Ymgorffori Cynwysoldeb yn nata’r DU: diweddariad 2023 ar weithredu argymhellion Data Cynhwysol

Published:
4 January 2024
Last updated:
4 January 2024

Cyflwyniad

Cyhoeddodd y Tasglu Data Cynhwysol (TDC) ei adroddiad a’i argymhellion ym mis Medi 2021. Ym mis Ionawr 2022, cyhoeddwyd Cynllun Gweithredu pellgyrhaeddol ar gyfer y cyfnod 2022 i 2023 hyd at ddiwedd 2024 i 2025, gan gynnwys manylion y gwaith presennol a’r gwaith arfaethedig ar draws y DU a fwriedir i wneud data a thystiolaeth yn fwy cynhwysol.

Trefnodd y TDC eu hargymhellion o dan wyth Egwyddor Data Cynhwysol trosfwaol a oedd gyda’i gilydd yn darparu glasbrint uchelgeisiol ar gyfer creu newid sylweddol o ran cynwysoldeb data a thystiolaeth y DU.

Mae’r adolygiad hwn yn bwrw golwg lefel uchel ar y cynnydd a wnaed yn 2022 i 2023 ar draws yr ymrwymiadau a gyhoeddwyd yn y Cynllun Gweithredu, yn nodi cyflawniadau allweddol, lle mae angen mwy o gynnydd, a gweithgareddau allweddol ar gyfer 2023 i 2024.

Mae gan weithredu argymhellion y Tasglu Data Cynhwysol ganlyniadau pellgyrhaeddol ar gyfer casglu data, ystadegau a dadansoddi ar draws system ystadegol y DU, gyda’r nod o ymgorffori cynwysoldeb fel arfer safonol ar draws tirwedd ystadegol y DU mewn ffordd gynaliadwy.

 

Back to top
Download PDF version (956.81 KB)