaith cytûn ar gyfer cydweithio ystadegol rhwng Llywodraeth y DU, a Llywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Bydd y cydweithio hwn yn helpu i greu sylfaen ar gyfer system ystadegol gynhwysol ledled y DU.
Gwaith sy'n mynd rhagddo ac yn yr arfaeth
- Fel rhan o weithgareddau ymgysylltu â defnyddwyr sy’n cefnogi argymhelliad yr Ystadegydd Gwladol ar ddyfodol y cyfrifiad ac ystadegau o’r boblogaeth, bydd SYG yn chwarae rôl weithredol ryngwladol wrth ddatblygu safonau wedi’u cysoni, yn cynnwys â Chomisiwn Economaidd Ewrop y Cenhedloedd Unedig/Eurostat ar Argymhellion Cyfrifiad 2030 ar gysyniadau o’r boblogaeth a diffiniadau cysylltiedig. Bydd hyn yn sicrhau bod y gwaith o ddatblygu safonau a diffiniadau newydd yn parhau i fanteisio ar gydweithio rhyngwladol ac arfer orau. Ymgysylltir â defnyddwyr a gwerthusir gofynion defnyddwyr yn 2022 a 2023 a chyhoeddir yr argymhelliad yn 2023.
- Bydd Grŵp City Titchfield a arweinir gan SYG ar Ystadegau sy’n gysylltiedig â Heneiddio a Data wedi’u Dadgyfuno ar Oedran, sy’n cynnwys aelodau o Swyddfeydd Ystadegol Gwladol, asiantaethau’r Cenhedloedd Unedig, asiantaethau amlochrog a deuochrog, academyddion, a sefydliadau cymdeithas sifil, yn parhau i weithio i ddatblygu canllawiau cyfeirio. Drwy gydol 2022, 2023 a 2024, bydd y grŵp yn datblygu cynlluniau gwaith ac yn cyhoeddi’r argymhellion yn 2025.
- Bydd SYG yn cyhoeddi Cynllun Cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth ar ddechrau 2022 (gweler Egwyddor Data Cynhwysol 5). Bydd yn nodi cynlluniau ac amserlenni ar gyfer adolygu a diweddaru’r safonau a’r canllawiau wedi’u cysoni ar gyfer y mesurau cysyniadol yn ymwneud â nodweddion cydraddoldeb, gan gwmpasu gwahanol ddulliau o gasglu data yn cynnwys cyfweliadau wyneb yn wyneb, dros y ffôn ac ar-lein.
- Bydd SYG yn cyflwyno cynlluniau ar gyfer adolygu a diweddaru safonau wedi’u cysoni a chanllawiau yn rheolaidd fel rhan o Gynllun Cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth.
- Ar ôl ymgynghori â rhanddeiliaid a chynhyrchwyr data yn cynnwys y gweinyddiaethau datganoledig, bydd SYG yn cynllunio ac yn gweithredu trefniadau llywodraethu newydd yng ngwanwyn 2022 ar gyfer monitro a chyflwyno Cynllun Cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth.
- Bydd SYG yn adolygu Rhaglen Waith Cydlyniant Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2021 ar y cyd â’r pedair gwlad yn y DU er mwyn sicrhau ei bod yn cynnwys cryn bwyslais ar gynwysoldeb. Cyhoeddir Rhaglen Waith Cydlyniant wedi’i diweddaru yn 2022.
- Bydd Canolfan Cydraddoldeb Swyddfa’r Cabinet yn gweithio gyda SYG ac adrannau ac asiantaethau eraill y llywodraeth i hyrwyddo a gwella’r defnydd o gategorïau wedi’u cysoni ar gyfer gwahanol nodweddion, gan adlewyrchu’r ymrwymiadau yng Nghynllun Gwella Ansawdd yr Uned Gwahaniaethau ar sail Hil, a’r rhaglen Gwella Data Anabledd, gan sicrhau mwy o gydlyniant wrth gasglu, dadansoddi ac adrodd ar ddata ar draws sefydliadau’r sector cyhoeddus. Bydd y gwaith hwn yn mynd rhagddo dros y 3 blynedd nesaf.
- Bydd Canolfan Cydraddoldeb Swyddfa’r Cabinet yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddeall argaeledd data ar gyfer gwahanol grwpiau lle gellid ei wella o ran cysondeb a materion eraill o ran ansawdd data, gan adlewyrchu’r ymrwymiad yng Nghynllun Gwella Ansawdd yr Uned Gwahaniaethau ar sail Hil. Bydd cylch gwaith y gwaith yn cael ei ehangu i gynnwys nodweddion gwarchodedig eraill. Bydd y gwaith yn dechrau ar ddechrau 2022 ac yn parhau yn 2023.
- Gan adlewyrchu’r argymhelliad yn nhrydydd adroddiad chwarterol Progress to Address COVID-19 Health Disparities, bydd Uned Gwahaniaethau ar sail Hil Swyddfa’r Cabinet yn gweithio gydag adrannau ac asiantaethau eraill y Llywodraeth i ddeall pryd y cesglir data yn unol â safonau wedi’u cysoni newydd ar gyfer ethnigrwydd.Mae’r amserlenni yn dibynnu ar Gynllun Cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth.
- Bydd CThEM yn cyflwyno safonau casglu data newydd ar gyfer arolygon CThEM gan ddefnyddio safonau wedi’u cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth. Cytunir ar gyflwyno safonau data newydd a’u rhannu ar draws CThEM yn ystod 2022.
- Bydd Innovate UK yn gweithio gyda thîm Cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth fel rhan o’i adolygiad o ddulliau casglu data.
- Bydd Consortiwm Trais, Iechyd a Chymdeithas (VISION) (City, Prifysgol Llundain) a ariennir gan Bartneriaeth Ymchwil Atal Ymchwil ac Arloesi’r DU yn dwyn ynghyd gynhyrchwyr data a defnyddwyr data ym meysydd iechyd, cyfiawnder sifil, cyfiawnder troseddol a darparwyr Trydydd Sector gwasanaethau arbenigol i ddioddefwyr neu oroeswyr, er mwyn darparu fforwm ymgysylltu fel y gellir cysoni data. Dechreuir ymgysylltu â defnyddwyr a chynhyrchwyr data amrywiol yn 2022, a bydd cynigion ar gyfer cysoni data yn cael eu llywio gan theori ac ymgysylltu yn 2023.