Egwyddor Data Cynhwysol 1

Creu amgylchedd o ymddiriedaeth a dibynadwyedd sy’n galluogi ac yn annog pawb i gyfrif a chael eu cyfrif yn nata a thystiolaeth y DU.

Ein dull

Byddwn yn gwella’r broses o ryngweithio â gwahanol grwpiau o’r boblogaeth a’r rhai nas cynrychiolir yn ddigonol ar hyn o bryd mewn amrywiaeth o ffyrdd. Bydd hyn yn cynnwys ymgysylltu â phoblogaethau perthnasol mewn ffyrdd newydd er mwyn deall eu safbwyntiau’n well.

Bydd Awdurdod Ystadegau’r DU yn chwarae rôl allweddol wrth nodi a hyrwyddo mentrau i wella’r rhyngweithio a meithrin ymddiriedaeth â’r rhai sy’n cymryd rhan mewn arolygon ac ymchwil, gan hwyluso’r gwaith o rannu canllawiau ac arfer dda ar draws system ystadegol y DU.

Gwaith sy'n mynd rhagddo ac yn yr arfaeth

  • Mae SYG yn datblygu ‘Contract Cymdeithasol’ â’r rhai sy’n cymryd rhan mewn ymchwil ar y wybodaeth maent yn dewis ei rhannu. Bydd hyn yn darparu gwybodaeth glir am y rheswm dros gasglu data, trefniadau cyfrinachedd a diogelwch a manylion ynghylch sut y caiff eu gwybodaeth ei defnyddio a’i rhannu. Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu’r cynnyrch hwn a’i brofi gyda grwpiau a phoblogaethau perthnasol cyn ei lansio yn haf 2022 fwy na thebyg.
  • Ers i’r argymhellion gael eu lansio, mae Canolfan Moeseg Data Cymhwysol Awdurdod Ystadegau’r DU wedi cyhoeddi canllawiau i ddadansoddwyr ar ystyriaethau moesegol er mwyn sicrhau bod data ymchwil ac ystadegau’n gynhwysol. Pwysleisia’r defnydd o hunanadrodd nodweddion personol ac mae’n cynnwys canllawiau penodol ar gasglu data plant a phobl ifanc.
  • Mae Strategaeth Arolygon newydd SYG yn cyflwyno gweledigaeth y dyfodol ar gyfer arolygon a’r prif nod yw ei gwneud hi’n haws i ddefnyddwyr data ddarparu ystadegau er budd y cyhoedd gan ddilyn Cod Ymarfer yr Awdurdod Ystadegau. Bydd y strategaeth a’r map ategol yn sicrhau bod argymhellion y Tasglu yn cael eu cynnwys yn holl arolygon SYG.

  •  Fel rhan o’r Strategaeth Ymgysylltu â Defnyddwyr ar gyfer Ystadegau, bydd SYG yn sefydlu Canolfan Ymgysylltu er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd y set ehangaf bosibl o ddefnyddwyr er mwyn adlewyrchu’r holl boblogaeth, gan wneud argymhellion ar sut rydym yn casglu, yn dadansoddi ac yn cyflwyno gwaith dadansoddi ac ystadegau yn SYG ac ar draws y llywodraeth. Sefydlir y ganolfan yn 2022.
  • Gan adeiladu ar y gwaith allgymorth mewn cymunedau ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr, bydd SYG yn parhau i ymgysylltu â grwpiau nas cynrychiolir yn ddigonol drwy gydol 2022 a 2023, er mwyn sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu hadlewyrchu yng ngwaith dadansoddi ac allbynnau’r cyfrifiad ac yn yr ymchwil a chynlluniau ar gyfer argymhelliad yr Ystadegydd Gwladol ar ddyfodol y cyfrifiad ac ystadegau o’r boblogaeth, yn ogystal â set lawer ehangach o ystadegau a gwaith dadansoddi.
  • Fel model ymgysylltu â’r gymuned Cyfrifiad 2021, bydd SYG yn gwerthuso natur ymarferol y gwaith o ymgysylltu â grwpiau o gymunedau nas cynrychiolir yn ddigonol yng nghyd-destun arolygon gwirfoddol cartrefi yn 2022.
  • Bydd yr Adran Addysg yn parhau i feithrin ymddiriedaeth ag athrawon ac arweinwyr ysgolion a cholegau drwy’r Panel Ysgolion a Cholegau, yn cynnwys rhannu canlyniadau fel bod modd trafod pynciau allweddol wrth alluogi’r rhai ar lawr gwlad i ddweud eu dweud yn gwbl ddienw.
  • Bydd King’s College Llundain yn parhau i ddefnyddio Citizen Science i gasglu data gyda chymunedau, gan weithio gydag ef i feithrin cydberthnasau, a chynnwys cyfranogwyr yn y gwaith o gasglu data, gan sefydlu dull gwahanol, mwy cynhwysol a diddorol o gasglu data.

  • Bydd Swyddogaeth Dadansoddi’r Llywodraeth yn gweithio mewn partneriaeth â’r proffesiynau dadansoddol ar draws y llywodraeth er mwyn cyflawni ei strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant, gyda’r nod o greu cymuned ddadansoddi wirioneddol amrywiol a chynhwysol sy’n adlewyrchu cymdeithas y DU a wasanaethwn. Ymhlith blaenoriaethau 2022 mae lansio rhaglen fentora ar y cyd, lledaenu ymhellach becyn cymorth cynhwysiant cyntaf ein swyddogaeth a pharhau i gyflwyno digwyddiadau datblygu ar gyfer grwpiau nas cynrychiolir yn ddigonol.
  • Yn unol â Strategaeth Pobl SYG a’i Strategaeth newydd ar gyfer Arolygon, bydd SYG yn ceisio sicrhau bod ei gweithlu yn llawn gynrychioli’r bobl rydym yn eu gwasanaethu. Yn 2022 mae Arolygiaeth Arolygon SYG yn ymrwymedig i archwilio amrywiaeth a natur gynrychioliadol ei gweithlu, yn cynnwys recriwtio cyfwelwyr ar gyfer arolygon cymdeithasol, i ddatblygu argymhellion sy’n mynd i’r afael ag unrhyw rwystrau posibl, fel y gall greu gweithlu mwy amrywiol sydd ynghlwm wrth gasglu data gan y cyhoedd.
  • Bydd SYG yn ceisio cynnwys ymrwymiad i gynwysoldeb ac amrywiaeth staff sy’n casglu data fel rhan o arolygon dan gontract pan adnewyddir contractau.
  • Fel rhan o argymhellion Adolygiad Gwersi a Ddysgwyd Windrush, mae’r Swyddfa Gartref wedi ymrwymo i ddiweddaru ei strategaeth amrywiaeth a chynhwysiant a bydd yn cyhoeddi Ystadegau blynyddol ar Amrywiaeth y Gweithlu o ddiwedd mis Mawrth 2022.
  • Mae’r Swyddfa Myfyrwyr wedi pennu targedau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant i greu mwy o amrywiaeth o fewn y gweithlu ac arwain at newid sylweddol yn y ffordd y mae’r sefydliad yn gweithio, gan arwain at well canlyniadau i’r sefydliad a’r rhai maent yn eu rheoleiddio ar ei ran. Bydd nodweddion staff y Swyddfa yn cael eu monitro bob chwarter a chyhoeddir adroddiadau blynyddol ar hynt targedau.

  • Mae SYG yn cynnal adolygiad o brosesau gweithredol sy’n gysylltiedig â chasglu data yn ein portffolio presennol o arolygon cymdeithasol er mwyn pennu’r rhwystrau i gymryd rhan, yn cynnwys ymhlith y rhai nas cynrychiolir yn ddigonol yn yr ystadegau. Bydd hyn yn galluogi cynllunio prosesau gweithredol lle caiff rhwystrau eu hatal, eu dileu neu lle cymerir camau lliniaru yn eu herbyn. Cwblheir y gwaith o nodi rhwystrau a chynnig atebion yn 2022, a ddilynir gan ymchwil i nodi’r atebion gorau i’w rhoi ar waith.
  • Mae SYG yn trawsnewid ei phortffolio o arolygon cartrefi ac yn symud i gasglu data ar lein yn gyntaf, gyda dulliau eraill (dros y ffôn ac wyneb yn wyneb) yn cefnogi’r broses o gasglu data lle bo’n briodol. Bydd y gwaith hwn yn adeiladu ar sawl blwyddyn o ymchwil i drawsnewid ein harolygon cymdeithasol fel eu bod yn ddigidol fel mater o drefn. Bydd y trywydd aml-ddull hwn yn sicrhau bod unrhyw ymatebwyr na allant gwblhau’r arolwg ar lein neu nad ydynt yn dymuno gwneud hynny hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan, a bydd yn mynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n wynebu pobl lle nad Cymraeg neu Saesneg yw eu hiaith gyntaf, y rhai nad oes ganddynt sgiliau digidol, a rhwystrau posibl eraill i gwblhau arolygon. Yn 2022 byddwn yn profi ac yn gwerthuso ymhellach ein trywydd aml-ddull fel bod modd gwneud penderfyniadau ynghylch sut rydym yn casglu data arolygon yn y dyfodol. Mae’r gwaith penodol yn cynnwys y canlynol:
    • Bydd SYG yn ystyried pa mor ymarferol yw hi i gynnal Astudiaeth Heintiadau COVID-19 digidol yn gyntaf aml-ddull, gyda chyfweliadau dros y ffôn i gefnogi pobl nad ydynt ar lein a phecynnau profi gartref i gefnogi pobl na allant fynd yma ac acw. Gwneir hyn yn haf 2022.
    • Bydd Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr hefyd yn cynnig arolwg aml-ddull er mwyn lleihau’r rhwystrau i gymryd rhan, yn amodol ar gyllid. Wrth i waith fynd rhagddo i ddatblygu’r dyluniad amgen hwn, mae SYG yn parhau i gynnal cyfweliadau wyneb yn wyneb (fel sy’n briodol yn ystod pandemig COVID-19), fel y gellir casglu profiadau personol sydd ond yn bosibl drwy’r dull hwn. Bydd hyn yn golygu y gellir dadansoddi ystadegau troseddau yn ôl hunaniaeth o ran rhywedd yn 2023 a dadansoddi troseddau casineb yn seiliedig ar set ddata gyfun 3 blynedd yn 2025. Disgwylir i’r arolwg aml-ddull ar ei newydd wedd gael ei gyflwyno yn 2024.
    • Bydd SYG yn gwerthuso ymatebion yn ôl nodweddion gwahanol ar yr Arolwg Defnydd Amser yn 2022 er mwyn deall y rhwystrau ymarferol i gymryd rhan ac a oes angen gwneud addasiadau i fynd i’r afael â nhw. Yn seiliedig ar hyn, gwneir rhagor o ymchwil defnyddwyr yn 2023, yn cynnwys adolygu’r offeryn ar gyfer gwahanol grwpiau o’r boblogaeth a phoblogaethau iau, er mwyn ystyried pa mor ymarferol yw hi i gasglu data yn uniongyrchol gan blant.
  • Yn ystod 2022, bydd Rhaglen Gwella Data Cydraddoldeb Llywodraeth yr Alban yn ystyried comisiynu ymchwil annibynnol gyda phobl â phrofiad uniongyrchol o feddu ar nodweddion gwarchodedig gwahanol a chroestoriadol er mwyn archwilio materion ymateb a’r rhwystrau i gymryd rhan mewn arolygon. Defnyddir canfyddiadau’r ymchwil hon i ddatblygu canllawiau arfer orau er mwyn helpu casglwyr data’r sector cyhoeddus i wella eu cyfraddau ymateb.
  • Yn ystod 2021/22, bydd yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn gwneud gwaith i ddeall effaith cymhellion ar ymatebion i’r Arolwg Cyfranogi, er mwyn nodi’r ffordd orau o wella cynwysoldeb ei harolygon. Bydd yr Adran yn parhau i ddarparu holiaduron papur ar gyfer y rhai na allant gymryd rhan mewn arolygon digidol ac yn monitro ceisiadau am arolygon mewn ieithoedd heblaw Saesneg, fel bod adnoddau arolygon yn fwy hygyrch.
  • Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd wedi cyhoeddi ei adroddiad ffurfiol cyntaf ar ddata amrywiaeth a bydd yn cyhoeddi data bob blwyddyn er mwyn deall y diffygion yn ei systemau, a’r tueddiadau yn ei phrosesau, sydd wedi golygu na chaiff rhai cymunedau, yn enwedig rhai grwpiau ethnig a phobl ag anableddau, eu cynrychioli’n ddigonol mewn ymchwil. Bydd y Sefydliad yn cyflwyno rhaglenni newid, er enghraifft fel rhan o’i raglenni cymrodoriaeth a phroffeswriaeth ymchwil, gan brofi cynlluniau â chymunedau perthnasol i sicrhau ei fod yn defnyddio adnoddau yn yr ardaloedd sydd eu hangen fwyaf.
  • Mae City, Prifysgol Llundain wedi gweithio gyda sefydliadau trydydd sector yn y sector Trais yn erbyn Menywod a Merched i wella offerynnau casglu data. Bydd systemau casglu data newydd ar gyfer rhai darparwyr trydydd sector ar waith yn 2022.

  • Mae SYG yn ystyried ffyrdd o gynnwys newidynnau cynllun arolwg mewn setiau data Arolygon Cyfoeth ac Asedau sydd ar gael i’r cyhoedd, gan ystyried datgelu, er mwyn galluogi defnyddwyr i gyfrifo dangosyddion data ystyrlon o’r data cyhoeddus. Gwneir gwaith cwmpasu yn 2022, ac fe’i rhoddir ar waith wedyn yn dibynnu ar y canlyniad.
  • Bydd Canolfan Trais a Chymdeithas City, Prifysgol Llundain yn creu cyfrif epistemolegol o’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag cael gafael ar ddata a’u defnyddio, a’r atebion posibl, yn seiliedig ar drafodaethau ymhlith cyfranwyr academaidd a darparwyr data, a gyhoeddir yn 2023.

Back to top
Download PDF version (1.04 MB)