Cynnydd

Ymddiriedolaeth – Egwyddor Data Cynhwysol 1

Creu amgylchedd o ymddiriedaeth a dibynadwyedd sydd yn caniatáu ac yn annog pawb i gyfrif a chael eu cyfrif yn nata a thystiolaeth y DU.

Ynglŷn ag Egwyddor 1

Disgrifiodd y Tasglu ymddiriedaeth fel rhywbeth “hanfodol bwysig ar gyfer casglu a defnyddio data a’u cynnwys mewn ystadegau”. Cynlluniwyd eu hargymhellion i wella ymddiriedaeth yn y ddarpariaeth o ddata personol ar gyfer ystadegau ac ymchwil drwy wella dibynadwyedd canfyddedig y rhai sydd yn casglu ac yn defnyddio data. Roeddent yn canolbwyntio ar:

  • cyfathrebu clir â phobl y gofynnir iddynt rannu eu data ynghylch pam mae eu hangen a sut y caiff eu defnyddio a’u diogelu
  • mwy o waith allgymorth i gynnwys grwpiau a dangynrychiolir ar hyn o bryd; mwy o amrywiaeth ymhlith y rhai sydd yn casglu ac yn dadansoddi data i adlewyrchu amrywiaeth yng nghymdeithas y DU yn well
  • nodi a mynd i’r afael â rhwystrau ymarferol i gyfranogiad o ran rhannu data ac i fynediad dilynol i’r data a’r canfyddiadau a’u defnyddio.

Cyflawniadau hyd yn hyn

Yn gyffredinol, roedd 24 o fentrau yn y cynllun gweithredu sylfaenol yn canolbwyntio’n benodol ar feysydd sy’n berthnasol i greu amgylchedd o ymddiriedaeth a dibynadwyedd. O’r rhain, roedd y rhan fwyaf (20) naill ai wedi’u cwblhau neu ar y gweill ac ar amser ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach ym mis Mawrth 2023.

  • Ymrwymodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) i ddatblygu ‘contract cymdeithasol’ gyda chyfranogwyr ymchwil ar y wybodaeth y maent yn dewis ei rhannu, gan ddarparu gwybodaeth glir ynghylch pam mae data’n cael eu casglu, cyfrinachedd a threfniadau diogelwch data, a sut y bydd eu gwybodaeth yn cael ei rhannu a’i defnyddio. Rhagwelwyd hon fel un ddogfen i’w phrofi a’i lansio yn 2022.
  • Ar ôl ymchwilio ymhellach i arferion cyfredol a thrafodaethau ag arbenigwyr allanol yn 2022, mae’r rhaglen waith hon wedi datblygu i gydnabod y gallai fod angen mathau penodol o wybodaeth ar wahanol grwpiau i ysbrydoli ymddiriedaeth neu wybodaeth a ddarperir mewn gwahanol ffyrdd i fod yn gwbl gynhwysol. Mae gwaith cychwynnol yn archwilio anghenion gwybodaeth pobl ifanc 18 i 24 oed mewn perthynas â rhannu data personol wedi’i wneud, ac mae cyfres o grwpiau ffocws sy’n archwilio eu barn am ddata, gan gynnwys data gweinyddol, hefyd wedi’i Bydd y canfyddiadau’n cael eu rhannu â’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen sy’n goruchwylio’r gwaith ym mis Mai 2023 a bydd penderfyniadau ynghylch y camau nesaf yn cael eu cynllunio. Mae’r gwaith hwn yn cael ei gynnal ar y cyd rhwng y SYG, Llywodraethau Cymru a’r Alban ac arbenigwyr allanol.

  • Yn 2022, crëwyd Cynulliad y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) i adeiladu ar ymgysylltiad cymunedol Cyfrifiad 2021, i gynyddu ac ehangu ymgysylltiad ag elusennau a chyrff sy’n cynrychioli grwpiau cymdeithasol amrywiol, gan ddarparu fforwm ar gyfer deialog rheolaidd ac agored ar amrywiaeth o bynciau yn ymwneud â data a thystiolaeth.
  • Sefydlodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol Ganolfan Ymgysylltu ar lefel waith hefyd yn 2022 i sicrhau bod eu hystadegau’n cyrraedd cymaint â phosibl, yn arbennig gyda defnyddwyr a chymunedau lleol, a’i gwneud yn haws i ddefnyddwyr ymgysylltu ag ystadegau ac ymchwil SYG gan cydlynu lledaenu ar draws meysydd thematig. Er enghraifft, mae’r SYG wedi rhoi cyflwyniadau i arweinwyr cymunedol am ffeithiau a ffigurau Cyfrifiad 21, a’r offer sydd ar gael i helpu unigolion i ddod o hyd i’r wybodaeth sy’n berthnasol iddynt.
  • Roedd y SYG wedi bwriadu gwerthuso ymarferoldeb ymgysylltu â grwpiau cymunedol heb gynrychiolaeth ddigonol yng nghyd-destun arolygon cartrefi gwirfoddol yn 2022. Oherwydd cyfyngiadau adnoddau, bu oedi gyda’r gwaith hwn ond mae gwaith darganfod yn mynd rhagddo ar hyn o bryd gyda gweithredu dulliau newydd yn seiliedig ar y canfyddiadau a ddisgwylir yn 2024 i 2025.

  • Mae Swyddogaeth Dadansoddi’r Llywodraeth wedi diweddaru ei phecyn cymorth i’w ddefnyddio ar draws y llywodraeth, gan ganolbwyntio ar gynnwys mewn gwaith dadansoddi; cyflwyno rhaglen fentora cilyddol yn darparu cymorth gyrfa i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol; ac wedi lansio rhaglen o ddigwyddiadau ‘Arweinwyr Dadansoddi’ sy’n hyrwyddo amrywiaeth gweithlu’r rhai mewn proffesiynau dadansoddol yn y llywodraeth a thu hwnt.
  • Er mwyn bwrw ymlaen â’r nod o sicrhau bod ei weithlu’n cynrychioli cymdeithas yn llawn, cyflwynodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) hyfforddiant arweinyddiaeth cynhwysol yn 2022 ar gyfer holl reolwyr cyfwelwyr arolwg.
  • Mae’r Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi ystadegau ar amrywiaeth ei gweithlu bob blwyddyn ers 2021, mewn ymateb i Argymhelliad 28 o Adolygiad Windrush Lessons Learned. Cyhoeddwyd ystadegau amrywiaeth gweithlu diweddaraf y Swyddfa Gartref ym mis Mawrth 2023. Bydd yr ystadegau hyn yn parhau i gael eu monitro a’u cyhoeddi’n flynyddol.
  • Yn 2022, fe wnaeth yr Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ddatblygu a lansio nifer o ddangosfyrddau hunanwasanaeth mewnol i fonitro cyfraddau cynrychiolaeth mewn metrigau staff gan gynnwys amrywiaeth y gweithlu; ac i alluogi dadansoddiad canlyniadau Arolwg Pobl, dadansoddiad recriwtio, a gwobrau gwobrwyo a chydnabod o safbwynt cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
  • Mae allgymorth llwyddiannus wedi arwain at Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd Llywodraeth Cymru yn recriwtio ystod fwy amrywiol o staff sydd â phrofiad o fyw a phrofiad perthnasol arall, ac mae’r hyn a ddysgir o’r gweithgareddau recriwtio hynny yn cael ei rannu.

  • Ymrwymodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) i adolygu ei phrosesau gweithredol o ran casglu data ar draws ei phortffolio presennol o arolygon cymdeithasol i nodi rhwystrau i gymryd rhan, gan gynnwys ymhlith y rhai a dangynrychiolir mewn Roedd cam cyntaf y gwaith hwn yn ystod 2022 yn cynnwys adolygiad o lenyddiaeth ac ymgysylltu â thimau ymchwil a gweithredol mewnol i ddeall rhwystrau cynwysoldeb wrth gasglu data arolwg SYG. Mae’r Arolwg o’r Llafurlu ar ei newydd wedd wedi datblygu ei ddeunyddiau ymatebol i fynd i’r afael â rhwystrau ymarferol, megis hygyrchedd. O fis Tachwedd 2022, roedd yr SYG yn cynnwys yr opsiwn ar gyfer cymorth iaith yn ogystal â’r ddarpariaeth bresennol ar gyfer cynhyrchion print bras. Mae datblygiadau pellach ar y gweill ar gyfer 2023.
  • Mae’r SYG yn trawsnewid ei phortffolio o arolygon cartrefi ac yn symud i ddull casglu cyntaf ar-lein, gyda dulliau eraill yn cefnogi casglu data lle bo’n briodol. Yn 2022, bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn profi ac yn gwerthuso’r ymagwedd dull cymysg hwn ymhellach er mwyn gallu gwneud penderfyniadau ar gynllun casglu data arolygon yn y dyfodol.
  • Roedd y SYG yn rhagweld y byddai’r ymatebion yn cael eu gwerthuso yn ôl nodweddion ymatebwyr ar yr Arolwg Defnydd Amser yn 2022 er mwyn deall rhwystrau ymarferol i gyfranogiad. Cynhaliodd y SYG Arolygon Defnydd Amser ym mis Mawrth a mis Tachwedd 2022, gyda chyfyngiadau adnoddau’n atal gwerthusiad o’r ymateb yn Mae hyn bellach wedi’i gynllunio ar gyfer 2023 gyda gwerthusiad o ymatebion yn llywio datblygiadau arolygon yn y dyfodol.
  • Roedd Llywodraeth yr Alban yn disgwyl comisiynu ymchwil annibynnol yn 2022 ymhlith pobl â nodweddion gwarchodedig i archwilio rhwystrau i gymryd rhan yn eu harolygon a datblygu canllawiau arfer gorau. Gan fod Llywodraeth yr Alban yn cydweithio yn y gwaith sy’n cael ei wneud mewn cysylltiad ag argymhelliad y Contract Cymdeithasol, maent bellach yn bwriadu bwrw ymlaen â’r gwaith hwn drwy gydweithio â’r SYG ac eraill ar datblygu egwyddorion wedi’u llywio gan gyfranogwyr ar gyfer casglu tystiolaeth cydraddoldeb.
  • Mae’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) wedi archwilio effeithiau cymhellion ar y nifer sy’n cymryd rhan yn yr Arolwg Cyfranogiad, er mwyn nodi ffyrdd o wella cynhwysiant. Fe wnaethant ddau arbrawf i ddeall yr effaith ar gyfraddau ymateb. Cyhoeddwyd y canlyniadau yn Adroddiad Peilot yr Arolwg Cyfranogiad 2021 i 2022. Mae mentrau eraill gan DCMS i wella cynhwysiant arolygon yn cynnwys:
    • sicrhau bod fersiynau papur o’r holiadur ar gael i unrhyw un sy’n ffafrio hwn na fersiwn ddigidol yn ogystal ag anfon holiadur papur mewn llythyrau atgoffa
    • targedu’n arbennig grwpiau sy’n aml yn cael eu tangynrychioli mewn data arolygon
    • monitro ceisiadau am arolygon mewn ieithoedd heblaw Saesneg i alluogi adolygiadau cyfnodol i weld a oes angen holiaduron mewn ieithoedd ychwanegol.
  • Ymrwymodd y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd (NIHR) i gasglu a dadansoddi data amrywiaeth yn flynyddol i daflu goleuni ar unrhyw rwystrau yn ei systemau neu ragfarnau yn ei brosesau sy’n arwain at y tan-gynrychiolaeth o rai grwpiau yn ei ymchwil. Ym mis Tachwedd 2022, cyhoeddodd NIHR ei ail Adroddiad Data Amrywiaeth ar amrywiaeth ymgeiswyr ymchwil, deiliaid gwobrau ac aelodau pwyllgor, yn ogystal ag ymchwil ar ddata amrywiaeth cyfranogwyr yn seiliedig ar hapdreialon rheoledig. Yn ystod 2023, bydd eu casgliad data amrywiaeth yn cael ei ehangu i gynnwys yr holl nodweddion gwarchodedig a amlinellwyd yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
  • Ym mis Tachwedd 2022, cafodd yr offeryn holiadur a ddefnyddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer cynnal yr Arolwg o’r Gweithlu wedi’i Drawsnewid (TLFS) ac Arolygon Cymdeithasol eraill ei brofi o ran hygyrchedd gyda chanlyniad nad yw’r offeryn yn cydymffurfio’n llawn â safonau hygyrchedd. Mae’r argymhellion yn cael sylw ac mae’r SYG yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’w defnyddwyr trwy eu datganiad TLFS, ag ymrwymiad i gyhoeddi map gweithredu.
  • Mae Consortiwm Trais, Iechyd a Chymdeithas (VISION) a ariennir gan Bartneriaeth Ymchwil ac Arloesi’r DU (UKRI PRP) a leolir yn City, Prifysgol Llundain wedi parhau i weithio ochr yn ochr â sefydliadau trydydd sector yn y sector Trais yn Erbyn Menywod a Merched, sydd wedi cynnal ymgynghoriadau ag aelodau ar y systemau casglu data gorau ar gyfer gwasanaethau gan ac ar gyfer. Mae sefydliadau trydydd sector wedi ymgysylltu â City ar fesurau canlyniadau craidd i’w casglu gan eu defnyddwyr gwasanaeth sy’n gallu adlewyrchu orau natur y gwasanaethau a dderbynir a’r buddion a geir.

  • Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn archwilio ffyrdd o ymgorffori newidynnau cynllun arolygon mewn setiau data Arolwg Cyfoeth ac Asedau sydd ar gael i’r cyhoedd er mwyn galluogi defnyddwyr i gyfrifo dangosyddion ansawdd o’r data cyhoeddus, a chaiff y newidynnau eu hadolygu tua diwedd 2023. Bydd penderfyniadau ynghylch cynnwys newidynnau cynllun arolwg hefyd yn ystyried pwysigrwydd rheoli datgelu.
  • Mae consortiwm VISION yn City, Prifysgol Llundain wedi gweithio ag Imkaan a Phrifysgol Warwick i archwilio rhagfarnau o ran grwpiau ymylol a ffyrdd posibl o oresgyn y rhain. Cyflwynodd ymchwilwyr waith ar rwystrau i ddatgelu trais sy’n effeithio ar boblogaeth leiafrifol i’r aelodau consortiwm VISION ym mis Ionawr 2023, a disgwylir i bapur briffio gael ei gyhoeddi yn ystod gwanwyn 2023. Mae’r Consortiwm VISION hefyd wedi asesu’n feirniadol offer a llenyddiaeth sy’n bodoli eisoes i lywio’r gwaith o ddatblygu offeryn Risg o Tuedd i’w ddefnyddio wrth ddefnyddio data ynghylch ethnigrwydd a statws mewnfudo.

Back to top

Gweithio Systemig – Egwyddor Data Cynhwysol 2

Cymryd ymagwedd system gyfan, gan weithio mewn partneriaeth ag eraill i wella cynwysoldeb data a thystiolaeth y DU.

Ynglŷn ag Egwyddor 2

Cydnabu’r Tasglu Data Cynhwysol fod gwneud data’r DU yn fwy cynhwysol yn ei gwneud yn ofynnol i gynhyrchwyr data gydweithio’n fwy i rannu gwybodaeth, dulliau ac arferion addawol, yn y DU ac yn ehangach.

Cyflwyniadau hyd yn hyn

At ei gilydd, roedd 33 o fentrau yn y cynllun gweithredu sylfaenol yn canolbwyntio’n benodol ar feysydd sy’n berthnasol i weithio mewn partneriaeth gan sicrhau dull system gyfan. O’r rhain, roedd y rhan fwyaf (31) naill ai wedi’u cwblhau neu ar y gweill ac ar amser ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach ym mis Mawrth 2023.

  • Lansiwyd Pwyllgor Cynghori ar Ddata Cynhwysol newydd yr Ystadegydd Gwladol, dan gadeiryddiaeth y Fonesig Julia Cleverdon DCVO CBE, yn 2022 i roi cyngor tryloyw ar flaenoriaethau a chynnydd dros amser. Mae’r Pwyllgor yn cyfarfod bob chwarter ac yn cael adroddiadau rheolaidd ar sut mae prosiectau a gyhoeddwyd yng Nghynllun Gweithredu’r Tasglu Data Cynhwysol yn dod yn eu blaenau. Mae aelodaeth y pwyllgor yn cwmpasu pedair gwlad y DU ac yn cynnwys uwch academyddion, arbenigwyr data cydraddoldeb ac arweinwyr cymdeithas sifil.
  • Yn 2022, sefydlodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) dîm newydd yn y Ganolfan Cydraddoldeb a Chynhwysiant. Mae’r tîm yn coladu diweddariadau ar gynnydd ar draws y system ystadegol tuag at yr ymrwymiadau a wnaed yn y Cynllun Gweithredu. Maent hefyd yn cydlynu gweithgareddau llywodraethu gysylltiedig â hyn, gan gynnwys Pwyllgor Cynghori Data Cynhwysol yr Ystadegydd Gwladol.
  • Ym mis Mai 2023 lansiwyd is-bwyllgor Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth (GSS) newydd ar Ddata Cynhwysol ac roedd yr aelodaeth yn cynnwys uwch ystadegwyr o’r gweinyddiaethau datganoledig, y SYG ac adrannau llywodraeth y DU. Bydd hyn yn ychwanegu ffocws pellach at fonitro a chyflawni.
  • Ymrwymodd y SYG i hwyluso adolygiad blynyddol a chyhoeddodd ddiweddariad o Gynllun Gweithredu’r Tasglu Data Cynhwysol, gyda’r adolygiad hwn yn ateb y diben hwnnw.
  • Yn 2022 datblygodd y SYG gynllun gwerthuso i fesur effaith gweithgareddau yng Nghynllun Gweithredu’r Tasglu Data Cynhwysol. Mae Grŵp Gorchwyl a Gorffen trawslywodraethol sy’n cynnwys y gweinyddiaethau datganoledig wedi bod yn gweithio i gynllunio metrigau i’w defnyddio fel llinell sylfaen ar gyfer gwerthuso.

  • Mae Canolfan Cydraddoldeb Swyddfa’r Cabinet wedi datblygu camau gweithredu data-benodol o adroddiad Prydain Gynhwysol y llywodraeth. Cwblhawyd cyhoeddi canfyddiadau’r ymgynghoriad ar ddiwygio’r wefan Ffeithiau a Ffigurau Ethnigrwydd ac ar ddatblygu set o safonau ar gyfer data ethnigrwydd mewn cydweithrediad â rhwydweithiau eraill ac Adrannau’r Llywodraeth, yn arbennig Tîm Cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth (GSS) yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).
  • Fe wnaeth yr Adran Addysg gynnig strategaeth ymgysylltu â defnyddwyr ystadegau newydd yn 2022, sydd ar hyn o bryd yn cael ei chwblhau i’w chadarnhau yn 2023.
  • Fe wnaeth y Ganolfan Troseddau a Chyfiawnder yn y SYG ddiweddaru a chyhoeddi eu strategaeth ymgysylltu a lansiodd y Fforwm Ystadegau Troseddu a Chyfiawnder ym mis Chwefror 2022.

  • Mae’r Swyddfa Myfyrwyr wedi comisiynu proses well o gasglu data ar gyfer myfyrwyr sydd â phrofiad o ofal sy’n astudio mewn sefydliadau addysg uwch, ac mae’r gwaith o gasglu data’n mynd rhagddo ar hyn o bryd.
  • Fel rhan o’i brosiect Tadau Cyfoes yn y DU a ariennir gan Sefydliad Nuffield, mae’r Fatherhood Institute wedi gweithio gyda sefydliadau ymchwil hydredol i gynyddu’r data a gesglir gan dadau ac wedi cynghori ar gwestiynau am dadau mewn astudiaethau hydredol ar raddfa fawr.
  • Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn gweithio gyda’r byd academaidd i roi’r dulliau meintiol diweddaraf ar waith i ddeall cynwysoldeb a chynrychioldeb mewn data gweinyddol. Mae ymchwil hefyd yn cynnwys cynllunio a datblygu, ar y cyd â’r byd academaidd, i adeiladu dulliau sy’n helpu i gyflawni samplau mwy cynhwysol ar gyfer casglu data arolygon.
  • Fel rhan o’i rhaglen Data yn Gyntaf, mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi bod yn datblygu gwaith mewn partneriaeth ag academyddion, a ariennir gan Ymchwil Data Gweinyddol (YDG) UK, i gysylltu ffynonellau data gwahanol i ddarparu darlun o’r dechrau i’r diwedd o’r system gyfiawnder. Mae hyn yn cynnwys rhaglen gymrodoriaeth lle mae derbynwyr yn treulio cyfnodau byr o amser yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn gweithio gyda’r data hyn ac yn ymgysylltu ar draws y cymunedau polisi, gweithrediadau, strategaeth a dadansoddol. Mae prosiectau cychwynnol wedi edrych ar ragfarn hiliol yn y system cyfiawnder troseddol a phrofiadau plant sydd mewn cysylltiad â’r system gyfiawnder i gael persbectif mwy cyfannol.
  • Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder hefyd wedi sefydlu’r Ganolfan Tystiolaeth a Phartneriaeth yn ei Hadran Data a Dadansoddi. Mae’r Hyb yn cynnal rhwydwaith academaidd ac yn gweithredu rhaglen gymrodoriaeth ar wahân, fwy cyffredinol, sy’n ymgorffori academyddion o fewn y Weinyddiaeth Gyfiawnder i ymgymryd â phrosiectau â themâu trawsbynciol sy’n mynd i’r afael â meysydd penodol o ddiddordeb ymchwil. Mae prosiect diweddar wedi cynnwys edrych ar groestoriadedd wrth recriwtio staff.

  • Mae cyfleoedd i gynhyrchwyr a chyllidwyr data’r DU greu partneriaethau cydariannu newydd ac ymestyn y rhai presennol i wella cynwysoldeb data a thystiolaeth y DU yn parhau i gael eu harchwilio. Er enghraifft, dechreuodd trafodaethau yn 2022 ynghylch y ffordd orau o lenwi bylchau data ar brofiad bywyd pobl anabl yn y DU ac mae trefniadau cydariannu posibl yn cael eu hystyried.

  • Yn 2022, dechreuodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ymchwilio i ddichonoldeb Grŵp Dinasoedd newydd y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Data Cynhwysol. Os cytunir arno, caiff y syniad ei gynnig yn ffurfiol ym mis Mawrth 2024, ac os caiff ei dderbyn, gallai’r grŵp gael ei sefydlu yn 2025.
  • Yn 2022, cafodd cynllun gweithredu Siarter Data Cynhwysol y SYG ar gyfer y Nodau Datblygu Cynaliadwy ei adolygu a’i ddisodli gan Gynllun Gweithredu’r Tasglu Data Cynhwysol i sicrhau mwy o gydlyniant yn y gwaith tuag at gynwysoldeb. Mae’r SYG yn parhau i ymgysylltu’n rheolaidd â rhwydwaith y Siarter Data Cynhwysol yn rhyngwladol i rannu arfer gorau a dysgu yn seiliedig ar fentrau sydd wedi’u cynnwys yng Nghynllun Gweithredu’r Tasglu Data Cynhwysol.
  • Chwaraeodd y SYG ran weithredol yn Nhasglu ar Ystadegau Plant ac Ieuenctid Comisiwn Economaidd y Cenhedloedd Unedig (UNECE), gyda ffocws ar blant mewn gofal y tu allan i’r cartref, plant anabl, a thrais yn erbyn plant. Darparodd y Tasglu argymhellion a chanllawiau i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn 2022 ar sut i alluogi’r grwpiau hyn i gael eu cynrychioli’n well mewn data a thystiolaeth.
  • Gweithiodd yr Adran Addysg ar draws Adrannau Llywodraeth y DU, y gweinyddiaethau datganoledig, Dibynwledydd y Goron a thiriogaethau tramor i ymateb i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP), gan ddarparu tystiolaeth ar brofiad plant mewn meysydd gan gynnwys addysg, iechyd, gofal cymdeithasol, a’r system gyfiawnder. Lle bo’n bosibl, cafodd y dystiolaeth a ddarparwyd ei dadansoddi dros amser ac yn ôl nodweddion. Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Cenhedloedd Unedig ym mis Mehefin 2022 a bydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Cenhedloedd Unedig maes o law.
  • Mae’r SYG yn parhau i arwain Grŵp Dinasoedd y Cenhedloedd Unedig ar Heneiddio ac Ystadegau Wedi’u Dadgyfuno ar Oedran, gan weithio gyda Sefydliadau Ystadegol Cenedlaethol eraill, Sefydliad Iechyd y Byd, Is-adran Ystadegau’r Cenhedloedd Unedig, a sefydliadau eraill i ddarparu cysoni ac arfer gorau mewn data a thystiolaeth ar gyfer grwpiau poblogaeth pobl hŷn.
  • Mae’r SYG yn parhau i ymgysylltu ar draws amrywiaeth o fentrau rhyngwladol i wella cynwysoldeb data gan gynnwys:
    • Gweithgor Rhyng-ysgrifenyddiaeth y Cenhedloedd Unedig ar Arolygon Cartrefi
    • Cyfarfodydd Sefydliad Iechyd y Byd ar ddata anabledd
    • Gwaith Gwasanaeth Aelwydydd Di-dâl ac is-grwpiau Llafur, Cyfalaf Dynol, ac Addysg y Gweithgor Rhyng-ysgrifenyddiaeth ar gyfer Cyfrifon Cenedlaethol
    • Is-grŵp Ystadegau Moderneiddio Defnydd Amser o Grŵp Arbenigol y Cenhedloedd Unedig ar Ffyrdd Effeithiol o Gasglu Ystadegau Defnydd Amser.

  • Ymrwymodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) i wella effaith ei hymchwil a dyfnhau cydweithredu â’r byd academaidd a sefydliadau ymchwil ehangach fel rhan o’i strategaeth ymchwil. Yn 2022, amlygodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol ei hymagwedd at arloesi a chydweithredu ym maes ymchwil, gan wahodd y rheini sydd â diddordeb mewn cynnig partneriaethau ymchwil newydd i gysylltu.
  • Parhaodd y SYG i rannu’r hyn a ddysgwyd mewn perthynas â datblygu dulliau i wella cynhwysiant cymdeithasol. Roedd hyn yn cynnwys dulliau i wella dealltwriaeth o effeithiau coronafeirws (COVID-19) ar bobl â mathau gwahanol o namau, ac ymchwil yn ymwneud ag Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr ar foeseg casglu data ar-lein yn ymwneud â phynciau sensitif. Bu’r SYG hefyd yn rhannu dulliau ar gyfer cynhyrchu ystadegau poblogaeth amlamryweb gan ddefnyddio ffynonellau gweinyddol ac arolygon.
  • Mae Canolfan Cydraddoldeb Swyddfa’r Cabinet wedi cyhoeddi nifer o ddulliau ac adroddiadau ansawdd a phostiadau blog ar ddata ethnigrwydd dros y flwyddyn ddiwethaf.
  • Fe wnaeth Canolfan Cydraddoldeb Swyddfa’r Cabinet a’r Adran Addysg ddatblygu a chyhoeddi strategaeth i wella ansawdd ac argaeledd data a thystiolaeth ethnigrwydd ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a’u llwybrau allan o ofal ym mis Ebrill 2023. Roedd hyn yn rhan o’r Adroddiad Diweddariad Prydain Gynhwysol.
  • Cynhaliodd Llywodraeth yr Alban weithdai yn 2022 ar hil, anabledd a data croestoriadedd i arddangos arfer da a rhannu dysgu.
  • Mae’r SYG wedi rhannu a chyhoeddi ymchwil, fframweithiau a chanllawiau ar arfer gorau i asesu ansawdd data gweinyddol at ddibenion ystadegol. Fe wnaethant gyhoeddi ymchwil cynwysoldeb ansoddol arloesol sy’n archwilio cynwysoldeb a chynrychioldeb mewn data gweinyddol. Fe wnaethant hefyd
    gyhoeddi’r Fframwaith Ansoddol Data Gweinyddol (ADQF) a chatalog gwallau data gweinyddol. Mae’r cyhoeddiadau hyn yn rhoi arweiniad a chyngor
    i Adrannau’r Llywodraeth a Sefydliadau Ystadegol Cenedlaethol (NSIs) rhyngwladol ar sut i asesu ansawdd data gweinyddol ac ansicrwydd. Gyda’r cyhoeddiadau hyn, fe fu ymgysylltu ar draws y llywodraeth, ar draws NSIs rhyngwladol, yng nghyfarfod Comisiwn Economaidd Ewrop y Cenhedloedd Unedig ar gasglu data ym mis Hydref 2022, a chyda’r byd academaidd. Bydd y cyhoeddiad nesaf yn becyn cymorth i ddadansoddwyr trawslywodraethol ei
    ddefnyddio; mae’n cynnwys cwestiynau ansawdd data gweinyddol hanfodol i’w hystyried wrth ddadansoddi a phrosesu data gweinyddol at ddibenion ansawdd ystadegol ac mae’n cynnwys cwestiynau i ofyn i gyflenwyr data ddeall mwy am ansawdd data gweinyddol.

Back to top

Cwmpas – Egwyddor Data Cynhwysol 3

Sicrhau bod pob grŵp yn cael ei gofnodi’n gadarn ar draws meysydd allweddol o fywyd yn nata’r DU ac adolygu arferion yn rheolaidd.

Ynglŷn ag Egwyddor 3

Roedd y Tasglu Data Cynhwysol (TDC) yn cydnabod bod data da ar gael ar amrywiaeth o bynciau ar gyfer rhai grwpiau poblogaeth. Fodd bynnag, ar gyfer rhai grwpiau a phynciau, mae bylchau yn y data yn atal “i ba raddau y mae ystadegau’n adlewyrchu profiadau pawb mewn cymdeithas”. Yn ogystal, nid yw data bob amser yn bodloni’r ystod lawn o anghenion defnyddwyr. Argymhellodd y ffyrdd canlynol o fynd i’r afael â’r materion hyn:

  • nodi lle nad yw data’n gynrychiadol o bawb mewn cymdeithas a chymryd camau i fynd i’r afael ag ef
  • sicrhau’r defnydd gorau o ddata gweinyddol drwy wella ei gynwysoldeb, naill ai drwy gynnwys gwybodaeth ychwanegol yn y casgliad data neu drwy gydweithio i sicrhau y gellir casglu gwybodaeth unwaith ond ei defnyddio eto
  • dod o hyd i atebion i fynd i’r afael â bylchau na ellir eu llenwi gan arolygon presennol neu welliannau i ddata gweinyddol, gan gynnwys nodi a mynd i’r afael â phroblemau o ran cwmpas poblogaethau nad ydynt yn byw mewn cartrefi preifat
  • sicrhau bod data a thystiolaeth ar gael sy’n adlewyrchu’r ystod lawn o anghenion amrywiol defnyddwyr

Cyflwyniadau hyd yn hyn

Ar y cyfan, roedd 33 o’r 41 o fentrau yn y cynllun gweithredu sylfaenol a oedd yn canolbwyntio ar sicrhau bod pob grŵp yn cael eu cofnodi’n gadarn, naill ai wedi’u cwblhau, neu ar waith ac ar amser, ddiwedd mis Mawrth 2023.

  • Rhan allweddol o waith trawsnewid ystadegau poblogaeth a mudo’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) fu gwella ansawdd ystadegau poblogaeth, gwella’r diffiniadau ac ystyried seiliau poblogaeth amgen o’r ystadegau a gynhyrchir ganddynt i ddiwallu anghenion defnyddwyr yn well, a sicrhau eu bod yn fwy cynhwysol. Mae cynwysoldeb gwell mewn ystadegau poblogaeth yn hollbwysig, gan eu bod yn sail i’r rhan fwyaf o ystadegau trawslywodraethol fel enwadur (er enghraifft, wrth gynhyrchu amcangyfrifon o Gynnyrch Domestig Gros [GDP] a chyfraddau diweithdra) a hefyd wrth bwysoli amcangyfrifon arolygon. Mae eu hamcangyfrifon poblogaeth diweddaraf ar sail Gweinyddol yn dangos y cynnydd y maent yn ei wneud.
  • Yn ogystal â thrawsnewid eu hystadegau poblogaeth, mae gwaith trawsnewid y SYG hefyd yn cynnwys cynyddu amlder, amseroldeb a chynwysoldeb ystadegau am nodweddion ein cymdeithas. Mae’r SYG wedi bod yn asesu pa mor gynrychiadol yw gwahanol ffynonellau data gweinyddol gan ddefnyddio Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr i lywio gwaith i sicrhau cynrychioldeb ystadegau wrth symud ymlaen. Fel rhan o’r ymchwil sy’n sail i ddyluniad cynhyrchu ystadegau poblogaeth yn y dyfodol, cyhoeddwyd ystadegau ethnigrwydd gweinyddol ar gyfer 2020 ym mis Chwefror 2023. Roedd y rhain yn cynnwys cymariaethau cenedlaethol ar lefel gyfanredol ag amcangyfrifon Cyfrifiad 2021, yn ogystal ag ystadegau ar gyfer Cymru am y tro cyntaf.
  • Cyhoeddwyd canfyddiadau o ymchwil gychwynnol y SYG ar ansawdd cofnodi ethnigrwydd mewn ffynonellau data gweinyddol iechyd allweddol yn Lloegr ym mis Ionawr 2023.
  • Yn ogystal, mae’r SYG yn bwriadu datblygu set o asedau hydredol (a fydd yn caniatáu mewnwelediadau i ganlyniadau yn seiliedig ar brofiadau bywyd pobl). Maent wedi canolbwyntio prawf o gysyniad ar ddatblygu’r astudiaeth Canlyniad Integreiddio Ffoaduriaid, mewn cydweithrediad â’r Swyddfa Gartref, sydd â’r nod o ddarparu mewnwelediad i sut mae ffoaduriaid wedi integreiddio i gymunedau lleol ar ôl symud i Loegr. Mae hyn yn adlewyrchu cynnydd pwysig tuag at ddarparu mewnwelediad i grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol mewn cymdeithas.
  • Cyflwynodd y SYG Gynllun Arolygon Addasol (ASD) ar gyfer yr Arolwg o’r Gweithlu wedi’i Drawsnewid (TLFS) ym mis Tachwedd 2022 fel strategaeth ar gyfer mynd i’r afael â thangynrychiolaeth. Mae hwn yn defnyddio data TLFS hanesyddol i bennu nodweddion yr ardaloedd ar lefel Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is (LSOA) sydd leiaf tebygol o ymateb heb ymyrraeth, ac i nodi lle mae ymweliadau cnocio-i-annog yn debygol o fod yn fwyaf effeithiol o ran lleihau gwallau dim ymateb.
  • Yn ogystal, er mwyn cynyddu ansawdd yr Arolwg o’r Gweithlu wed’i Drawsnewid, mae’r SYG wedi bod yn monitro’n agos yr amrywiad mewn ymateb ar draws ardaloedd daearyddol a dosbarthiadau eraill, megis y Mynegai Amddifadedd Lluosog a Dosbarthiadau Ardaloedd Cynnyrch. Mae dangosfwrdd Gwybodaeth Reoli yn galluogi monitro cynrychioldeb y data yn ddyddiol fel y gellir cymryd camau i fynd i’r afael ag ef.
  • Fel rhan o’r ymgynghoriad ar ddiwygio’r wefan ffeithiau a ffigurau Ethnigrwydd ym mis Gorffennaf 2022, ac yn unol â’r camau gweithredu a nodwyd yn adroddiad Prydain Gynhwysol, mae Canolfan Cydraddoldeb Swyddfa’r Cabinet wedi bod yn adolygu bylchau mewn data ethnigrwydd; mae hyn yn cynnwys bylchau yn y ddealltwriaeth o ganlyniadau ymfudwyr yn ogystal â bylchau dadansoddol ehangach. Fe wnaeth yr ymateb i’r ymgynghoriad ffeithiau a ffigyrau Ethnigrwydd ddisgrifio’r naw cam gweithredu ar gyfer yr Hyb Cydraddoldeb, gan gynnwys darparu data mwy gronynnog a dadansoddiad ethnigrwydd defnyddiol.
  • Fel rhan o’i hymrwymiad i ddeall cynwysoldeb ymhlith defnyddwyr teithio a thrafnidiaeth, yn 2022, adolygodd yr Adran Drafnidiaeth yr angen am ddata mwy cadarn ac amserol ar gyfer dadansoddi rhai grwpiau demograffig penodol ar ei Harolwg Teithio Cenedlaethol. Bydd yn cyflwyno maint sampl cynyddol o 2023 i ddiwallu’r angen hwn.
  • Ar ôl cyhoeddi A yw Prydain yn Decach? yn 2018, mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi dechrau adolygu setiau data allweddol a phynciau a ddefnyddir yn ei Fframwaith Mesur i nodi lle mae sylw annigonol i nodweddion gwarchodedig, neu feintiau sampl gwael ac anghyson.
  • Mae’r Swyddfa Safonau mewn Addysg, Gwasanaethau Plant a Sgiliau (Ofsted) wedi diwygio fframweithiau arolygu sy’n ymwneud â threfniadau ardal leol ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig a/neu anableddau (SEND) a darpariaeth y rhai sy’n gadael gofal gan wasanaethau plant awdurdodau lleol. Mae casgliad data Awdurdod Lleol wedi dechrau i gasglu profiadau defnyddwyr gwasanaeth (plant a phobl ifanc, ymarferwyr a rhieni) ac i sicrhau eu bod yn cael eu cynrychioli’n llawn.

  • Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi bod yn cynnal ymchwil i ddeall yn well sut mae data ar nodweddion personol yn cael eu casglu gan gyflenwyr data i amlygu meysydd i’w gwella a bydd yn cyhoeddi papur yn disgrifio’r hyn y byddai system boblogaeth y dyfodol yn ei gynnig, o ran nodweddion poblogaeth ochr yn ochr â’r ymgynghoriad cyhoeddus a fydd yn cael ei lansio yn haf 2023. Bydd y canfyddiadau’n cyfrannu at yr ymgynghoriad ar argymhelliad yr Ystadegydd Gwladol ar drawsnewid ystadegau am y boblogaeth.
  • Mae’r Swyddfa Myfyrwyr wedi gweithio gyda’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch i nodi’r casgliad o wybodaeth am nodweddion personol gan fyfyrwyr addysg uwch ac mae data bellach yn cael eu casglu gan ddarparwyr addysg uwch unigol.
  • Defnyddiodd Llywodraeth yr Alban ganfyddiadau ei Harchwiliad Data Cydraddoldeb yn 2022 i ddatblygu cynlluniau I wella data cydraddoldeb. Roedd y rhain yn sail i Strategaeth Tystiolaeth Cydraddoldeb yr Alban 2023 i 2025. Mae’r adborth o ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynlluniau hyn wedi’i gyhoeddi i’r holl randdeiliaid ei ddarllen.
  • Cyhoeddodd y Swyddfa Gartref Ofyniad Data Blynyddol (ADR) gwirfoddol ar gyfer heddluoedd ar ddata demograffig trawsbynciol (ADR 153). Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r holl gasgliadau data plismona presennol sy’n casglu data demograffig (gan gynnwys rhyw ac ethnigrwydd) wneud hynny mewn ffordd gyson drwy ei gysoni â Chyfrifiad 2021. Mae hefyd yn cynnwys casglu data arall yn wirfoddol ar nodweddion gwarchodedig dioddefwyr er mwyn helpu i fonitro dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
  • Mae Cyllid a Thollau EF wedi bod yn adolygu opsiynau ar gyfer casglu gwybodaeth ddemograffig ychwanegol. Mae gwerthusiad pellach o’r opsiynau hyn yn parhau, a disgwylir i’r argymhellion cychwynnol gael eu cytuno erbyn canol 2023.
  • Fe wnaeth aelodau Consortiwm Trais, Iechyd a Chymdeithas (VISION) (City, Prifysgol Llundain) a ariennir gan Bartneriaeth Ymchwil Ymchwil ac Arloesi’r DU (UKRI PRP) gynnal gweithdy gydag Imkaan ym mis Hydref 2022. Asesodd yr ymchwilwyr y codau ethnigrwydd yn feirniadol ar draws y data a ddarparwyd gan yr Arolwg Troseddu, cofnodion meddygol, arolwg iechyd meddwl, data heddlu a data gwasanaethau arbenigol. Mae hyn yn llywio dyluniad fframwaith mesur ar gyfer nodweddion gwarchodedig.
  • Mae cynlluniau Hyb Cydraddoldeb Swyddfa’r Cabinet ar gyfer Rhaglen Gwella Data Anabledd wedi’u gohirio tra’n aros am benderfyniadau ynghylch cyllid.

  • Ym mis Tachwedd 2022, llofnododd Ystadegydd Gwladol, Prif Ystadegwyr a Chofrestryddion Cyffredinol y DU ddatganiad o gytundeb ar gyfer cydweithredu ar ystadegau poblogaeth ac ystadegau cymdeithasol yn y dyfodol. Yn y cytundeb hwn ymrwymodd y partïon i gydgefnogaeth wrth gaffael data gweinyddol i gynhyrchu’r ystadegau hyn, rhannu dulliau newydd, a chydlynu er mwyn cysoni allbynnau i’r eithaf.
  • Ers mis Ionawr 2022, mae’r Swyddfa Gartref wedi gweithio gyda sawl Adran arall o’r Llywodraeth i hwyluso mynediad diogel a phriodol at ddata gweinyddol perthnasol er mwyn deall poblogaeth y DU yn well, gan gynnwys galluogi gwaith cysylltu perthnasol ac angenrheidiol:
    • fe wnaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) gyhoeddi ystadegau mudo net wedi’u diweddaru ym mis Tachwedd 2022, gan ddefnyddio data gweinyddol y Swyddfa Gartref fel rhan graidd eu hamcangyfrifon mudo o’r tu allan i’r UE. Mae gwaith yn parhau i fireinio’r ystadegau hyn
    • mae gwaith hefyd wedi bod yn mynd rhagddo gyda’r AdranFfyniant Bro, Tai a Chymunedau a’r Gymdeithas Llywodraeth Leol (LGA) i ddatblygu ystadegau chwarterol ar lefel leol, gan gefnogi dull seiliedig ar le; bydd hyn yn galluogi cymunedau lleol ac eraill i ddeall ac ymateb yn well i anghenion lleol
    • mae’r Swyddfa Gartref a’r SYG wedi datblygu astudiaeth garfan Canlyniadau Integreiddio Ffoaduriaid (RIO). Mae hyn yn cysylltu data gweinyddol a data eraill i ddeall canlyniadau integreiddio dros amser ar gyfer carfannau o ffoaduriaid a adsefydlwyd a’r rhai y rhoddwyd lloches iddynt rhwng 2015 a 2020. Cyhoeddwyd adroddiad ar y prosiect peilot, a gysylltodd ddata Gwiriadau Gadael y Swyddfa Gartref (llifoedd i’r DU ac oddi yno) â data iechyd Gwasanaeth Demograffig Personol (PDS) GIG (symudiadau mudo mewnol, mynediad at wasanaethau meddygon teulu), ym mis Mehefin 2022)
  • Fe fu’r Swyddfa Safonau mewn Addysg, Gwasanaethau Plant a Sgiliau (Ofsted) yn gweithio mewn partneriaeth â’r SYG i adeiladu ased data cysylltiedig i
    ddal profiad plentyndod pobl ifanc sy’n rhyngweithio â’r system cyfiawnder troseddol yn well. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys cysylltu data’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a’r Adran Addysg ac yn ceisio deall cysylltiadau rhwng profiadau plentyndod a dedfrydau o garchar yn ddiweddarach.
  • Mae Ofsted wedi ymrwymo i gytundeb gyda’r SYG fel mabwysiadwr cynnar y Gwasanaeth Data Integredig (GID) i fanteisio ar gyfleoedd i gysylltu asedau addysg a gofal cymdeithasol plant presennol ymhellach â data trawslywodraethol ar nodweddion unigol a theuluol. Bydd hyn yn gwneud
    defnydd o Gyfrifiad 2021 ac asedau data poblogaeth mewn modd cyfanredol nad yw’n datgelu.

  • Gan adeiladu ar y Strategaeth Arolygon newydd y cytunwyd arni yn 2021, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi dechrau mireinio ei dull o gynnal arolygon cymdeithasol i sicrhau bod argymhellion y Tasglu Data Cynhwysol yn cael eu hystyried a bod cyfleoedd i wella cynhwysiant poblogaethau a dangynrychiolir yn cael eu ceisio’n weithredol.
  • Fel rhan o drawsnewid ystadegau am y boblogaeth, mae’r SYG wedi parhau i archwilio rôl arolygon cartrefi i gasglu data ar nodweddion gwarchodedig a phynciau pwysig eraill lle nad oes unrhyw botensial neu dim ond potensial cyfyngedig mewn data gweinyddol a chaiff hyn ei ystyried fel rhan o’r ymgynghoriad defnyddwyr a gynllunir ar gyfer haf 2023.
  • Mae’r Swyddfa Gartref a’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau wedi bod yn gweithio gyda thîm arolwg Humanitarian Response Insights yr Wcráin yn y SYG ar y ffordd orau o ymestyn eu hastudiaeth garfan Canlyniadau Integreiddio Ffoaduriaid (RIO) i gynnwys gwybodaeth nad yw wedi’i chasglu trwy gysylltu data gweinyddol, er enghraifft rhwystrau i waith a rhentu preifat, defnyddio gwasanaethau cyhoeddus, iechyd a lles.
  • Mae’r gwaith cwmpasu gan Gyllid a Thollau EF (CThEF) i asesu dichonoldeb a fforddiadwyedd casglu data nodweddion gwarchodedig trwy arolygon ar raddfa fawr wedi’i oedi. Ar hyn o bryd, mae CThEF yn ymchwilio i atebion casglu data posibl eraill i gael cipolwg ar bryderon ac ystyriaethau ynghylch cydraddoldeb cwsmeriaid. Fodd bynnag, nid yw’r posibilrwydd o arolygon ar raddfa fawr o grwpiau cwsmeriaid wedi’i ddiystyru.
  • Mae’r arolwg arfaethedig o bobl anabl ar draws y DU gan Ganolfan Cydraddoldeb Swyddfa’r Cabinet wedi’i ohirio tra’n aros am benderfyniadau ar gyllid. Mae ffyrdd eraill o ariannu arolwg newydd yn cael eu hystyried, gan gynnwys cyfleoedd ar gyfer ariannu ar y cyd.

  • Yn ystod 2022 i 2023, dechreuodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) adolygiad o ffynonellau data presennol ar sefydliadau cymunedol ar draws gwledydd y DU. Mae adolygiad lefel uchel cychwynnol o argaeledd ffynonellau data ar gyfer gwahanol sefydliadau cymunedol a grwpiau poblogaeth dros dro, megis pobl sy’n profi digartrefedd, ar y gweill.
  • Mae ymchwil SYG i werth, a sut orau i gasglu data arolwg gan boblogaethau nad ydynt yn preswylio mewn cartrefi preifat, gan gynnwys y rhai sy’n byw mewn Sefydliadau Cymunedol, wedi’i ohirio tra’n aros am ganlyniad yr adolygiad o ffynonellau data presennol ar y poblogaethau hyn (gweler uchod). Bydd yr ymchwil hwn yn cael ei wneud yn 2023 yn amodol ar gyllid, a bydd yn bwydo i mewn i’r broses o drawsnewid ystadegau am y boblogaeth a’r argymhelliad sy’n cael ei wneud gan yr Ystadegydd Gwladol ar ddyfodol Cyfrifiad Cymru a Lloegr.
  • Mae’r SYG wedi bod yn gwneud cynnydd da ar waith i ymchwilio i gwmpas y poblogaethau sy’n byw mewn sefydliadau cymunedol ledled Cymru a Lloegr yn y data gweinyddol presennol. Mae canlyniadau cynnar o baru Cyfrifiad 2021 â data gweinyddol yn cael eu dadansoddi i asesu pa mor dda yw cynrychiolaeth pobl mewn sefydliadau cymunedol yn y data presennol.
  • Yn dilyn gwaith cwmpasu mewn perthynas ag amcangyfrif poblogaethau nad ydynt yn preswylio mewn cartrefi preifat, cyhoeddodd y syg adolygiad tystiolaeth o ddata presennol ar ddigartrefedd ‘cudd’ ledled y DU ym mis Mawrth 2023, gan amlygu’r heriau, cymhlethdodau a’r prif fylchau yn y data mewn perthynas â’r boblogaeth hon. Mae ymchwil hefyd ar y gweill i ddatblygu dull ar gyfer canfod maint y menywod sy’n profi digartrefedd ‘cudd’ ledled y DU.
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn bwrw ymlaen â gwaith i archwilio’r broses o gyflwyno system casglu data digartrefedd ar lefel unigol er mwyn galluogi gwell dealltwriaeth o sefyllfaoedd y rhai sy’n profi digartrefedd statudol. Mae prosiect peilot ar gyfer rhannu samplau o ddata presennol yn cael ei gynnal gydag awdurdodau lleol, â’r nod o gytundeb i rannu data cychwynnol erbyn canol 2023.
  • Mae’r Swyddfa Safonau mewn Addysg, Gwasanaethau Plant a Sgiliau (Ofsted) wedi dechrau rheoleiddio’r sector Llety â Chymorth sy’n gwasanaethu plant a phobl ifanc, gan gynnwys casglu data i ddeall maint y sector hwn ac i gysylltu data gweinyddol a gesglir yn ystod proses y rôl reoleiddio hon gyda data lefel plentyn a gesglir gan yr Adran Addysg.

  • Mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud ar weithredu Strategaeth Arolwg y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn 2022 i 2023, ac un o’r rhain yw Cynhwysol trwy Ddyluniad, ac yn benodol ar sut mae’r SYG yn cymryd trosolwg strategol o bortffolio’r arolwg:
    • Mae trefniadau llywodraethu newydd wedi’u rhoi ar waith i weithio ochr yn ochr â fforymau presennol
    • Mae proses rheoli galw arolwg newydd wedi’i lansio ac mae’n helpu i ddod ag eglurder i sut y gall SYG flaenoriaethu ceisiadau defnyddwyr ochr yn ochr â galwadau presennol yn llwyddiannus
    • Mae ‘llyfr chwarae’ arfer gorau wedi’i lansio i helpu i sicrhau cysondeb ar draws portffolio’r arolwg o ran dulliau dylunio, casglu a phrosesu data arolygon
    • Mae egwyddorion ymchwil a datblygu arolygon newydd gan gynnwys sut i wella cynwysoldeb wedi’u datblygu a fydd yn sicrhau bod ymatebwyr yn ganolog ac yn rhan annatod o ddyluniad yr arolwg
    • Dechreuwyd ar y gwaith o ddatblygu dwy strategaeth parth-benodol – ar gyfer arolygon Busnes a Chymdeithasol – yn 2022 i 2023, gyda dyddiadau lansio disgwyliedig yn chwarter cyntaf 2023 i 2024.
  • Mae’r SYG wedi ymgysylltu’n helaeth â defnyddwyr ag aelodau o’r cyhoedd, yn ogystal â sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector fel rhan o’r gwaith i ddatblygu argymhelliad yr Ystadegydd Gwladol ar drawsnewid ystadegau am y boblogaeth.
  • Mae cyfyngiadau adnoddau wedi gohirio datblygiad y Strategaeth Ymgysylltu â Defnyddwyr gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig tan 2023 i 2024.
  • Mae’r Adran dros Gymunedau wrthi’n datblygu strategaethau cynhwysiant cymdeithasol newydd ar gyfer Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon a bydd yn parhau tan fandad nesaf y Cynulliad.
  • Yn ystod 2022, cynhaliodd Llywodraeth yr Alban ymgynghoriad cyhoeddus ar ddata cynhwysol i ddeall anghenion defnyddwyr am dystiolaeth cydraddoldeb ac unrhyw rwystrau sy’n bodoli ar hyn o bryd. Defnyddiwyd yr ymatebion i lywio ei Gynllun Gweithredu sy’n ganolog i Strategaeth Tystiolaeth Cydraddoldeb 2023 i 2025 yr Alban.

Back to top

Dadgyfuno – Egwyddor Data Cynhwysol 4

Gwella seilwaith data’r DU i alluogi dadgyfuno cadarn a dibynadwy a dadansoddiad croestoriadol ar draws yr ystod lawn o grwpiau a phoblogaethau perthnasol, ac ar wahanol lefelau o ddaearyddiaeth.

Ynglŷn ag Egwyddor 4

Fe wnaeth y Tasglu Data Cynhwysol gydnabod nad yw’r data a’r dystiolaeth bresennol mewn rhai achosion yn ddigon manwl i’n galluogi i ddeall profiadau pawb yng nghymdeithas y DU. I rai poblogaethau, mae gan yr angen i gyfuno grwpiau ar gyfer dadansoddiad y potensial i “gamliwio materion ac anghenion cymunedau llai a mwy ymylol”. Yn ogystal, mae diffyg gronynnedd yn atal ein gallu i ddeall sut mae croestoriad gwahanol nodweddion yn cyfuno i effeithio ar brofiadau pobl.

Maent wedi argymell:

  • gwella manylder y data presennol, gan gynnwys gorsamplu grwpiau penodol mewn gweithgareddau casglu data
  • osgoi defnyddio meta-gategorïau a mabwysiadu ymagwedd groestoriadol at ddadansoddi a dehongli, gan gynnwys mewn offer ar-lein presennol
  • sicrhau bod cynwysoldeb wrth wraidd cynllun system ystadegau cymdeithasol y dyfodol

Cyflawniadau hyd yn hyn

Yn gyffredinol, roedd 25 o fentrau yn y cynllun gweithredu sylfaenol yn canolbwyntio’n benodol ar feysydd sy’n berthnasol i alluogi dadgyfuno a dadansoddi croestoriadol. Roedd pob un naill ai wedi’i gwblhau neu ar y gweill ac ar amser ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach ym mis Mawrth 2023.

  • Fel rhan o’r ymchwil sy’n sail i argymhelliad yr Ystadegydd Gwladol ar drawsnewid ystadegau am y boblogaeth, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi archwilio gwneud mwy o ddefnydd o ddata gweinyddol i gynhyrchu ystadegau amlach ac amserol ar gyfer nodweddion poblogaeth, gan gynnwys ar lefel ddaearyddol gronynnog ac ar gyfer nodweddion gwarchodedig. Mae ymchwil blaenorol wedi dangos gallu’r SYG i gynhyrchu cyfrif o nodweddion gan gynnwys grŵp ethnig, incwm, tai, statws y farchnad lafur a chyn-filwyr, gan ddefnyddio data gweinyddol yn gyntaf. Mae’r pynciau hyn wedi’u blaenoriaethu ar gyfer ymchwil oherwydd cyfuniad o angen uchel gan ddefnyddwyr a’u hargaeledd mewn ffynonellau data gweinyddol. Mae ymchwil a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2023 yn cynnwys amcangyfrifon o grŵp ethnig, incwm a thai, ac amcangyfrifon amlamryweb i helpu i ddeall canlyniadau gwahanol grwpiau poblogaeth, gan gwmpasu tai ac incwm yn ôl ethnigrwydd.
  • Fe wnaeth y SYG arwain a datblygu strategaeth ddata is-genedlaethol Gwasanaeth Ystadegol (GSS) traws-Lywodraethol, sy’n cyfeirio’n benodol at yr egwyddorion data cynhwysol i ddarparu ystadegau mwy amserol, gronynnog a chyson ar lefelau daearyddiaeth is nag a oedd yn bosibl yn flaenorol. Ym mis Mai 2022, cyhoeddwyd cynllun gwaith is-genedlaethol SYG i nodi ymrwymiad cyhoeddus i sut y byddent yn cyflawni’r strategaeth data is-genedlaethol.
  • Gyda chymorth yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (DLUHC), mae’r SYG wedi sefydlu rhaglen waith i ddatblygu ystadegau a dadansoddiadau mwy gronynnog sy’n manteisio ar ffynonellau data sydd ar gael yn ddiweddar ac offer delweddu a lledaenu data sy’n gwneud y mewnwelediadau hyn yn fwy hygyrch ac yn haws eu defnyddio. Mae llawer o’r gwaith hwn yn gofyn am ddatblygu dulliau newydd o ymdrin â heriau megis dosrannu gweithgarwch busnes ar draws safleoedd sydd wedi’u lleoli mewn mannau gwahanol a chynnal ystadegau nad ydynt yn datgelu gwybodaeth am fusnesau unigol.
  • Yn ystod 2022 i 2023 mae’r SYG, unwaith eto gyda chymorth DLUHC, wedi creu gwasanaeth cynghori dadansoddol lleol newydd gyda’r uchelgais o gwmpasu pedair gwlad y DU, a elwir yn SYG Lleol. Y nod yw sicrhau bod arweinwyr lleol a sefydliadau is-genedlaethol yn gallu cyrchu a defnyddio data, ystadegau a dadansoddiadau i gefnogi eu penderfyniadau. Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei gyd-gynllunio â dadansoddwyr lleol ledled Lloegr a’r Prif Ystadegydd ym mhob un o’r gweinyddiaethau datganoledig.
  • Mae’r Adran Addysg wedi dechrau casglu data Cynllun Addysg, Iechyd a Gofal (EHC) yn orfodol ar lefel y plentyn/person ifanc yn lle data cyfanredol ar lefel Awdurdod Lleol. Cyhoeddir y data hyn am y tro cyntaf ddiwedd gwanwyn 2023.
  • Mae’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi comisiynu adroddiad ymchwil i archwilio addasrwydd defnyddio dull sy’n seiliedig ar fodel i gael metrigau lefel Awdurdod Lleol ar gyfer yr Arolwg o Fywyd Cymunedol. Bydd hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod gwanwyn 2023.
  • Fel rhan o’r ymgynghoriad ar ddiwygio’r wefan Ffeithiau a Ffigurau Ethnigrwydd, mae Canolfan Cydraddoldeb Swyddfa’r Cabinet wedi cwblhau asesiad o fanylder y setiau data, gan ganolbwyntio’n benodol ar ddefnyddio dosbarthiadau deuaidd gwyn/ddim yn wyn. Mae dadansoddiad o ganlyniadau’r ymgynghoriad yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. Mae Cam 7 o’r ymateb i’r ymgynghoriad yn ymrwymo’r Hyb Cydraddoldeb i weithio gydag adrannau i wella gronynnedd data ethnigrwydd.
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi creu tair uned newydd, yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd i wella argaeledd, ansawdd, gronynnedd
    a hygyrchedd tystiolaeth am unigolion â nodweddion gwarchodedig a nodweddion cysylltiedig. Ers hydref 2022:

    • mae’r unedau wedi bod yn cwmpasu blaenoriaethau tystiolaeth gychwynnol, yn ogystal â dechrau Archwiliad Data Cydraddoldeb Cymru
    • mae’r Uned Data Cydraddoldeb hefyd wedi datblygu cynnig ar gyfer asesiad gwerthuso i sicrhau bod gwybodaeth fonitro ddigonol yn ei lle i ddeall effaith y cynllun gweithredu LGBTQ+ ar gymunedau LGBTQ+
    • mae’r Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau Anabledd yn ymchwilio i rwystrau i gyflogaeth ac yn dadansoddi bylchau cyflog
    • mae’r Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau Hiliol wedi bod yn datblygu asesiad a fframwaith cychwynnol ar gyfer mesur effaith Cynllun Gweithredu Gwrth- hiliaeth Cymru, yn ogystal â datblygu offeryn casglu data i ymchwilio i nodweddion gwarchodedig Byrddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
  • Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dyfarnu’r contract i gyflawni Arolwg Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2024 i 2025, gan alluogi cyfuno unrhyw gyfuniad o chwarteri i gynhyrchu setiau data aml-flwyddyn mawr a chynhyrchu setiau data cyfun dwy flynedd fel arfer. Bydd hyn yn galluogi dadansoddiad manylach o is- grwpiau. Mae’r Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd hefyd wedi bod yn edrych ar gyfleoedd i roi hwb i samplau a chysylltu data, er mwyn gwella manylder y data. Dechreuodd y prosiect ar ddiwedd 2022 ac mae yn y cam cwmpasu a datblygu ar hyn o bryd.
  • Yn dilyn hwb rhannol i sampl yr Arolwg Adnoddau Teuluol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) rhwng Hydref 2021 a Mawrth 2022, cyflwynwyd hwb llawn ym mis Ebrill 2022, gyda’r bwriad o gyflawni maint sampl o 45,000 o aelwydydd ar gyfer y flwyddyn 2022 i 2023. O ganlyniad i heriau wrth sicrhau lefel ddigonol o ymateb aelwydydd, disgwylir i sampl terfynol a gyflawnir fod oddeutu 25,000 o aelwydydd, ond mae hyn yn dal i fod yn welliant ym maint y sampl o gymharu â blwyddyn arferol.
  • Mae’r Swyddfa Safonau mewn Addysg, Gwasanaethau Plant a Sgiliau (Ofsted) wedi ymrwymo i adolygu’n barhaus ei chynhyrchiad ystadegol er mwyn gwella gronynnedd ystadegau ar gyfer defnyddwyr. Er enghraifft, yn 2022,
    fe wnaethant ddiwygio’r broses o gynhyrchu ystadegau swyddogol maethu i ddatgysylltu gofalwyr maeth teulu a ffrindiau oddi wrth ddarpariaeth maethu prif ffrwd er mwyn adrodd am dueddiadau mwy addysgiadol yn y sector.

  • Yn dilyn cyflwyno ei Chynllun Arolygon Addasol (ASD) ar gyfer yr Arolwg o’r Llafurlu wedi’i Drawsnewid (TLFS) ym mis Tachwedd 2022 (gweler Egwyddor Data Cynhwysol 3), bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn gwerthuso ei effaith i lywio unrhyw newidiadau yn y dyfodol. mewn perthynas â gorsamplu neu dargedu casglu data ymhellach.
  • Mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) wedi cynnal dadansoddiad cychwynnol o’r data nodweddion gwarchodedig sydd ar gael ar gyfer yr arolwg Unigolion, Busnesau Bach ac Asiantau (ISBA), gan gyfuno sawl blwyddyn o ddata. Canfuwyd bod meintiau sampl yn rhy fach yn y rhan fwyaf o grwpiau lleiafrifoedd ethnig i ddarparu casgliadau cadarn, felly mae CThEF yn bwriadu cynnal astudiaeth ddichonoldeb lawn i asesu’r potensial i gynyddu cynrychiolaeth grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn yr arolwg.
  • Mae Arolwg Panel Rhieni, Disgyblion a Dysgwyr yr Adran Addysg (DfE) wedi cyhoeddi canlyniadau arolwg sy’n cynnwys gorsamplu wedi’i dargedu o grwpiau â chyfraddau ymateb hanesyddol is, gan gynnwys y rhai sy’n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim (PYDd) sy’n gymwys, y rhai ag Anghenion Addysgol Arbennig a Statws Anabledd, a’r rhai â statws Plant mewn Angen, i lenwi’r bylchau presennol o ran dealltwriaeth o’r grwpiau hyn.
  • Mae’r Adran Addysg (DfE) wedi gweithredu gorsamplu targedig o grwpiau difreintiedig yn ei hastudiaethau Plant y 2020au a Phump i Ddeuddeg, a Thyfu i Fyny yn yr 2020au, er mwyn deall yn well y berthynas rhwng datblygiad, cyrhaeddiad, anfantais ac ystod o nodweddion personol a chartref. Bydd canlyniadau cam un o Plant y 2020au yn cael eu cyhoeddi yn ystod 2024.

  • Mae Canolfan Cydraddoldeb Swyddfa’r Cabinet wedi partneru â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) i gyflawni ei Rhaglen Data Cydraddoldeb. Defnyddiodd cam cychwynnol y gwaith hwn ddata a oedd yn bodoli eisoes i archwilio sut mae canlyniadau pobl yn amrywio yn ôl gwahanol ddimensiynau o gydraddoldeb (gan gynnwys daearyddiaeth a chefndir economaidd- gymdeithasol). Cyhoeddwyd y dadansoddiad ym mis Ionawr 2023.
  • Fel rhan o ail gam y Rhaglen Data Cydraddoldeb i ddatblygu set ddata gysylltiedig i alluogi dadansoddiad croestoriadol manylach (yr Ased Data Cydraddoldeb), mae’r SYG wedi datblygu prototeip sy’n cysylltu data cofrestr Pobl â Rheolaeth Arwyddocaol (PSC) Tŷ’r Cwmnïau i ddata Cyfrifiad 2011. Mae ansawdd y prototeip hwn yn cael ei asesu ar hyn o bryd gan staff Swyddfa’r Cabinet yn y Gwasanaeth Ymchwil Diogel.
  • Yn 2022, cyhoeddodd y SYG gyfres o ddadansoddiadau gan ddefnyddio setiau data cysylltiedig i alluogi dadansoddiad mwy gronynnog a chroestoriadol. Roedd y rhain yn cynnwys addysg, symudedd cymdeithasol a chanlyniadau i fyfyrwyr sy’n cael prydau ysgol am ddim yn Lloegr:
    • Addysg, symudedd cymdeithasol a chanlyniadau ar gyfer myfyrwyr sy’n cael prydau ysgol am ddim yn Lloegr
    • Cefndir addysg a gofal cymdeithasol pobl ifanc sy’n rhyngweithio â’r system cyfiawnder troseddol
    • Pam mae derbynwyr prydau ysgol am ddim yn ennill llai na’u cyfoedion
    • Pwy yw’r plant sy’n mynd i ofal yn Lloegr?
    • Cefndir addysgol plant sy’n derbyn gofal sy’n rhyngweithio â’r system cyfiawnder troseddol
  • Mae’r Swyddfa Myfyrwyr wedi datblygu a chyhoeddi set o fesurau croestoriadol i wella dealltwriaeth o’r canlyniadau y mae grwpiau gwahanol yn debygol o’u profi ar draws cylch bywyd myfyrwyr, gan gynnwys mynediad i addysg uwch, a pharhad mewn addysg uwch.
  • Mae’r SYG wedi dechrau cynnal dadansoddiad croestoriadol gan ddefnyddio Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr. Hyd yn hyn, mae dadansoddiad cyffredinol wedi’i gyhoeddi ar iechyd cyffredinol ac anabledd yn ôl oedran a rhyw, gyda dadansoddiad ar gyfer canlyniadau a nodweddion eraill wedi’u cynllunio yn ystod 2023 i 2024.
  • Gan gydnabod pwysigrwydd deall sut y gall canlyniadau amrywio yn ôl nodweddion megis grŵp ethnig, mae ymchwil y SYG sy’n sail i argymhelliad yr Ystadegydd Gwladol ar drawsnewid ystadegau am y boblogaeth yn cynnwys dangos dichonoldeb defnyddio data gweinyddol i gynhyrchu amcangyfrifon sy’n dangos dwy nodwedd neu fwy gyda’i gilydd ar y lefel is-genedlaethol gan gynnwys incwm yn ôl ethnigrwydd a thai yn ôl ethnigrwydd.
  • Fel rhan o gyhoeddi’r fframwaith dangosyddion cyfalaf dynol, roedd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn bwriadu cynnal dadansoddiad croestoriadol yn 2022 ar yr hyn sy’n ysgogi caffael gwybodaeth a sgiliau gydol oes. Mae hyn wedi’i ohirio gyda’r fframwaith dangosyddion ac mae’r broses o gasglu data’n dal i gael ei datblygu. Bellach disgwylir casglu a dadansoddi data rhwng 2023 a 2024.

  • Yn ogystal ag amrywiaeth o setiau data ac erthyglau dadansoddi o Gyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi cyhoeddi eu ‘Creu Set Ddata Bwrpasol.’ Mae’r offeryn adeiladu tablau hyblyg hwn yn galluogi defnyddwyr i archwilio data Cyfrifiad 2021 y tu hwnt i ddadansoddiad SYG, ac yn galluogi defnyddwyr i gynhyrchu ystadegau amlamryweb drostynt eu hunain. Mae’r SYG hefyd wedi cyhoeddi offeryn proffil ‘Adeiladu ardal bwrpasol’ sy’n galluogi defnyddwyr i lunio eu hardaloedd eu hunain ar fap, neu i ddefnyddio neu ddiwygio daearyddiaethau a osodwyd ymlaen llaw, ac archwilio data cyfrifiad ar gyfer yr ardal honno.

  • Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi bod yn parhau i fonitro gweithrediad argymhellion perthnasol y Tasglu Data Cynhwysol, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu hadlewyrchu’n briodol yn argymhelliad yr Ystadegydd Gwladol ar drawsnewid ystadegau am y boblogaeth.
  • Trwy ymgysylltu’n helaeth â defnyddwyr a’r Ymgynghoriad a fydd yn cael ei lansio yn Haf 2023 ac a fydd yn llywio argymhelliad yr Ystadegydd Gwladol ar drawsnewid ystadegau am y boblogaeth, mae’r SYG yn ceisio cael dealltwriaeth well fyth o anghenion defnyddwyr, a bydd cynwysoldeb yn ffocws allweddol iddynt, a bydd y rhain yn llywio eu cynlluniau ymchwil yn y dyfodol yn ogystal ag argymhelliad yr Ystadegydd Gwladol.

Back to top

Cysyniadau – Egwyddor Data Cynhwysol 5

Sicrhau priodoldeb ac eglurder ynghylch y cysyniadau sy’n cael eu mesur ar draws yr holl ddata a gesglir.

Ynglŷn ag Egwyddor 5

Amlygodd y Tasglu Data Cynhwysol bwysigrwydd sicrhau bod ymchwilwyr yn glir ynghylch yr hyn y maent yn ceisio ei fesur mewn perthynas â nodweddion ac amgylchiadau personol er mwyn helpu i wella cynwysoldeb, cywirdeb a chysondeb data a thystiolaeth. Canolbwyntiodd y Tasglu ar sawl maes lle roedd yn teimlo y dylid gwneud gwelliannau, gan gynnwys:

  • sicrhau bod safonau data, diffiniadau a dulliau mesur yn cyd-fynd â newidiadau cymdeithasol a deddfwriaethol a’u bod yn cael eu hystyried yn briodol ac yn gywir gan ddarpar gyfranogwyr ymchwil a grwpiau perthnasol
  • sicrhau bod dealltwriaeth gysyniadol glir yn sail i gasglu data, tra hefyd yn gwella hygyrchedd a phriodoldeb canfyddedig y mesurau a’r dulliau a ddefnyddir ymhlith darpar gyfranogwyr
  • sicrhau eglurder yn yr iaith a ddefnyddir wrth gasglu data, dadansoddi ac adrodd ar ganfyddiadau
  • sicrhau tryloywder ynghylch sut mae data wedi’u casglu wrth rannu ac adrodd ar ddata fel y gall eraill asesu eu rhinweddau a’u cynwysoldeb drostynt eu hunain.

Cyflawniadau hyd yn hyn

Yn gyffredinol, roedd 28 o fentrau yn y cynllun gweithredu sylfaenol yn canolbwyntio’n benodol ar feysydd sy’n berthnasol i sicrhau priodoldeb ac eglurder cysyniadau. O’r rhain, roedd y rhan fwyaf (26) naill ai wedi’u cwblhau neu ar y gweill ac yn unol â’r amserlen ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach ym mis Mawrth 2023.

  • Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ymchwilio i ffyrdd o ddatblygu tystiolaeth yn unol â’r model cymdeithasol o anabledd o 2022. Mae eu hymchwiliadau cychwynnol i sut i gydgynhyrchu ymchwil a gweithio ochr yn ochr â phobl anabl wedi cynnwys adolygiad o lenyddiaeth a chyngor gan aelodau o’r Tasglu Hawliau Anabledd. Yn seiliedig ar hyn, mae dull cydgynhyrchu wedi’i gynllunio gyda gwaith ychwanegol wedi’i gynllunio i ddatblygu theori newid yn ystod 2023.
  • Gweithiodd Swyddfa’r Cabinet gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn 2022 i ddeall yr hyn sy’n ysgogi cyfraddau ymateb isel i gwestiynau am gefndir economaidd-gymdeithasol gweithlu’r Gwasanaeth Sifil. Nid yw’r cyfraddau ymateb presennol yn ddigon i’w cyhoeddi fel rhan o Ystadegau’r Gwasanaeth Sifil. Mae gwaith yn mynd rhagddo mewn adrannau i wella cyfraddau ymateb fel y gellir cyhoeddi data ar gefndir economaidd-gymdeithasol yn y dyfodol. Yn ogystal â’n helpu i gyflawni’r ymrwymiadau a nodir yn Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant y Gwasanaeth Sifil, gellir defnyddio’r data hyn i ddatblygu dull a ysgogir gan ddata ac a arweinir gan dystiolaeth i ysgogi mwy o gynhwysiant.

  • Ar ôl ymgynghori â Chanolfan Cydraddoldeb Swyddfa’r Cabinet a’r gweinyddiaethau datganoledig, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) Gynllun Cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth (GSS) ym mis Chwefror 2022, gan nodi cynlluniau ar gyfer adolygu a diweddaru safonau a chanllawiau cysoni cyfredol GSS. Cyhoeddwyd diweddariad dilynol ym mis Rhagfyr 2022 gyda rhagor o wybodaeth am y cynnydd a gyflawnwyd mewn perthynas â safonau a chanllawiau gan gynnwys hunaniaeth genedlaethol, yr iaith Gymraeg, ethnigrwydd, dosbarthiad economaidd-gymdeithasol, gwasanaeth blaenorol yn y lluoedd arfog, a chymwysterau. Gweler hefyd Data Cynhwysol Egwyddor 7.
  • Mae’r SYG wedi cyflwyno dull ymatebydd-ganolog i ddyluniad ei harolygon o’r dechrau i’r diwedd, gyda’r nod o wneud profiad yr arolwg yn un perthnasol, yn ddealladwy ac yn briodol i ymatebwyr. Dros y flwyddyn ddiwethaf, defnyddiwyd y dull hwn yn benodol wrth ddatblygu’r Arolwg o’r Gweithlu Llafur wedi’i Drawsnewid gyda’r nod o’i gyflwyno i bob arolwg cymdeithasol arall.
  • Yn 2022, fe fu Canolfan Cydraddoldeb Swyddfa’r Cabinet yn gweithio gyda’r SYG, rhanddeiliaid eraill ac arbenigwyr ar brofiadau bywyd pobl anabl ar gynllun cychwynnol arolwg o bobl anabl ledled y DU. Mae angen profion a gwaith peilot cyn unrhyw weithredu pellach. Mae gweithredu’n dibynnu ar gyllid pellach, ac mae opsiynau ar gyfer hyn yn cael eu harchwilio ar hyn o bryd ar draws y Llywodraeth a chyda sefydliadau partner allanol posibl, gan gynnwys cyfleoedd ar gyfer ariannu ar y cyd.
  • Cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban ganllawiau ym mis Mawrth 2022 ar gasglu data a geiriad cwestiynau i’w defnyddio ar gyfer casglu data cydraddoldeb. Ers hynny mae’r canllawiau newydd hyn wedi’u cyflwyno ar draws y sector cyhoeddus yn yr Alban.
  • Bydd dyluniad arolwg panel chwe wythnos yr Adran Addysg o athrawon ac arweinwyr ysgolion a cholegau, y Panel Ysgolion a Cholegau (SCP), yn parhau i ganolbwyntio ar bynciau y mae sail resymegol glir ar gyfer yr angen adrannol a chraffu trylwyr ar eu cyfer. Lle bo modd, bydd yr arolwg yn defnyddio cwestiynau safonol presennol gyda chwestiynau newydd yn seiliedig ar arfer gorau dylunio a phrofion gwybyddol i sicrhau cynnyrch terfynol sy’n hawdd ei ddeall ac yn berthnasol i’r sector. Mae tonnau blaenorol y panel wedi’u cyhoeddi. Bydd tonnau ymchwil yn cael eu cynnal trwy gydol blwyddyn academaidd 2022 i 2023 ac mae trafodaethau’n parhau ynghylch blynyddoedd y dyfodol i’r panel.
  • Ailosododd yr Adran Drafnidiaeth y contract ar gyfer yr Arolwg Teithio Cenedlaethol (NTS) yn 2022 a defnyddiodd argymhellion y Tasglu Data Cynhwysol fel ysbrydoliaeth ar gyfer cwmpasu rhaglen ymchwil dulliau NTS.
  • Mae’r Adran ar gyferFfyniant Bro, Tai a Chymunedau wedi gweithio’n agos gyda grwpiau Partneriaeth Gwybodaeth Ganolog a Lleol (CLIP) yr awdurdod lleol, gan adolygu gofynion data newydd. Ym mis Rhagfyr 2022, cymeradwywyd newidiadau i ddadansoddiadau cenedligrwydd ar gyfer casglu data ystadegau digartrefedd (H-CLIC) ac o fis Ebrill 2023 bydd yn cynnwys dadansoddiadau ar gyfer y rhai sy’n dychwelyd neu’n cyrraedd o Syria, Afghanistan, Hong Kong neu Wcráin.

  • Mewn ymgynghoriad â’r Pwyllgor Rhyngweinyddol, fel y crybwyllwyd eisoes, cyhoeddodd y SYG Gynllun Cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth (GSS) i adolygu a gwneud gwelliannau o ran eglurder iaith. Mae’r SYG wedi gwneud llawer iawn o waith ymgysylltu ar draws y Llywodraeth a gweinyddiaethau datganoledig Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon i hyrwyddo a sefydlu’r broses o fabwysiadu safonau wedi’u cysoni. Gwneir hyn drwy amrywiaeth o fentrau gan gynnwys rhwydwaith o hyrwyddwyr cysoni adrannol, cymorth pwrpasol ar gyfer casgliadau data proffil uchel y llywodraeth a sesiynau hyfforddi ar draws adrannau. Mae rhagor o wybodaeth am y Cynllun Cysoni GSS ar gael o dan Egwyddor Data Cynhwysol 7.
  • Fe wnaeth y Swyddfa Weithredol yng Ngogledd Iwerddon ddrafftio canllawiau ar fonitro poblogaethau ethnig er mwyn darparu fframwaith safonol i helpu cyrff cyhoeddus i gasglu gwybodaeth mewn modd cyson ond hyblyg, gan wella’r modd y darperir gwasanaethau a chydraddoldeb i wahanol boblogaethau ethnig a mudol sy’n byw yng Ngogledd Iwerddon. Cafodd y canllawiau drafft eu cynhyrchu a’u hystyried yn ystod 2022, gyda’r gweithredu’n amodol ar gytundeb gan yr holl gyrff perthnasol.
  • Ar gyfer Cyfrifiad Cymru a Lloegr 2021, gofynnodd y SYG am farn ar gynllun cynnwys a rhyddhau allbynnau Cyfrifiad 2021. Roedd yr ymgynghoriad yn ymdrin ag iaith a labelu ar gyfer pynciau megis ethnigrwydd, hunaniaeth genedlaethol, iaith, a chrefydd. Er enghraifft, buont yn ymgynghori ar eu cynnig i gyflwyno’r dosbarthiad grŵp ethnig yn nhrefn yr wyddor yn ogystal â’r iaith a ddefnyddir yn y tablau dosbarthu. Mae adborth o’r ymgynghoriad wedi’i gyhoeddi yn Allbynnau Cyfrifiad 2021: cynigion cam dylunio a rhyddhau cynnwys. Yn ogystal, ymgysylltodd y SYG drwy weithgorau, megis Grŵp Ethnig y SYG a’r Panel Sicrwydd Crefydd i geisio adborth ar yr iaith a’r labelu a ddefnyddir ar gyfer allbynnau’r cyfrifiad. Roedd hyn yn cynnwys cael ystod amrywiol o adborth gan adrannau eraill y llywodraeth, academyddion a chynrychiolwyr grwpiau cymunedol.
  • Yn 2022, Fe wnaeth y Swyddfa Gartref adolygu a diweddaru ei Safonau Data’r Gweithlu ar gyfer nodweddion gwarchodedig i gefnogi asesu a yw heddluoedd, fel rhan o Raglen Ymgodiad yr Heddlu, yn dod yn fwy cynrychioliadol o’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Lle bo’n bosibl, mae safonau data wedi’u halinio â Chyfrifiad 2021 neu’n tynnu ar safonau cysonedig presennol a nodir gan Wasanaeth Ystadegol y Llywodraeth. Mae’r safonau cofnodi bellach yn cael eu defnyddio gan partneriaid plismona, yn ogystal â chasgliadau data gweithlu’r heddlu. Mae rhagor o fanylion ar gael ynng nghanllaw gweithlu’r heddlu.
  • Fel rhan o waith gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu Cynllun Gweithredu Gwrth- hiliaeth Cymru, adnabuwyd nad oedd y derminoleg Gymraeg a ddefnyddir ar hyn o bryd wrth drafod hil ac ethnigrwydd bob amser yn addas i’r diben: naill ai nid oedd terminoleg yn bodoli neu roedd wedi dyddio. Roedd hyn yn rhwystr i drafod y pwnc yn Gymraeg. Strategaeth y Gymraeg Llywodraeth Cymru, Cymraeg 2050: Mae miliwn o siaradwyr Cymraeg yn canolbwyntio’n glir ar gynyddu defnydd o’r Gymraeg. Sefydlwyd grŵp o arbenigwyr iaith a chynrychiolwyr o wahanol gymunedau ethnig lleiafrifol a datblygwyd set o dermau Cymraeg a gyflwynwyd wedyn i’r cyhoedd ar gyfer ymgynghoriad. Mae’r termau i drafod hil ac ethnigrwydd yn y Gymraeg wedi’u hymgorffori yng nghronfeydd termau cydnabyddedig BydTermCymru a Phorth Termau Cenedlaethol Cymru.

  • Roedd Cyllid a Thollau EF yn bwriadu comisiynu adolygiad o fetadata ystadegau swyddogol yn 2022 a, lle bo angen, gwella gwybodaeth gyhoeddedig am sut mae data wedi’u casglu mewn cyhoeddiadau ystadegau swyddogol. Cafodd hyn ei ohirio ac erbyn hyn bydd yn dechrau yn 202.
  • Yn 2022, adolygodd yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ddogfennaeth a oedd yn cyd-fynd â chyhoeddiadau eu harolwg i sicrhau bod metadata yn cael eu darparu i ddefnyddwyr asesu ansawdd ac addasrwydd data a sicrhau cydymffurfedd â deddfwriaeth hygyrchedd. Yn 2023, byddant hefyd yn archwilio dichonoldeb gwahanol ddulliau o ddelweddu’r data hwn i’w wneud yn fwy hygyrch.
  • Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi cyhoeddi metadata sy’n cyd- fynd â datganiadau data unamryweb o Gyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr, gan gynnwys mewn perthynas â nodweddion personol, gan roi eglurder i ddefnyddwyr ynghylch sut mae’r data wedi’u casglu a’u cyfuno. Bydd Geiriadur Data, sy’n darparu gwybodaeth am ddiffiniadau, newidynnau a dosbarthiadau, hefyd yn parhau i gael ei ddiweddaru wrth i’r SYG symud drwy’r cyfnod nesaf o ryddhau allbynnau’r cyfrifiad dros y flwyddyn i ddod a thu hwnt.
  • Mae’r SYG yn cynnal asesiad parhaus o ansawdd y ffynonellau gweinyddol a ddefnyddir i drawsnewid ystadegau am y boblogaeth. Bydd hyn yn cynhyrchu metadata i helpu cynhyrchwyr a defnyddwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau’r ffynonellau gweinyddol, gan gynnwys eu cynwysoldeb. Mae adroddiadau ar ansawdd y data gweinyddol a ddefnyddiwyd ar gyfer Cyfrifiad 2021 ac ansawdd y ffynonellau data gweinyddol a ddefnyddiwyd i ddatblygu’r Set Data Poblogaeth Ystadegol ar gyfer Cymru a Lloegr wedi’u cyhoeddi. Bydd adroddiadau ansawdd pellach yn cael eu cyhoeddi yn 2023 wrth i’r gwaith fynd rhagddo.

Back to top

Dulliau – Egwyddor Data Cynhwysol 6

Ehangu’r ystod o ddulliau sy’n cael eu defnyddio’n rheolaidd a chreu ymagweddau newydd at deall profiadau ar draws poblogaeth y DU.

Ynglŷn ag Egwyddor 6

Cydnabu’r Tasglu y gallai ystod o wahanol ddulliau fod yn ddefnyddiol wrth nodi ac archwilio profiadau grwpiau amrywiol. Efallai y bydd angen dulliau newydd i oresgyn rhwystrau penodol i gyfranogi mewn casglu data, i alluogi ymdeimlad o fwy o ymddiriedaeth a dibynadwyedd wrth gymryd rhan mewn ymchwil, ac i alluogi’r rhai a allai fod yn cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd yn ystadegau a thystiolaeth y DU i fod yn fwy gweladwy.

Cyflawniadau hyd yn hyn

Yn gyffredinol, roedd 19 o fentrau yn y cynllun gweithredu sylfaenol yn canolbwyntio’n benodol ar feysydd sy’n berthnasol i ehangu’r ystod o ddulliau a ddefnyddir a datblygu dulliau newydd. O’r rhain, roedd y rhan fwyaf (15) naill ai wedi’u cwblhau neu ar y gweill ac ar amser ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach ym mis Mawrth 2023.

  • Yn 2022, fe wnaeth Campws Gwyddor Data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) weithio’n agos â Phwyllgor Arbenigwyr y Cenhedloedd Unedig ar Ddata Mawr a Gwyddor Data a chyrff ystadegol eraill i gyflymu’r defnydd cyfrifol o ddeallusrwydd artiffisial (AI), gwyddor data a data mawr i foderneiddio ystadegau swyddogol ar lefelau rhanbarthol, cenedlaethol a byd-eang. Roeddent hefyd yn cefnogi mentrau byd-eang i ddod o hyd i ffynonellau data amgen i lenwi bylchau data sy’n gysylltiedig â Nodau Datblygu Cynaliadwy a dangosyddion agenda 2030.
  • Fe wnaeth SYG ddatblygu a chyhoeddi protocol ar gyfer asesu ansawdd a gwerth y gall ffynonellau data meintiol answyddogol eu hychwanegu at fesur cynnydd tuag at y Nodau Datblygu Cynaliadwy, fel rhan o ehangu’r data a ddefnyddir a chefnogi’r ethos o “wneud yr anweladwy yn weladwy. ” Bydd yr angen am brotocol tebyg ar gyfer ffynonellau data ansoddol yn cael ei asesu yn ystod 2023.
  • Mae’r SYG wedi treialu ymchwil ansoddol arloesol i archwilio cynwysoldeb a chynrychioldeb mewn data gweinyddol. Maent yn parhau â’r ymchwil hwn ac ar hyn o bryd yn archwilio dulliau newydd (meintiol ac ansoddol) i ddeall a mesur cynwysoldeb a chynrychioldeb mewn data gweinyddol.
  • Yn 2022, dechreuodd y SYG raglen o ymchwil ansoddol gyda chymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol yn ystadegol, gan ganolbwyntio ar y rhai a amlygwyd yn argymhellion y Tasglu Data Cynhwysol. Defnyddiwyd amrywiaeth o ddulliau arloesol gan gynnwys casglu data gan ymchwilwyr sy’n gymheiriaid, ac ystod o dechnegau arbenigol i alluogi ac annog cyfranogiad gan bobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau. Roedd cyhoeddiadau yn ystod 2022 yn cynnwys:
    • Profiadau pobl anabl o weithgareddau, nwyddau a gwasanaethau
    • Profiadau addysgol pobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau yn Lloegr
    • Profiadau Bywyd Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru a Lloegr.
  • Fe wnaeth yr Uned Anabledd yng Nghanolfan Cydraddoldeb Swyddfa’r Cabinet gomisiynu adolygiad systematig o dystiolaeth mewn perthynas â phrofiadau bywyd pobl anabl yn y DU, i bwyso a mesur ymchwil ansoddol berthnasol a nodi bylchau allweddol mewn dealltwriaeth a blaenoriaethau ar gyfer gwaith pellach. Datblygwyd cronfa ddata yn 2022 sy’n adnodd mewnol ar gyfer nodi deunydd perthnasol ar gyfer adroddiadau thematig ar agweddau ar anabledd.
  • Fe wnaeth y SYG gyfrannu at adroddiad gan Gomisiwn Economaidd Cenedlaethol Unedig Ewrop (UNECE) ar gynnal a chadw, diweddaru ac ailhyfforddi modelau dysgu peirianyddol. Roedd hyn yn cynnwys adolygiad o lenyddiaeth ar ragfarn gymdeithasol mewn modelau dysgu peirianyddol a hyfforddwyd ymlaen llaw a dulliau dad-dueddu posibl. Mae’r ymchwil hwn yn parhau.
  • Mae’r SYG wedi parhau i ymchwilio i ddulliau gwell o gysylltu data, fel rhan o’r Adolygiad Data Cydgysylltiedig yn y Llywodraeth. Llwyddodd y gwaith cysylltu a gwblhawyd fel rhan o Gyfrifiad 2021 i sicrhau cysylltiadau ansawdd uchel ac effeithlon drwy ddefnyddio technegau lluosog gan gynnwys dulliau arloesol megis dysgu peirianyddol. Mae deall a lleihau tuedd cysylltiadau yn ffocws o fewn y gwaith hwn.
  • Mae’r SYG yn cynnal rhaglen waith sy’n archwilio strategaethau ar gyfer priodoli yng nghyd-destun data gweinyddol cysylltiedig ac yn gwerthuso effaith diffyg sy’n cronni oherwydd gwallau cysylltu neu ddiffyg ymdriniaeth ac a all gyflwyno rhagfarn yn y canfyddiadau. Mae prosiectau sydd ar y gweill yn cynnwys ymchwil i ddiffyg data gweinyddol a dulliau i’w nodi ac addasu ar ei gyfer; a datblygu dulliau golygu a phriodoli sy’n addas ar gyfer ffynonellau data gweinyddol lluosog integredig a dulliau o wella methodoleg cysylltu. Mae canfyddiadau cychwynnol wedi’u cyhoeddi ar gynwysoldeb mewn data gweinyddol am boblogaethau yr ystyrir eu bod mewn perygl neu’n anodd eu cyfrif megis y rhai sy’n profi digartrefedd.

  • Bydd y Gwasanaeth Data Integredig (IDS), sydd ar hyn o bryd mewn cyfnod beta cyhoeddus, yn darparu llyfrgell dulliau ystadegol ar gyfer defnyddwyr achrededig yn ogystal â gwasanaethau paru a chysylltu data, y disgwylir iddi fod ar gael yn ddiweddarach yn 2023. Yn 2022, creodd y tîm IDS Ased Data Cydraddoldeb prawf-cysyniad, sy’n cael ei brofi ar hyn o bryd gan Wasanaeth Ymchwil Diogel (SRS) y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), gyda’r nod o greu fersiwn mwy hygyrch yn yr IDS yn 2023. Mae’r tîm IDS hefyd mewn trafodaethau ynghylch amlyncu Cronfa Ddata Ymchwil Iechyd y Cyhoedd a data Cyfrifiad 2011, sy’n gysylltiedig â Chyfrifiad 2021. Mae rhai data sydd eu hangen eisoes o fewn IDS, megis data Cyfrifiad 2021, yn ogystal â chofnodion genedigaethau a marwolaethau a fydd yn galluogi mewnwelediadau mwy gronynnog i mewn i gydraddoldeb a chroestoriad. Fodd bynnag, nid yw’r cofnodion genedigaethau a marwolaethau ar hyn o bryd mewn ffurf y gellir ei chysylltu a disgwylir iddynt gael eu mynegeio yn ôl y gwasanaeth paru yn ystod 2023 a fydd yn caniatáu dadansoddiad cyfoethocach.
  • Mae llawer o’r ymchwil i drawsnewid ystadegau am y boblogaeth wedi canolbwyntio ar fanteision cysylltu data er mwyn sicrhau gwell ystadegau ynghylch poblogaeth, mudo ac ystadegau cymdeithasol, fel y cyfeirir ato yn yr adroddiad hwn. Ymhellach, cyhoeddodd y SYG gynllun lefel uchel ar gyfer Ased Data Cyfrifiad yn 2022. Byddai hon yn astudiaeth gyswllt arfaethedig gwbl gynrychiadol a chynhwysol ar gyfer y boblogaeth, gan ddefnyddio data arolwg a gweinyddol perthnasol, ac astudiaethau ethnograffig. Byddai’n galluogi dadansoddiad gronynnog, hydredol o grwpiau poblogaeth amrywiol.
  • Yn 2022, fe fu Canolfan Cydraddoldeb Swyddfa’r Cabinet yn gweithio gyda’r SYG i ddatblygu set ddata gysylltiedig yn darparu data genedigaethau a marwolaethau babanod yn ôl ethnigrwydd mamau ochr yn ochr â newidynnau economaidd-gymdeithasol eraill o Gyfrifiad Cymru a Lloegr. Bydd hyn yn galluogi mewnwelediad i wahaniaethau iechyd mamau, gan ganiatáu i ymyriadau mwy targedig gael eu datblygu. Bydd ystadegau disgrifiadol o’r set ddata hon yn cael eu cyhoeddi ar ffeithiau a ffigurau Ethnigrwydd yn 2023; yn ogystal, bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cynhyrchu dadansoddiad dyfnach o’r risgiau posibl sy’n gysylltiedig â marwolaethau babanod, gan gynnwys ethnigrwydd y fam.
  • Mae’r Adran Ynni, Diogelwch a Sero Net wedi bod yn gweithio gyda’r SYG ac Administrative Data Research UK i gysylltu data o Astudiaeth Hydredol Aelwydydd y DU (Deall Cymdeithas) â data ar ddefnydd ynni cartrefi ymhlith y rhai sy’n rhoi caniatâd ar gyfer y cysylltiad. Bydd hyn yn galluogi archwilio patrymau defnydd ar gyfer gwahanol fathau o gartrefi. Disgwylir i set ddata sy’n barod ar gyfer ymchwil fod ar gael yn y Gwasanaeth Ymchwil Diogel (SRS) yn 2023.
  • Yn 2022, archwiliodd yr Adran ar gyfer Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (DLUHC) y cysylltiad posibl rhwng data digartrefedd statudol (H-CLIC) ag ystod o setiau data trawslywodraethol eraill er mwyn darparu mewnwelediad pellach i ddigartrefedd a chysgu allan. Fel rhan o hyn, mae DLUHC hefyd yn gweithio gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol i gysylltu data ar droseddu, carchardai a phrawf a data digartrefedd i ddeall y berthynas â rhyddhau o garchar, a chyda’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gysylltu data ar driniaeth cyffuriau ac alcohol gyda’r holiadur cysgu allan i ddeall y berthynas â chamddefnyddio sylweddau. Mae’r Adran hefyd yn defnyddio cysylltiadau data i archwilio digartrefedd mynych. Disgwylir i brosiectau peilot cysylltu data gael eu cyflawni yn 2023.

  • Fe wnaeth yr Adran Addysg barhau â’i Astudiaeth Hydredol o Bobl Ifanc yn Lloegr 2 (LSYPE2), yn dilyn carfan o bobl ifanc 13 i 14 oed yn 2013 drwy flynyddoedd olaf addysg orfodol, ac i mewn i fathau eraill o addysg, hyfforddiant, cyflogaeth a gweithgareddau eraill, a chasglu gwybodaeth am lwybrau gyrfa ac ystod o nodweddion personol. Bydd y nawfed don ar gyfer y casgliad data hwn ar gael ar gais yn 2023 i 2024, ochr yn ochr â’r holl donau blaenorol.
  • Mae rhaglen Astudiaethau Paneli Addysg a Chanlyniadau (EOPS) yr Adran Addysg wedi cynllunio tair astudiaeth garfan newydd. Bydd Plant yr 2020au (EOPS-A) yn dilyn plant rhwng 9 mis a 5 oed. Mae’r astudiaeth hon wedi’i pheilota a gwaith maes ton un wedi’i gynnal, gyda thonnau pellach i’w cynnal yn ystod 2023. Bydd Pump i Ddeuddeg (EOPS-B) yn dilyn plant o’u haddysg gynradd yn gynnar (blynyddoedd un neu ddwy) hyd at ddiwedd yr ysgol gynradd. (blwyddyn chwech). Mae’n cael ei dreialu ar hyn o bryd a bydd yn defnyddio meini prawf cymhwysedd Prydau Ysgol Am Ddim o’r Gronfa Ddata Disgyblion Genedlaethol i orsamplu disgyblion dan anfantais, a deall yn well y berthynas rhwng cyrhaeddiad, anfantais ac ystod o nodweddion personol a chartref. Mae Tyfu i Fyny yn yr 2020au (EOPS-C) yn astudiaeth gyfatebol ar gam tebyg sy’n canolbwyntio ar ddisgyblion ysgol uwchradd.

  • Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn sicrhau bod setiau data nad ydynt yn gysylltiedig neu gyfunol sy’n cynnwys dadansoddi data o Gyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru a Lloegr yn cael eu cymeradwyo gan y byrddau moesegol perthnasol cyn dechrau unrhyw waith dadansoddi. Mae’r SYG yn cyflwyno cynigion yn rheolaidd ar gyfer unrhyw gysylltiad data â byrddau moesegol ac yn sicrhau bod y gweithgaredd hwn yn cydymffurfio â pholisïau Rheoli Datgelu Ystadegol, yn ôl yr angen.
  • Mae hyn hefyd yn berthnasol i waith y SYG sy’n gysylltiedig â thrawsnewid ystadegau am y boblogaeth, lle mae gwaith ystadegol yn cael ei adolygu a’i sicrhau drwy sianeli ffurfiol (megis y Panel Adolygu Sicrwydd Methodolegol) a bod yr holl astudiaethau cyswllt yn cael eu cymeradwyo gan Bwyllgor Cynghori Moeseg Data yr Ystadegydd Cenedlaethol. Yn yr un modd, bydd trawsnewid arolygon y SYG yn cael ei adolygu a’i sicrhau drwy fforymau priodol. Ar gyfer tryloywder, mae cofnodion a phapurau o gyfarfodydd y Panel Adolygu Sicrwydd Methodolegol; a Phwyllgor Cynghori ar Foeseg Data yr Ystadegydd Gwladol hefyd ar gael ar-lein.

Back to top

Cysoni – Egwyddor Data Cynhwysol 7

Dylid adolygu safonau wedi’u cysoni ar gyfer grwpiau a phoblogaethau perthnasol o leiaf bob pum mlynedd a’u diweddaru a’u hehangu lle bo hynny’n angenrheidiol, yn unol â normau cymdeithasol newidiol ac anghenion ymatebwyr a defnyddwyr.

Ynglŷn ag Egwyddor 7

Mae’r egwyddor hon yn gysylltiedig ag Egwyddor Data Cynhwysol 5. Mae’n ymwneud â sicrhau bod y diffiniadau, y safonau a’r canllawiau ar gyfer casglu data ar wahanol grwpiau o’r boblogaeth, boed hynny drwy arolygon neu drwy ddefnyddio data a gesglir at ddibenion gweinyddol, yn cyd-fynd â’r newid yn y gymdeithas. DU. Mae cysoni diffiniadau yn ystod y cam casglu data yn alluogwr allweddol i gyflawni cymaroldeb data ar draws pedair gwlad y DU.

Cyflawniadau hyd yn hyn

Yn gyffredinol, roedd 12 o fentrau yn y Cynllun Gweithredu yn canolbwyntio’n benodol ar feysydd sy’n berthnasol i sicrhau bod safonau wedi’u cysoni yn cael eu hadolygu a’u diweddaru’n rheolaidd. O’r rhain, roedd y rhan fwyaf (naw) naill ai wedi’u cwblhau neu ar y gweill ac ar amser ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach ym mis Mawrth 2023.

  • Fel rhan o’r gweithgarwch ymgysylltu â defnyddwyr sy’n cefnogi argymhelliad yr Ystadegydd Gwladol yn 2023 ar ddyfodol y cyfrifiad ac ystadegau poblogaeth, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn chwarae rhan weithredol yn rhyngwladol wrth ddatblygu safonau wedi’u cysoni. Mae hyn yn cynnwys cymryd rhan yn Nhasglu Comisiwn Economaidd Ewrop y Cenhedloedd Unedig (UNECE) ar Gysyniadau a Diffiniadau Poblogaeth, a ddechreuodd gyfarfod ym mis Chwefror 2023. Bydd hyn yn sicrhau bod datblygu safonau a diffiniadau newydd yn parhau i dynnu ar gydweithio rhyngwladol ac arfer gorau.
  • Mae Grŵp Dinas Titchfield dan arweiniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar Ystadegau sy’n Gysylltiedig â Heneiddio a Data wedi’u Dadgyfuno ag Oedran wedi parhau i weithio gyda’r gymuned ryngwladol i ddatblygu canllawiau cyfeirio. Mae hyn yn cynnwys aelodau o Swyddfeydd Ystadegol Cenedlaethol, asiantaethau’r Cenhedloedd Unedig, asiantaethau amlochrog a dwyochrog, academyddion, a sefydliadau cymdeithas sifil.

  • Cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) Gynllun Gwaith Cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth (GSS) ym mis Chwefror 2022 fel y cytunwyd gyda’r gweinyddiaethau datganoledig a Hyb Cydraddoldeb Swyddfa’r Cabinet. Mae’n dangos cynlluniau i adolygu a diweddaru safonau a chanllawiau wedi’u cysoni ar gyfer y mesurau cysyniadol sy’n ymwneud â nodweddion cydraddoldeb. Cyhoeddwyd diweddariad ar gynnydd ym mis Rhagfyr 2022. Yn ogystal, yng ngwanwyn 2023, cyhoeddodd y tîm cysoni ganfyddiadau o’u hymchwil a’u hymgysylltiad i Iechyd Meddwl, Anabledd ac Ethnigrwydd.
  • Mae mecanweithiau llywodraethu newydd i fonitro a chyflawni’r Cynllun Cysoni GSS wedi’u sefydlu fel rhan o’r trefniadau a sefydlwyd i fonitro a llywio cynnydd yn erbyn argymhellion y TDC [Tasglu Data Cynhwysol]. Mae’r cynllun cysoni’n cael ei lywodraethu gan y Pwyllgor Dadansoddi a Gwerthuso GSS ac mae’n cael ei graffu’n allanol gan Bwyllgor Cynghori ar Ddata Cynhwysol yr Ystadegydd Gwladol annibynnol (gweler Egwyddor Data Cynhwysol 2).
  • Mae Canolfan Cydraddoldeb Swyddfa’r Cabinet a’r SYG wedi cynyddu’r cydweithredu ar gysoni data drwy weithio’n agos ar adolygu safonau a chanllawiau ar gyfer casglu data ar nodweddion personol. Mae hyn yn cynnwys prosiect ar y cyd i adolygu’r defnydd o iaith yn ymwneud ag ethnigrwydd.
  • Ym mis Rhagfyr 2022, cyhoeddodd y SYG Gynllun Gwaith Cydlyniant GSS wedi’i ddiweddaru. Mae’n nodi cynlluniau i wella cydlyniad yr ystadegau a gynhyrchir ar draws y llywodraeth a phedair gwlad y DU. Mae chwe phrosiect wedi’u cwblhau yn ystod 2022 i 2023 ar y testunau argaeledd trafnidiaeth gyhoeddus, ansawdd swyddi, data adeiladu tai, iechyd (ysmygu), setiau data newydd ar gyfer masnach mewn nwyddau a gwasanaethau a hwb sampl a gymhwyswyd i’r arolwg masnach ryngwladol mewn gwasanaethau.
  • Ym mis Mai 2022, cyhoeddodd y SYG gynllun gwaith is-genedlaethol SYG i nodi ymrwymiad cyhoeddus i sut y byddent yn cyflawni’r strategaeth ddata is-genedlaethol, a chyda chymorth yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (DLUHC), sefydlodd y SYG raglen waith i ddatblygu ystadegau a dadansoddiad mwy gronynnog. Yn ystod 2022 i 2023 mae’r SYG, unwaith eto gyda chymorth DLUHC, wedi creu gwasanaeth cynghori dadansoddol lleol newydd gyda’r uchelgais i gwmpasu pedair gwlad y DU, a elwir yn SYG Lleol. Y nod yw sicrhau bod arweinwyr lleol a sefydliadau is-genedlaethol yn gallu cyrchu a defnyddio data, ystadegau a dadansoddiadau i gefnogi eu penderfyniadau. Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei gynllunio ar y cyd â dadansoddwyr lleol ledled Lloegr a’r Prif Ystadegydd ym mhob un o’r gweinyddiaethau datganoledig.

  • Yn 2022, comisiynodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) a Chanolfan Cydraddoldeb Swyddfa’r Cabinet ymchwil ar y cyd fel rhan o’r gwaith o ddatblygu safon newydd wedi’i chysoni ag ethnigrwydd ac ar gyfer ymateb Swyddfa’r Cabinet i gamau gweithredu o’r adroddiad Inclusive Britain. Roedd yr ymchwil yn cynnwys cymysgedd o drafodaethau grŵp a chyfweliadau manwl gyda chyfranogwyr yn nodi eu bod yn aelodau o wahanol grwpiau ethnig. Gwahoddwyd cyfranogwyr y grwpiau ffocws hefyd i gymryd rhan mewn tasg i nodi iaith a therminoleg ethnigrwydd cynhwysol a sy’n gwarthnodi. Fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad diweddaru Prydain Gynhwysol, mae’r ymchwil ar ganfyddiadau o ethnigrwydd wedi’i gyhoeddi, ac mae Swyddfa’r Cabinet hefyd wedi cyhoeddi safonau wedi’u diweddaru ar gyfer data ethnigrwydd. Mae’r safonau hyn yn dwyn ynghyd arfer gorau a chanllawiau ynghylch data ethnigrwydd. Maent yn rhoi gwybodaeth i gynhyrchwyr data’r sector cyhoeddus a defnyddwyr data am sut i gasglu, dadansoddi ac adrodd yn well ar ddata ethnigrwydd. Mae hyn yn cynnwys pwysigrwydd defnyddio safonau cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth.
  • Mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) wedi rhoi proses newydd ar waith i sicrhau bod ceisiadau ymchwil yn ystyried casglu data nodweddion gwarchodedig ar gyfer unigolion. Bydd hyn yn galluogi gwerthuso gwahaniaethau mewn canfyddiadau rhwng grwpiau gwarchodedig a gwella amrywiaeth y cyfranogwyr. Yn ogystal, mae CThEF yn drafftio safonau casglu data ar gyfer casglu data nodweddion gwarchodedig i gwmpasu’r rhai a gesglir ar hyn o bryd ac a allai gael eu casglu yn y dyfodol.
  • The Daeth Consortiwm Trais, Iechyd a Chymdeithas (VISION) (City, Prifysgol Llundain) a ariennir gan Bartneriaeth Ymchwil Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI PRP) â chynhyrchwyr data a defnyddwyr data yn y meysydd perthnasol ynghyd yng nghynhadledd flynyddol VISION ym mis Medi 2022 a cyfarfodydd Bwrdd Cynghori VISION ym mis Rhagfyr 2022 a mis Mai 2023, gan ddarparu fforwm ar gyfer ymgysylltu i alluogi cysoni data.

Back to top

Hygyrchedd – Egwyddor Data Cynhwysol 8

Sicrhau bod data a thystiolaeth y DU yr un mor hygyrch i bawb, tra’n diogelu hunaniaeth a chyfrinachedd y rhai sy’n rhannu eu data.

Ynglŷn ag Egwyddor 8

Dim ond os ydynt ar gael ac yn hygyrch i bawb y gellir gwireddu potensial llawn data a thystiolaeth. Cydnabu’r Tasglu’r cyfoeth o ddata a thystiolaeth werthfawr sydd eisoes ar gael mewn amrywiaeth o fformatau i ddiwallu ystod eang o anghenion. Fodd bynnag, yn eu hargymhellion, amlygwyd meysydd penodol lle y gellid gwella hygyrchedd, tra’n parhau i sicrhau bod hunaniaeth a chyfrinachedd y bobl sy’n rhoi eu data yn cael eu diogelu. Oherwydd hynny fe wnaethon nhw ganolbwyntio ar:

  • creu un adnodd i archwilio a chael mynediad at holl ddata a dadansoddiadau cydraddoldeb y DU mewn un lle
  • gwella mynediad at ddata gweinyddol, at y data crai i’w defnyddio gan ddadansoddwyr ac at allbynnau cyhoeddedig hygyrch i’r rhai sydd â diddordeb mewn deall yr hyn y maent yn ei ddangos
  • datblygu offer ar-lein newydd hawdd eu defnyddio sy’n galluogi unrhyw un sydd â diddordeb i archwilio setiau data sy’n bodoli eisoes
  • sicrhau bod allbynnau ar gael i gynulleidfaoedd amrywiol, gan ystyried gwahaniaethau o ran iaith, llythrennedd, fformat a dealltwriaeth.

Llwyddiannau hyd yn hyn

O’r 23 o ymrwymiadau sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun gweithredu sylfaenol gyda’r nod o wella hygyrchedd data a thystiolaeth, roedd y rhan fwyaf (21) naill ai wedi’u cwblhau neu ar y gweill ac ar y trywydd iawn erbyn diwedd mis Mawrth 2023.

  • Drwy gydol 2022, ystyriodd Canolfan Cydraddoldeb a Chynhwysiant y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yr opsiynau ar gyfer darparu adnodd data a dadansoddi cydraddoldeb canolog, archwiliadwy a hygyrch ar gyfer y DU gyfan yn unol ag argymhellion TDC. Arweiniodd hyn at benderfyniad i archwilio dichonoldeb datblygu ‘porth data cydraddoldeb’ i’w gynnal gan y Gwasanaeth Data Integredig yn 2023.

  • Mae’r Swyddfa Gartref wedi bod yn gweithio gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) i ddatblygu set ddata gysylltiedig, yr astudiaeth garfan Canlyniadau Integreiddio Ffoaduriaid (RIO), i ddeall yn well y canlyniadau ar gyfer ffoaduriaid a ailsefydlwyd a’r rhai y rhoddwyd lloches iddynt (gweler Egwyddor Data Cynhwysol 3). Y cynllun yw ehangu mynediad i’r set ddata hon i’r gymuned ymchwil ehangach.
  • Fel rhan o’u gwaith yn arwain menter didwylledd data gyda Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau a’r SYG (prosiect rhannu data GRADE), mae’r Swyddfa Cymwysterau a Rheoleiddio Arholiadau wedi sicrhau bod micro-ddata gweinyddol perthnasol ar gael i ymchwilwyr achrededig drwy Wasanaeth Ymchwil Diogel (SRS) SYG. Mae hyn yn galluogi ymchwil annibynnol yn seiliedig ar ddata â ffugenw, gan gynnwys caniatáu craffu ar ddyfarnu graddau ac yn arbennig ar grwpiau gwarchodedig. Bydd data pellach yn cael eu rhannu yn y dyfodol yn dibynnu ar y galw.
  • Yng Ngogledd Iwerddon (GI) datblygwyd y Cyswllt Canlyniadau Addysgol (EOL) fel rhan o fenter Ymchwil Data Gweinyddol Gogledd Iwerddon a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) i alluogi ymchwilwyr achrededig i gael mynediad at ddata gweinyddol cysylltiedig a gesglir gan yr Adran Addysg. Lansiwyd y set ddata ym mis Mawrth 2023 ac fe’i hystyrir yn gam un o brosiect ehangach i greu cronfa ddata Canlyniadau Addysgol Hydredol Gogledd Iwerddon a fydd yn cael ei datblygu ar y cyd â’r Adran Addysg, Adran yr Economi ac academyddion ym Mhrifysgolion Queen’s ac Wlster.

  • Mae’r Adran Addysg wedi ymgorffori dadansoddiadau Prydau Ysgol am Ddim yn y datganiad ystadegau swyddogol ‘Ysgolion, disgyblion a’u nodweddion’.
  • Yn ystod 2022, cyhoeddodd y Swyddfa Myfyrwyr set ddata manylach fel rhan o’u cyhoeddiadau blynyddol presennol ar gydraddoldeb ac amrywiaeth ymhlith myfyrwyr addysg uwch a’u canlyniadau addysgol. Roedd hyn yn cynnwys nodweddion myfyrwyr ychwanegol, nad ydynt wedi’u hadrodd yn unman arall, ynghyd â gwybodaeth ynghylch ansawdd data.
  • Mae Llywodraeth yr Alban wedi bod yn bwrw ymlaen â gwaith i wella’r dadansoddiadau cydraddoldeb sydd ar gael o ddangosyddion y Fframwaith Perfformiad Cenedlaethol (NPF) ac mae gwaith yn mynd rhagddo i wella tryloywder lle na ddarperir dadansoddiadau ar hyn o bryd.

  • Yn 2022, cyflwynodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) nifer o fentrau gan gynnwys:
    • dangosfwrdd rhyngweithiol ar ystadegau troseddu a chyfiawnder. Roedd hyn yn helpu defnyddwyr i lywio ystadegau cyhoeddedig a gynhyrchwyd gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr yn ymwneud â throseddau yn cynnwys cyllyll neu offer miniog ac effaith troseddu ar unigolion a chymdeithas (niwed troseddol)
    • “Creu Set Ddata Bwrpasol” fel rhan o allbynnau Cyfrifiad 2021. Mae’r offeryn hwn yn galluogi pobl i ddefnyddio data Cyfrifiad 2021 Cymru a Lloegr i ateb cwestiynau nad ydynt wedi’u cynnwys yn nadansoddiad SYG. Mae’r SYG hefyd wedi creu mapiau rhyngweithiol sydd wedi galluogi miliynau o bobl i ddarganfod sut oedd bywydau pobl ledled Cymru a Lloegr ym mis Mawrth 2021
    • lansio’r gyfrifiannell chwyddiant personol ar-lein sy’n galluogi defnyddwyr i weld sut mae cynnydd mewn costau byw wedi effeithio arnynt yn ystod y flwyddyn ddiwethaf
    • offeryn cymharu prisiau siopa i alluogi pobl i ddeall sut mae pris cyfartalog eitemau yn newid dros amser
    • cyrraedd dinasyddion trwy gynnwys cryno ar lwyfannau, gan gynnwys Instagram
  • Fel y trafodwyd o dan Egwyddor Data Cynhwysol 4, gyda chymorth gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau (DLUHC), mae’r SYG wedi sefydlu rhaglen waith i ddatblygu ystadegau a dadansoddiadau mwy gronynnog sy’n manteisio ar ffynonellau data newydd, delweddu data ac offer lledaenu sy’n gwneud y mewnwelediadau hyn yn fwy hygyrch a hawdd eu defnyddio. Mae llawer o’r gwaith hwn yn galw am ddatblygu dulliau newydd o ymdrin â heriau megis dosrannu gweithgarwch busnes ar draws safleoedd sydd wedi’u lleoli mewn mannau gwahanol a chynnal ystadegau nad ydynt yn datgelu gwybodaeth am fusnesau unigol.
  • Hefyd, gyda chefnogaeth DLUHC, nod y SYG wrth greu gwasanaeth cynghori dadansoddol lleol newydd gyda’r uchelgais o gwmpasu pedair gwlad y DU, a elwir yn SYG Lleol, yw sicrhau bod arweinwyr lleol a sefydliadau is- genedlaethol yn gallu cyrchu a defnyddio data, ystadegau, a dadansoddi i gefnogi eu penderfyniadau. Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei gyd-gynllunio â dadansoddwyr lleol ledled Lloegr a’r Prif Ystadegydd ym mhob un o’r gweinyddiaethau datganoledig.
  • Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Canolfan Cydraddoldeb Swyddfa’r Cabinet wedi bod yn ymchwilio i anghenion defnyddwyr ar gyfer dangosfyrddau data archwiliadol. Mae’r gwaith o ddatblygu’r dangosfyrddau’n parhau, a disgwylir i’r dangosfwrdd cyntaf, ar ddata symudedd cymdeithasol, gael ei gyhoeddi ym mis Medi 2023.
  • Yn dilyn profion manwl gan ddefnyddwyr yn 2022, bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu syllwr rhyngweithiol ar y we i gyflwyno canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol, gan wella hygyrchedd tra’n parhau i gynnal y symlrwydd sy’n bwysig i ddefnyddwyr.
  • Yn ystod 2022 i 2023, cyflwynodd yr Adran Addysg ddangosfyrddau atodol ochr yn ochr â nifer o’u cyhoeddiadau i gynyddu hygyrchedd data a dadansoddiadau ac mae hwn bellach yn gynnig safonol ar gyfer cyhoeddiadau priodol. Mae profi hefyd wedi dechrau ar brototeip o Ryngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau data cyhoeddus (API) a fydd yn darparu llwybr newydd at gyrchu ystadegau adrannol.
  • Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) wedi bod yn diweddaru ei Fframwaith Dangosyddion Canlyniadau ar gyfer dangosfwrdd digidol Cynllun yr Amgylchedd 25 Mlynedd ochr yn ochr â’r dystiolaeth wyddonol greiddiol. Mae ystyried hygyrchedd data’n ganolog i ddatblygiad parhaus y dangosfwrdd.
  • Mae tîm Arolwg Pobl a Natur Defra hefyd wedi datblygu archwiliwr data Arolwg Pobl a Natur i ddarparu mynediad i ddata ar-lein. Gellir dadansoddi’r data yn ôl newidynnau demograffig amrywiol, gan gynnwys rhywedd, ethnigrwydd, a chyflwr iechyd neu salwch.
  • Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi sicrhau bod data o’r Arolwg Adnoddau Teuluol ar gael yn eu hofferyn ar-lein Stat-Xplore, gan alluogi defnyddwyr i greu tablau sy’n benodol i’w hanghenion.
  • Ym mis Chwefror 2023, cyhoeddodd y Swyddfa Gwella Iechyd a Gwahaniaethau ei dangosfwrdd Sbotolau, i wella hygyrchedd data sy’n cofnodi canlyniadau iechyd cyhoeddus grwpiau iechyd Cynhwysiant. Bydd gwaith datblygu pellach yn digwydd mewn modd ailadroddol yn dibynnu ar flaenoriaethau’r llywodraeth a rhanddeiliaid ac argaeledd data. Bydd Sbotolau yn cael ei gynnal a’i ddiweddaru’n barhaus.
  • Mae’r Swyddfa Safonau mewn Addysg, Gwasanaethau Plant a Sgiliau (Ofsted) wedi gweithredu canlyniadau ei hadolygiad diweddar o gyhoeddiadau ystadegol, a gymeradwywyd gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR), gan gynnwys camau gweithredu i ddileu hen gynhyrchion data ar-lein o blaid setiau data pum mlynedd sy’n cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG) 2.1 wrth iddynt barhau i ymchwilio i lwyfannau rhyngweithiol amgen.
  • Mae Asiantaeth Ymchwil ac Ystadegau Gogledd Iwerddon (NISRA) wedi parhau i ddatblygu delweddau data newydd gan gynnwys Archwiliwr Ardal Cyfrifiad 2021, Dangosfwrdd Llesiant a Dangosfwrdd Mewnwelediad o’r Farchnad Lafur. Mae rhagor o enghreifftiau ar gael ar wefan NISRA.
  • Fe wnaeth y Weinyddiaeth Gyfiawnder lansio’r Hyb Data a Mewnwelediadau (DIH) ganol 2022, sy’n hwyluso mynediad at ddata corfforaethol y Weinyddiaeth Gyfiawnder at ddefnydd mewnol. Gall defnyddwyr gael y data corfforaethol mewnol y maent ei eisiau neu ei angen ac mae rhwydwaith hyrwyddwyr data wedi’i sefydlu i weithio ar wella llythrennedd data, gan alluogi hyder a gallu o ran defnyddio offer data, dangosfyrddau ac apiau a ryddheir drwy’r DIH.

  • Ym mis Ebrill 2022, cyhoeddodd Hyb Cydraddoldeb Swyddfa’r Cabinet flog yn annog pobl i beidio â defnyddio’r term ‘BAME’. Maent hefyd wedi cyhoeddi diweddariad ar gynnydd i adroddiad Prydain Gynhwysol, gan gynnwys canfyddiadau ymchwil gyda phobl o wahanol grwpiau ethnig i ddeall yn well yr iaith a’r derminoleg y maent yn uniaethu â nhw. Bydd Swyddfa’r Cabinet yn parhau i adolygu sut mae sylw yn y cyfryngau i faterion hil ac ethnigrwydd yn effeithio ar y cymunedau sy’n cael sylw a datblygu argymhellion i annog adroddiadau cyfrifol a chywir ar faterion ethnigrwydd.
  • Mae Swyddogaeth Ddadansoddi’r Llywodraeth wedi cynhyrchu e-ddysgu newydd, sy’n esbonio dulliau arfer gorau o greu a chyhoeddi delweddau data sylfaenol.
  • Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi cyflwyno ei dadansoddiad a’i thystiolaeth mewn ffyrdd newydd a hygyrch. Mae hyn yn cynnwys gwneud Arolwg Dilynol Ymateb Dyngarol y DU yn hygyrch mewn Wcreineg a chreu gwahanol fformatau adroddiadau a fideos i rannu canfyddiadau ymchwil ansoddol i blant ag Anghenion Addysgol Arbennig ac Anableddau.
  • Gan adeiladu ar y gwaith hygyrchedd a wnaed fel rhan o’r gwaith o gyflawni Cyfrifiad 2021, mae’r SYG wedi cynnull gweithgor i fwrw ymlaen â datblygu cyfathrebu hygyrch.
  • Fel rhan o’i gwaith i ddatblygu argymhelliad yr Ystadegydd Gwladol ar drawsnewid ystadegau am y boblogaeth, mae’r SYG wedi cynnal rhaglen ymgysylltu â defnyddwyr ar raddfa fawr, gan geisio adborth ar ei chyhoeddiadau a’i gwefan.
  • Mae’r Swyddfa Gartref wedi cyflwyno canllawiau hygyrchedd digidol penodol ar gyfer dadansoddwyr sy’n cynhyrchu ystadegau ac ymchwil a gyhoeddir ar GOV. UK, i sicrhau bod y rhain yn hygyrch i bawb. Yn ogystal, mae grŵp newydd o hyrwyddwyr Hygyrchedd Digidol o fewn y gymuned ddadansoddol yn gweithio i wella hygyrchedd cynnyrch ystadegol ac adroddiadau ymchwil ar gyfer defnyddwyr mewnol ac allanol.
  • Mae tîm Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDGs) y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Hyb Cydraddoldeb Swyddfa’r Cabinet, yr Adran Addysg a’r Swyddfa Myfyrwyr wedi ymgorffori asesiadau rheolaidd o hygyrchedd yn eu prosesau a’u llwyfannau cyhoeddi.
  • Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a’r Cydbwyllgor Cadwraeth Natur yn adolygu Dangosyddion Bioamrywiaeth a byddant yn rhoi’r argymhellion hygyrchedd ar waith yn ystod 2023. Bydd yr adroddiad a’r argymhellion yn cael eu cyhoeddi yn 2023.
  • Mae’r Swyddfa Gartref, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a’r AdranFfyniant Bro, Tai a Chymunedau i gyd wedi gwneud cynnydd da o ran sicrhau bod eu cyhoeddiadau ar gael mewn fformat HTML.
  • Ochr yn ochr â symud cyhoeddiadau i fformat HTML a gwella tablau ategol seiliedig ar daenlenni, mae’r AdranFfyniant Bro, Tai a Chymunedau hefyd wedi bod yn dylunio dangosfyrddau data rhyngweithiol ar ystod o ddangosyddion awdurdodau lleol i fodloni safonau Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG), gan wella hygyrchedd i bobl lliwddall a rhannol ddall a’r ffordd y mae darllenwyr sgrin yn rhyngweithio â’u dangosfyrddau.
  • Mae Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon (NISRA) yn datblygu cyhoeddiadau HTML i wneud eu hallbynnau’n fwy hygyrch. Mae enghreifftiau’n cynnwys cyhoeddiadau ar gyfer Credyd Cynhwysol, Amseroedd Aros Canser, Cofrestriadau Blynyddol mewn ysgolion cymorth grant, Adroddiad misol y Farchnad Lafur ac Agweddau at gerdded, beicio a chludiant cyhoeddus. Bydd mwy o gyhoeddiadau yn cael eu datblygu ar ffurf HTML wrth i Biblinellau Dadansoddol Atgynhyrchadwy gael eu rhoi ar waith ar draws NISRA i gyd.

Back to top
Download PDF version (956.81 KB)