Ymgorffori Cynwysoldeb yn nata’r DU: diweddariad 2023 ar weithredu argymhellion Data Cynhwysol

Published:
4 January 2024
Last updated:
4 January 2024

Crynodeb gweithredol

Roedd y Cynllun Gweithredu’n crynhoi gwybodaeth am ystod eang o 205 o fentrau, wedi’u categoreiddio o dan wyth Egwyddor Data Cynhwysol, ar draws y llywodraeth, cymdeithas sifil a’r byd academaidd y disgwylir iddynt gyfrannu at fwy o gynwysoldeb data a thystiolaeth y DU.

O’r 205 o fentrau mae bron i 90% bellach ar y gweill neu eisoes wedi’u cwblhau, tra bod oddeutu 10% wedi’u gohirio, wedi’u dirwyn i ben neu nid oedd gwybodaeth am eu cynnydd ar gael ar adeg cyhoeddi. Yn gyffredinol, mae hyn yn awgrymu bod cynnydd cryf wedi’i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf, er ei bod yr un mor bwysig nodi lle mae cynnydd wedi bod yn fwy heriol a pham, er mwyn i ni allu nodi sut y gellir goresgyn rhwystrau i lwyddiant.

Ffigur 1: Statws gweithgareddau Cynllun Gweithredu’r Tasglu Data Cynhwysol (TDC) (coch, ambr, gwyrdd)

A bar chart showing red, amber and green progress of Inclusive Data Taskforce Initiatives. The chart shows that 70% of the initiatives are green, 9% are red, 3% are amber. The chart also shows that 18% of the initiatives are completed.

Ffynhonnell: Gweithgareddau’r Tasglu Data Cynhwysol

 

Yr wyth Egwyddor Data Cynhwysol a amlinellwyd gan y Tasglu Data Cynhwysol (TDC) yw:

Egwyddor Data Cynhwysol 1 – Ymddiriedaeth

Creu amgylchedd o ymddiriedaeth a dibynadwyedd sydd yn caniatáu ac yn annog pawb i gyfrif a chael eu cyfrif yn nata a thystiolaeth y DU.

Egwyddor Data Cynhwysol 2 – Gweithio Systemig

Cymryd ymagwedd system gyfan, gan weithio mewn partneriaeth ag eraill i wella cynwysoldeb data a thystiolaeth y DU.

Egwyddor Data Cynhwysol 3 – Cwmpas

Sicrhau bod pob grŵp yn cael ei gofnodi’n gadarn ar draws meysydd allweddol o fywyd yn nata’r DU ac adolygu arferion yn rheolaidd.

Egwyddor Data Cynhwysol 4 – Dadgyfuno

Gwella seilwaith data’r DU i alluogi dadgyfuno cadarn a dibynadwy a dadansoddiad croestoriadol ar draws yr ystod lawn o grwpiau a phoblogaethau perthnasol, ac ar wahanol lefelau o ddaearyddiaeth.

Egwyddor Data Cynhwysol 5 – Cysyniadau

Sicrhau priodoldeb ac eglurder ynghylch y cysyniadau sy’n cael eu mesur ar draws yr holl ddata a gesglir.

Egwyddor Data Cynhwysol 6 – Dulliau

Ehangu’r ystod o ddulliau a ddefnyddir yn rheolaidd a chreu dulliau newydd o ddeall profiadau ar draws poblogaeth y DU.

Egwyddor Data Cynhwysol 7 – Cysoni

Dylid adolygu safonau wedi’u cysoni ar gyfer grwpiau a phoblogaethau perthnasol o leiaf bob pum mlynedd a’u diweddaru a’u hehangu lle bo angen, yn unol â normau cymdeithasol newidiol ac anghenion ymatebwyr a defnyddwyr.

Egwyddor Data Cynhwysol 8 – Hygyrchedd

Sicrhau bod data a thystiolaeth y DU yr un mor hygyrch i bawb, tra’n diogelu hunaniaeth a chyfrinachedd y rhai sy’n rhannu eu data.

 

Er y gall pob un o’r 205 o fentrau a ddisgrifir yn y Cynllun Gweithredu llinell sylfaen wneud cyfraniad cyfunol pwysig at wella cynwysoldeb ar draws system ystadegol y DU, mae mentrau penodol, sy’n drawsbynciol yn aml, sydd â’r potensial i gyfrannu’n fwy sylweddol a chynaliadwy at y newid sylweddol mewn cynwysoldeb a ragwelir gan y Tasglu Data Cynhwysol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Cysoni safonau a chanllawiau ar gyfer casglu data o ran priodoldeb ac eglurder y cysyniadau sy’n cael eu mesur, gan ganolbwyntio ar nodweddion personol a gwarchodedig
  • Mabwysiadu strategaethau a dulliau gweithredu i wella cwmpas arolygon a ffynonellau data gweinyddol, a gwneud mwy o ddefnydd o’r olaf, i gyrraedd grwpiau o’r boblogaeth sy’n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd
  • Trawsnewid y system ar gyfer cynhyrchu ystadegau am y boblogaeth, gyda’r argymhelliad i’w wneud gan yr Ystadegydd Gwladol ar ddyfodol Cyfrifiad Cymru a Lloegr yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus helaeth yn 2023
  • Datblygu’r Gwasanaeth Data Integredig a fydd yn galluogi gwell dadansoddiad croestoriadol trwy gysylltu data ar draws y Llywodraeth

Mae’r Cynllun yn cwmpasu’r cyfnod 2022 i 2023 hyd at 2024 i 2025. Ym mis Mawrth 2025 byddwn yn gwerthuso’r effaith sydd wedi’i gwneud a lle mae angen gwneud rhagor o waith i barhau i wella cynwysoldeb data a thystiolaeth y DU.

Roedd 24 o fentrau yn y cynllun gweithredu sylfaenol yn canolbwyntio’n benodol ar feysydd sy’n berthnasol i greu amgylchedd o ymddiriedaeth a dibynadwyedd. O’r rhain, roedd y rhan fwyaf (20) naill ai wedi’u cwblhau neu ar y gweill ac ar amser ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach ym mis Mawrth 2023.

Mae nifer o fentrau newydd wedi’u lansio i wella ymgysylltiad â gwahanol grwpiau poblogaeth gyda’r nod o wella ymddiriedaeth a dibynadwyedd mewn ystadegau, er mwyn annog darparu data. Er enghraifft, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi creu Cynulliad SYG i gefnogi deialog reolaidd ar gyflwyno data cynhwysol ag elusennau a chyrff sy’n cynrychioli buddiannau grwpiau o’r boblogaeth sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

Mae nifer o weithgareddau i leihau rhwystrau ymarferol i gyfranogi mewn arolygon wedi’u cwblhau neu ar y gweill gan y SYG megis datblygu deunyddiau i ymatebwyr SYG, gan gynnwys mewn perthynas â hygyrchedd, yn ogystal â thrwy adrannau eraill, gan gynnwys yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Mae gwaith y SYG ar ddatblygu ‘contract cymdeithasol’ gyda chyfranogwyr ymchwil wedi datblygu i fod yn rhaglen waith fwy nag a gynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer 2022, i gydnabod y gallai fod angen mathau penodol o wybodaeth ar wahanol grwpiau poblogaeth i ennyn ymddiriedaeth. Mae’r gwaith hwn yn cael ei ddatblygu gyda phartneriaid allanol ac mae’n parhau rhwng 2023 a 2024.

Roedd 33 o fentrau yn y cynllun gweithredu sylfaenol yn canolbwyntio’n benodol ar feysydd sy’n berthnasol i weithio mewn partneriaeth ar draws system ystadegol y DU, gan sicrhau dull system gyfan. O’r rhain, roedd y rhan fwyaf (31) naill ai wedi’u cwblhau neu ar y gweill ac ar amser ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach ym mis Mawrth 2023.

Mae Pwyllgor Cynghori ar Ddata Cynhwysol newydd ac annibynnol yr Ystadegydd Gwladol eisoes wedi cyfarfod bedair gwaith i ddarparu cyngor tryloyw a monitro cynnydd. Mae mentrau wedi’u gwneud mewn sawl adran gan gynnwys Swyddfa’r Cabinet a’r Adran Addysg i wreiddio cynwysoldeb yn eu sefydliadau, gyda mwy o waith i’w wneud gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) i barhau i annog gwreiddio cynwysoldeb ar draws system ystadegol y DU. Bu llawer o weithgarwch ar rannu gwybodaeth, arferion da ac arloesi ledled y DU ac yn rhyngwladol megis y safonau ar gyfer data ethnigrwydd a gyhoeddwyd gan Ganolfan Cydraddoldeb Swyddfa’r Cabinet. Bydd yn allweddol i hyn barhau i sicrhau bod gwelliannau i ddata a thystiolaeth yn gynaliadwy.

Mae cydweithredu ar systemau ystadegol ledled y DU wedi bodoli ers tro byd, ond crëwyd ffocws ar nodau a rennir i wella cynwysoldeb data. Er enghraifft, cytunwyd ar yr adolygiad o safonau a chanllawiau wedi’u cysoni rhwng y SYG, Canolfan Cydraddoldeb Swyddfa’r Cabinet a’r tair gweinyddiaeth ddatganoledig, ac mae Tasglu wedi’i greu i lunio ‘contract cymdeithasol’ ar gyfer cyfranogwyr ymchwil sydd ag aelodaeth o’r gweinyddiaethau datganoledig yn ogystal ag arbenigwyr allanol. Bellach mae gan y Rhyngweinyddiaeth ffrwd waith ar Gynwysoldeb fel rhan o’i Rhaglen Waith. Lansiwyd Is-bwyllgor Gwasanaeth Ystadegol newydd y Llywodraeth (GSS) ar Ddata Cynhwysol ym mis Mai 2023 a fydd yn cryfhau’r ffocws hwn ymhellach.

Er mwyn galluogi dysgu ehangach, mae adrannau gan gynnwys Swyddfa’r Cabinet, yr Adran Addysg a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi datblygu a chyhoeddi canllawiau rhannu dysgu ar sut i asesu a gwella cynhwysiant ac ansawdd data. Cynhaliodd Llywodraeth yr Alban hefyd gyfres o weithdai i arddangos arfer da a rhannu dysgu.

Roedd 33 o’r 41 o fentrau yn y cynllun gweithredu sylfaenol a oedd yn canolbwyntio ar sicrhau bod yr holl grwpiau’n cael eu cofnodi’n gadarn naill ai wedi’u cwblhau, neu ar y gweill ac yn unol â’r amserlen, ddiwedd mis Mawrth 2023.

Mae rhywfaint o gynnydd da wedi’i wneud yn yr hyn sy’n faes allweddol, sy’n cynnwys dod o hyd i atebion i heriau hirsefydlog ar fylchau mewn data ar gyfer rhai grwpiau poblogaeth. Disgwylir y bydd mwy yn cael ei gyflawni yn y maes hwn wrth i waith dichonoldeb a gwaith strategol arall fynd rhagddo, gan gynnwys astudiaethau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ar ffyrdd o wella cwmpas arolygon, gwella’r broses o gasglu data ar nodweddion personol mewn data gweinyddol er enghraifft drwy’r Swyddfa Gartref, a datblygu ffyrdd o gynyddu’r defnydd o ddata gweinyddol yn gyffredinol.

Mae’r SYG wedi cyflwyno Cynllun Arolwg Addasol ar gyfer yr Arolwg o’r Llafurlu Wedi’i Drawsnewid fel strategaeth ar gyfer mynd i’r afael â thangynrychiolaeth a bydd yn dadansoddi’r canlyniadau hyn yn barhaus i bennu’r camau gweithredu sydd eu hangen i fynd i’r afael ag unrhyw faterion sy’n ymwneud â thangynrychiolaeth. Mae cynnydd y SYG yn parhau ar ddatblygu argymhelliad yr Ystadegydd Gwladol ar ddyfodol y cyfrifiad a chynllun cysylltiedig ystadegau poblogaeth yn y dyfodol, sydd â chynwysoldeb yn ganolog iddo. Bydd yr argymhelliad yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yn haf 2023.

Roedd 25 o fentrau yn y cynllun gweithredu sylfaenol yn canolbwyntio’n benodol ar feysydd sy’n berthnasol i alluogi dadgyfuno a dadansoddi croestoriadol. Roedd pob un naill ai wedi’i gwblhau neu ar y gweill ac ar amser ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach ym mis Mawrth 2023.

Fe fu cynnydd sylweddol ar draws System Ystadegol y Llywodraeth (GSS) i ddatblygu data manylach, gronynnog i alluogi mwy o ddadansoddi croestoriadol. Mae lefel y manylder a gasglwyd wedi cynyddu, er enghraifft casgliad gorfodol yr Adran Addysg o Gynllun Addysg, Iechyd a Gofal ar lefel y plentyn, a meintiau samplau cynyddol gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a’r Adran Gwaith a Phensiynau ar gyfer yr Arolwg Cyfranogiad a’r Arolwg Adnoddau Teuluol, yn y drefn honno.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi cyhoeddi ei Chynllun Gwaith Ystadegau Is-genedlaethol mewn ymateb i Strategaeth Ddata Is-genedlaethol GSS ac wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth sefydlu SYG Lleol, gwasanaeth dadansoddi data lleol gyda’r uchelgais o gwmpasu pedair gwlad y DU.

Bydd ffocws parhaus ar alluogi (trwy rannu data) a chynnal mwy o ddadansoddi croestoriadol yn bwysig rhwng 2023 a 2024. Bydd datblygiad parhaus y Gwasanaeth Data Integredig (IDS) yn allweddol i hyn. Bydd yr IDS, sydd ar hyn o bryd mewn cyfnod beta cyhoeddus, yn darparu llyfrgell dulliau ystadegol ar gyfer defnyddwyr achrededig yn ogystal â gwasanaethau paru a chysylltu data, y disgwylir iddynt fod ar gael yn ddiweddarach yn 2023. Mae’r SYG a Swyddfa’r Cabinet wedi cynhyrchu prototeip ar y cyd o Asedau Data Cydraddoldeb sy’n cysylltu data’r cyfrifiad a pherchnogaeth busnes â datblygiad pellach arfaethedig ar gyfer 2023 i 2024.

Roedd 28 o fentrau yn y cynllun gweithredu sylfaenol yn canolbwyntio’n benodol ar feysydd sy’n berthnasol i sicrhau priodoldeb ac eglurder cysyniadau. O’r rhain, roedd y rhan fwyaf (26) naill ai wedi’u cwblhau neu ar y gweill ac ar amser ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach ym mis Mawrth 2023.

Mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud wrth symud ymlaen ar welliant o ran priodoldeb ac eglurder y cysyniadau sy’n cael eu mesur. Cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) Gynllun Cysoni Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth (GSS) ym mis Chwefror 2022 sy’n nodi’r cynlluniau a’r amserlen ar gyfer adolygu a diweddaru safonau a chanllawiau GSS cyfredol ar gyfer casglu data, ac yn ystod 2022 a 2023 diweddarwyd y canllawiau ar gyfer rhai pynciau. (Gweler Egwyddor Data Cynhwysol 7 am ragor o wybodaeth).

Cyflwynodd y SYG hefyd ddull ymatebydd-ganolog i ddyluniad ei harolygon o’r dechrau i’r diwedd, gyda’r nod o wneud profiad yr arolwg yn un y gellir ei gyfnewid, a chyhoeddodd Geiriadur Data yn darparu diffiniadau, newidynnau a dosbarthiadau a ddefnyddiwyd yng Nghyfrifiad Cymru a Lloegr 2021.

Mae amrywiaeth o gynhyrchwyr ystadegol ar draws y GSS wedi adolygu a diweddaru canllawiau ar gyfer casglu data gan gynnwys Swyddfa’r Cabinet, Llywodraeth yr Alban, Swyddfa Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, yr Adran Drafnidiaeth, yr AdranFfyniant Bro, Tai a Chymunedau a’r Swyddfa Gartref. Bydd y gwaith i barhau i gyflawni Cynllun Cysoni GSS yn allweddol yn 2023 i 2024.

Roedd 19 o fentrau yn y cynllun gweithredu sylfaenol yn canolbwyntio’n benodol ar feysydd sy’n berthnasol i ehangu’r ystod o ddulliau a ddefnyddir a datblygu dulliau newydd. O’r rhain, roedd y rhan fwyaf (15) naill ai wedi’u cwblhau neu ar y gweill ac ar amser ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach ym mis Mawrth 2023.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi rhoi amrywiaeth o raglenni gwaith ar waith, gan gynnwys cyfres arloesol o astudiaethau ymchwil ansoddol cyhoeddedig gyda chymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol yn ystadegol ar brofiadau bywyd pobl anabl yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus, sipsiwn a theithwyr, a phlant ag anghenion addysgol arbennig ac anabledd. Mae’r SYG hefyd wedi parhau i ymchwilio i ddulliau gwell o gysylltu data gan gynnwys dulliau arloesol megis dysgu peirianyddol, gyda’r nod o ddeall a lleihau tuedd cysylltu, ac archwilio strategaethau ar gyfer priodoli yng nghyd-destun data gweinyddol cysylltiedig.

Mae Campws Gwyddor Data SYG wedi cydweithio’n rhyngwladol i gyflymu’r defnydd cyfrifol o ddeallusrwydd artiffisial (AI), gwyddor data a data mawr i foderneiddio ystadegau swyddogol ar lefelau rhanbarthol, cenedlaethol a byd-eang. Mae mentrau eraill ar draws Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth (GSS) yn cynnwys astudiaethau carfan presennol ac arfaethedig yr Adran Addysg a fydd yn gwella data arolygon hydredol ar blant a phobl ifanc er mwyn deall yn well y berthynas rhwng datblygiad, cyrhaeddiad, anfantais ac ystod o nodweddion personol ac aelwyd. Bydd y defnydd o ddulliau dadansoddi soffistigedig yn parhau i fod yn allweddol i alluogi dadansoddiad croestoriadol gwell.

Roedd 12 menter yn y Cynllun Gweithredu yn canolbwyntio’n benodol ar feysydd sy’n berthnasol i sicrhau bod safonau cyson yn cael eu hadolygu a’u diweddaru’n rheolaidd. O’r rhain, roedd y rhan fwyaf (naw) naill ai wedi’u cwblhau neu ar y gweill ac ar amser ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach ym mis Mawrth 2023.

Mae gan yr Egwyddor Data Cynhwysol hon synergedd ag Egwyddor Data Cynhwysol 5. Mae cydweithio cryf wedi parhau ar draws Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth (GSS). Fel y disgrifir yn Egwyddor 5, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) y Cynllun Cysoni GSS ym mis Chwefror 2022 a oedd yn nodi’r cynlluniau a’r amserlen ar gyfer adolygu a diweddaru safonau a chanllawiau GSS cyfredol ar gyfer casglu data; ac fe wnaeth gryfhau llywodraethu’r gwaith hwn ar draws y GSS. Cyhoeddwyd diweddariad ym mis Rhagfyr 2022, gyda chynnydd da’n cael ei wneud.

Yn ystod 2022 i 2023, mae’r SYG wedi diweddaru’r safon gysoni ethnigrwydd, y safon gysoni Dosbarthiad Economaidd-Gymdeithasol Ystadegau Gwladol (NS- SEC) y safon gysoni hunaniaeth genedlaethol a’r safon gysoni crefydd gyda’r nod o wella’r aliniad â Chyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr. Mae’r SYG hefyd wedi cyhoeddi’r canllawiau Coronafeirws (COVID-19) a diweddariad ar eu canllawiau cysoni rhyw sy’n darparu llinellau amser ar gyfer y gwaith.

Mae’r SYG yn cymryd rhan weithgar yn rhyngwladol ar gysoni, yn arbennig yng nghyd-destun cynllunio system ystadegau poblogaeth y dyfodol a dyfodol y cyfrifiad.

Mae’r SYG hefyd wedi cyhoeddi diweddariad Cynllun Gwaith Cydlyniant ar draws y GSS, cynllun ar gyfer gwella ystadegau is-genedlaethol ac mae’n cyflwyno gwasanaeth cynghori dadansoddol lleol newydd (SYG Lleol), gyda’r uchelgais o gwmpasu’r pedair gwlad, fel y crybwyllwyd o dan Egwyddor 4.

O’r 23 o ymrwymiadau sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun gweithredu sylfaenol gyda’r nod o wella hygyrchedd data a thystiolaeth, roedd y rhan fwyaf (21) naill ai wedi’u cwblhau neu ar y gweill ac ar y trywydd iawn erbyn diwedd mis Mawrth 2023.

Mae cynnydd da wedi’i wneud, gyda mentrau allweddol yn parhau rhwng 2023 a 2024. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi dechrau cyflwyno ffyrdd newydd o wneud data’n fwy hygyrch gan gynnwys cyhoeddi canlyniadau arolygon yn yr Wcrain ar gyfer arolwg Humanitarian Response Insights, a fideos i gyd-fynd â rhyddhau ymchwil ansoddol ar grwpiau o’r boblogaeth sy’n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd.

Gwnaed nifer o fentrau i wella mynediad at ddata gweinyddol gan gynnwys drwy ryddhau setiau data newydd neu estynedig gan gynnwys y rhai gan y Swyddfa Gartref, y Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau, yr Adran Addysg a’r Swyddfa Myfyrwyr.

Mae dangosfyrddau neu syllwyr data newydd wedi’u rhyddhau gan y SYG o ran Cyfrifiad 2021 ‘Creu Set Ddata Pwrpasol’ a chan eraill gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yr Adran Addysg, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a’r Swyddfa Gwella Iechyd a Gwahaniaethau. Mae’r ffordd ymlaen ar gyfer datblygu porth defnyddwyr ar gyfer gwell mynediad at ddata cydraddoldeb wedi’i nodi yng nghyd-destun datblygiad y Gwasanaeth Data Integredig.

Fe fu cynnydd o ran symud data i fformat HTML gan nifer o adrannau gan gynnwys Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau. Mae Swyddogaeth Ddadansoddi’r Llywodraeth wedi cynhyrchu e-ddysgu newydd ar arfer gorau wrth gyhoeddi delweddau data. Mae’r SYG wedi ymgysylltu’n helaeth â defnyddwyr yng nghyd-destun y gwaith i baratoi ar gyfer argymhelliad yr Ystadegydd Gwladol ar drawsnewid ystadegau am y boblogaeth, ac mae cynlluniau pellach ar gyfer hyn yn eu lle yn 2023 i 2024.

Back to top
Download PDF version (956.81 KB)