Atodiadau
Atodiad A: Llinell Amser a Dogfennau Allweddol Menter y Tasglu Data Cynhwysol
Mis/ Blwyddyn: Gorffennaf 2020
Cynnyrch/Digwyddiad: Cyhoeddi Strategaeth Awdurdod Ystadegau’r DU (2020-2025)
Dogfen Ategol: Statistics for the public good
Mis/ Blwyddyn: Hydref 2020
Cynnyrch/Digwyddiad: Cynnull Tasglu Data Cynhwysol y DU (IDTF)
Dogfen Ategol: Lansio’r Tasglu
Mis/ Blwyddyn: Medi 2021
Cynnyrch/Digwyddiad: Adroddiad Argymhellion y Tasglu
Dogfen Ategol: Gadael neb ar ôl – Sut y gallwn fod yn fwy cynhwysol yn ein data?
Mis/ Blwyddyn: Medi 2021
Cynnyrch/Digwyddiad: Ymateb gan yr Ystadegydd Gwladol i’r Argymhellion
Dogfen Ategol: Ymateb cyhoeddedig
Mis/ Blwyddyn: Ionawr 2022
Cynnyrch/Digwyddiad: Cynllun Gweithredu’r Tasglu Data Cynhwysol gan gynnwys pennu’r 46 ymrwymiad cyntaf
Dogfen Ategol: Hafan y Cynllun Gweithredu
Mis/ Blwyddyn: Hydref 2022
Cynnyrch/Digwyddiad: Sefydlu Pwyllgor Cynghori ar Ddata Cynhwysol yr Ystadegydd Gwladol (NSIDAC)
Dogfen Ategol:Hafan NSIDAC Cofnodion a Phapurau
Mis/ Blwyddyn: Mai 2023
Cynnyrch/Digwyddiad: Ymgorffori Cynwysoldeb yn nata’r DU: diweddariad 2023 ar weithredu argymhellion Data Cynhwysol
Dogfen Ategol: Hafan Adroddiad 2023
Mis/ Blwyddyn: Mai 2023
Cynnyrch/Digwyddiad: Nodi ymrwymiadau ychwanegol (yn niweddariad 2023)
Dogfen Ategol: Ymrwymiadau’r dyfodol
Mis/ Blwyddyn: Awst 2024
Cynnyrch/Digwyddiad: Ymrwymiadau’r Tasglu Data Cynhwysol: Adroddiad Cynnydd Blynyddol 2024
Dogfen Ategol: Hafan Adroddiad 2024
Mis/ Blwyddyn: Mawrth 2025
Cynnyrch/Digwyddiad: Diwedd cyfnod monitro’r Fenter
Dogfen Ategol: dd/g
Mis/ Blwyddyn: Hydref 2025
Cynnyrch/Digwyddiad: Ymrwymiadau’r Tasglu Data Cynhwysol: Adroddiad Cynnydd Blynyddol 2025
Dogfen Ategol: Rhan gyntaf yr adroddiad hwn
Mis/ Blwyddyn: Hydref 2025
Cynnyrch/Digwyddiad: Adroddiad Gwerthuso
Dogfen Ategol: Yr adroddiad hwn
Atodiad B: Canfyddiadau ymchwil gan y Tasglu Data Cynhwysol
Comisiynodd y Tasglu ymarfer i gasglu data mewn amrywiaeth o ffyrdd am ganfyddiadau ynghylch pa mor gynhwysol yw data a thystiolaeth y DU a ph’un a allent fod yn fwy cynhwysol. Yna cafodd y data hyn eu cydgasglu a’u cyhoeddi fel rhan o’r adroddiad terfynol. Caiff y testun o’r adroddiad terfynol hwn ei gopïo isod. Dyma’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer Argymhellion y Tasglu.
- Ymgysylltodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ag amrywiaeth o gynulleidfaoedd ar ran y Tasglu Data Cynhwysol er mwyn deall sut y gall data a thystiolaeth fod yn fwy cynhwysol, a’r gofynion penodol ar gyfer hyn. Roedd hyn yn cynnwys arferion casglu data, sut y caiff data eu defnyddio, sut y caiff tystiolaeth ei chyflwyno, a ble y ceir bylchau mewn data neu dystiolaeth y gellid eu llenwi er mwyn bod yn fwy cynhwysol. Ystyriodd y Tasglu yr holl dystiolaeth a gasglwyd wrth wneud ei argymhellion terfynol.
- Gwnaeth y Ganolfan Cydraddoldebau a Chynhwysianto fewn SYG arwain sawl pecyn ymchwil ar gyfer y Tasglu, eu dylunio a’u rhoi ar waith. Y nod oedd ymgysylltu ag aelodau o’r cyhoedd, grwpiau cydraddoldeb, academyddion, sefydliadau cymdeithas sifil, melinau trafod, y gweinyddiaethau datganoledig ac adrannau llywodraeth ganolog ynghylch cynwysoldeb mewn data.
- Ddechrau mis Ionawr 2021, lansiodd SYG ymgynghoriad ar-lein agored er mwyn ceisio barn ar ba mor gynhwysol yw data a thystiolaeth y DU, gan gynnwys meysydd i’w gwella ac enghreifftiau o arferion da. Cafodd yr ymgynghoriad ar-lein ei hyrwyddo’n eang ymhlith rhanddeiliaid mewnol ac allanol, yn ogystal ag aelodau o’r cyhoedd. Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 26 Mawrth 2021.
- Hefyd, cynhaliodd SYG drafodaethau bord gron a chyfweliadau manwl â chynrychiolwyr y gweinyddiaethau datganoledig, awdurdodau lleol, llywodraeth ganolog, academyddion a chymdeithasau dysgedig. Cynhaliwyd y grwpiau a’r cyfweliadau hyn rhwng mis Ionawr 2021 a mis Ebrill 2021.
- Hefyd, comisiynodd y Tasglu gwmni Basis Social i gynnal grwpiau ffocws a chyfweliadau manwl â sefydliadau cymdeithas sifil ac aelodau o’r cyhoedd sydd wedi cael profiad o amrywiaeth o faterion yn ymwneud â chydraddoldeb. Gwnaed y gwaith ymchwil hwn rhwng mis Chwefror 2021 a mis Ebrill 2021.
- Cynhaliwyd ymgynghoriad papur hefyd fel cyfle arall i gasglu barn y cyhoedd, yn enwedig y grwpiau hynny sy’n wynebu’r risg fwyaf o gael eu hallgáu’n ddigidol. Roedd yn bwysig casglu barn y grwpiau hyn er mwyn i’r ymgynghoriad ei hun fod yn gynhwysol, yn enwedig yn sgil y defnydd eang o ddulliau casglu data ar-lein ers dechrau’r pandemig. Gwnaed y gwaith ymchwil hwn ym mis Ebrill 2021.
- Hefyd, sefydlwyd blwch negeseuon swyddogol yn benodol er mwyn i bartïon â diddordeb ohebu â’r Tasglu. Logiwyd pob neges e-bost ac atodiad, gan gynnwys ymatebion i’r Ymgynghoriad Ar-lein ar Ddata Cynhwysol, ac adroddiadau a mentrau a oedd yn mynd rhagddynt mewn perthynas â chynwysoldeb data a thystiolaeth. Cawsant eu hanfon ymlaen at aelodau o’r Tasglu a’u hystyried wrth ddrafftio’r adroddiad argymhellion. Cafodd ymatebion i’r Ymgynghoriad Ar-lein ar Ddata Cynhwysol a anfonwyd drwy e-bost erbyn y dyddiad cau (26 Mawrth 2021) eu cynnwys yn y dadansoddiadau a’r adroddiadau, ochr yn ochr â’r ymatebion a gyflwynwyd ar-lein drwy Citizen Space.
Atodiad C: Damcaniaeth Newid
Canlyniadau
- Amrywiaeth a chynrychiolaeth well o fewn strwythurau llywodraethu
- Gweithlu mwy amrywiol – denu a chadw gweithlu amrywiol sy’n adlewyrchu cymdeithas yn well
- Gwella cyfranogiad mewn ymchwil sy’n arwain at gyfraddau ymateb gwell a mwy o gynrychiolaeth
- Defnyddio rheolaethau llywodraethu priodol a defnyddio gwersi a ddysgwyd
- Rhannu mwy o wybodaeth â rhanddeiliaid y tu allan i’r llywodraeth
- Sylw digonol yn naliadau data’r DU i grwpiau poblogaeth gwahanol ar draws agweddau allweddol ar fywyd
- Gwell gwaith ymgysylltu â defnyddwyr a dealltwriaeth o anghenion defnyddwyr
- Dadansoddiadau croestoriadol cadarn wedi’u dadgyfuno ar gael i ddefnyddwyr
- Digon o eglurder o safbwynt y cysyniadau sy’n cael eu cofnodi i alluogi ymchwilwyr, ymatebwyr a defnyddwyr data i feithrin dealltwriaeth gyson o’r data a gesglir
- Gwybodaeth newydd am brofiadau bywyd ystod eang o grwpiau poblogaeth
- Data ehangach ar gael ar gyfer ystod eang o grwpiau poblogaeth
- Data a thystiolaeth mwy hygyrch a sicrhau cyfrinachedd y rhai sydd wedi’u cynnwys yn y data
Effeithiau
- Mwy o ymddiriedaeth ymhlith y cyhoedd o safbwynt cymryd rhan yng nghasgliadau data’r llywodraeth a gweithgareddau rhannu data
- Cyfranogiad ehangach yn arolygon y llywodraeth a gweithgareddau rhannu data
- Y llywodraeth yn cynhyrchu data o ansawdd uwch drwy weithio mewn ffordd systemig a chydweithredol gan gynnwys ystod ehangach o grwpiau mewn ffordd fwy cadarn a chyson, gan roi gwybodaeth am holl boblogaeth y DU
- Mwy o ddefnyddwyr data, gan gynnwys y cyhoedd a sefydliadau, yn dweud eu bod yn gallu cael gafael ar y data a’r dystiolaeth sydd eu hangen arnynt gan y llywodraeth a’u bod yn hawdd i’w defnyddio.
Data a thystiolaeth y DU yn fwy cynhwysol fel pob pawb yn cyfrif ac yn cael eu cyfrif.
